Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Clebran
Yn y llun, a dynnwyd ar noson lansio Cystadleuaeth Baled Bro Beca gwelir (o'r chwith i'r dde): Richard Meade, ACTT; Tecwyn Ifan; Sarah Pugh, Swyddog Prosiect Bro Beca PLANED; Mererid Hopwood a Hywel Teifi Edwards. Her Baled Bro Beca
Medi 2005
Rhoddwyd her i haneswyr ac egin-gyfansoddwyr Sir Benfro gan Hywel Teifi Edwrads i gyfansoddi baled i gofio am chwedl Beca.
Cadd Beca ei geni yng Nghymru fel fi
Yn faban corfforol ym mhlwyf Mynachlog Ddu,
Fe dyfodd i fyny yn uchel ei phen,
Fe gymrodd lawn feddiant o Gât Efail Wen.

Dyma faled Levi Gibbon "Hanes Beca a'i Merched" a gyfansoddwyd a chyflwynwyd i Rebecca yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. A ninnau yn yr unfed ganrif ar hugain, ac yn dilyn her gan Hywel Teifi Edwards, rydym yn galw ar haneswyr ac egin-gyfansoddwyr baledi i barhau â chwedl Rebecca heddiw yn yr un modd a wnaeth Levi Gibbon ar y pryd.

Yn y llun, a dynnwyd ar noson lansio Cystadleuaeth Baled Bro Beca gwelir (o'r chwith i'r dde): Richard Meade, ACTT; Tecwyn Ifan; Sarah Pugh, Swyddog Prosiect Bro Beca PLANED; Mererid Hopwood a Hywel Teifi Edwards.

Mae Prosiect Bro Beca yn cynnal cystadleuaeth baled i ddathlu hanes Terfysgoedd Rebecca yng Ngorllewin Cymru rhwng 1839- 1844.

Lansiwyd y gystadleuaeth yn swyddogol ar nos Wener Gorffennaf 8fed, 2005 yn Nghaffi Beca, Efailwen, gan Mererid Hopwood, Tecwyn Ifan a Hywel Teifi Edwards.

Cynhelir Cystadleuaeth Baled Bro Beca yn Nhy Bloomfield, Arberth ar nos Wener 4ydd Tachwedd 2005 am 7yh. Mae'r gystadleuaeth yn agored i bobol o bob oedran ac mae dosbarthiadau Cymraeg a Saesneg ynddi.

Merêd Evans, Phyllis Kinney, Robyn Tomos a Tegwyn Jones fydd yn beirniadu'r gystadleuaeth. Dylai thema'r faled gael ei selio ar hanes Terfysgoedd Rebecca a chael ei osod i dôn sydd eisoes yn bodoli. Fe fydd rhaid i chi berfformio eich baled ar y noson neu drefnu i rywun ei berfformio ar eich ran.

Mae Texaco wedi cytuno i noddi'r gwobrau am dosbarthiadau'r ieuenctid. Mae busnesau a sefydliadau lleol, gan gynnwys Ivor Rees a'i Fab, Brodyr Richards, Brodyr Young a Menter Iaith Sir Benfro, wedi cyfrannu tuag at noddi'r gwobrau yn nosbarth yr oedolion.

Gwobrau
Cystadleuaeth Oedolion Cymraeg/Saesneg
1af= £150, 2ail= £100, 3ydd= £50
Cystadleuaeth Ieuenctid Cymraeg/Saesneg
1 af= £150, 2ail= £100, 3ydd= £50
Perfformiad orau'r noson yn y Gymraeg/Saesneg- Tlws

Dyddiad cau ceisiadau i'r gystadleuaeth yw Dydd Gwener 21ain Hydref 2005.

Am fwy o wybodaeth am Gystadleuaeth Baled Bro Beca ac i dderbyn ffurflen gofrestri, neu os hoffech noddi gwobr cysylltwch â Sarah Pugh yn PLANED ar 01834 862105 neu sarahp@planed.org.uk. Ceir manylion hefyd ar ein gwefan brobeca.co.uk

Prosiecttreftadaeth cymunedol ary cyd yw Bro Beca rhwng ACTT yn Sanclêr a PLANED yn Arberth ac mae wedi ei ran-ariannu gan Gronfa Cyfarwyddyd a Gwarant Amaethyddol Ewropeaidd Amcan 1 yr Undeb Ewropeaidd.

Diolch yn fawr i Aled Vaughan am fod yn Glebranwr y mis hwn.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý