Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Clebran
Wyau Ffair Crymych
Ionawr 2006
Mae'n bur debyg bod nifer dda ohonoch chi, ddarllenwyr Clebran, fel finne, yn cofio'r adeg pan oedd marced yn cael ei chynnal yn Neuadd y Farchnad yng Nghrymych ar y dydd Mawrth olaf o bob mis.
Roedd hwn yn gyfle i grefftwyr a chynhyrchwyr i ddod â'u nwyddau i'w gwerthu ac yn gyfle, yn ogystal, i bobl ffermydd ardal y Preselau i ddod i Grymych - y gwŷr i brynu ac i werthu yn y mart a'r gwragedd i ymweld â'r farchnad yn ogystal â siopau'r pentref.

Roedd hwn yn ddiwrnod prysur i bawb a'r awyrgylch yn y pentref yn rhywbeth gwahanol i'r arfer. Ac yna ar y dydd Mawrth olaf yn Awst roedd yr awyrgylch yn arbennig iawn gan ei bod yn ddiwrnod ffair Crymych yn ogystal - pinacl y flwyddyn a channoedd o bobl ardal gyfan yn tyrru i'r pentref yn ystod y dydd a than hanner y nos.

Mae ffair Awst wedi dal yn boblogaidd ond gyda threigl y blynyddoedd a gweld agor archfarchnadoedd ac ati edwino wnaeth y stondinau yn Neuadd y Farchnad.

Er mwyn ceisio ail gynnau'r bwrlwm a fu daeth y syniad oddi wrth Bwyllgor Mileniwm Crymych - gyda throad y ganrif- mai da o beth fyddai mynd ati i drefnu Ffair Fwyd yn Neuadd y Farchnad ar ddiwrnod y ffair. Ac felly wedi tipyn o drafod a phwyllgora a gyda chymorth ymarferol PLANED ac Awdurdod Datblygu Cymru cynhaliwyd y Ffair Fwyd gyntaf yn 2002.

Roedd yr ymateb gan werthwyr a phrynwyr yn galonogol dros ben. Cefnogwyd y Ffair gan siopwyr bwydydd y pentref a chynhyrchwyr o siroedd Penfro, Ceredigion a Chaerfyrddin, cyfanswm o 20 stondin gyda phrynwyr o bell ac agos yn troi i mewn i'r neuadd ac wrth eu bodd i gael y cyfle i flasu a phrynu cynnyrch cartref unwaith yn rhagor.

Y neuadd o dan ei sang a chyfle, yn ogystal, i eistedd i fwynhau arddangosiadau coginio gan gogyddion o fri. Wedi diwrnod llawn bwrlwm, calondid i'r trefnwyr oedd ymateb ffafriol y stondinwyr oedd yn awyddus i gael cadw eu lle ar gyfer y flwyddyn ganlynol.

Yr un fu'r hanes o flwyddyn i flwyddyn ac erbyn Awst 2005 (y pedwerydd Ffair Fwyd) mae'r gefnogaeth wedi parhau a'r stondinwyr wedi dychwelyd bron yn ddi-eithriad bob tro. Yn 2003 ychwanegwyd Ffair Grefftau lwyddiannus a chyfle i grefftwyr lleol i arddangos eu gwaith mewn pabell ym Maes Ploveilh yn ogystal â llwyfan ar gyfer cerddorion o Gymru a thramor. (Pwy all anghofio'r wefr o weld a chlywed band pibau a drymiau Quimper yn ymdeithio trwy'r pentref yn ystod G ŵyl 2003?)

Mae'r crefftwyr a'r stondinwyr yn dal i ddangos diddordeb yng Ngŵyl Fwyd a Chrefft y Frenni - cyfanswm o 55 o fyrddau yn Awst 2005 a nifer ychwanegol ar y rhestr aros. Rhaid diolch i'r gwirfoddolwyr sydd wedi rhoi cymorth ymarferol i baratoi'r neuadd a'r babell ymlaen llaw a diolch i chi, y cyhoedd am eich cefnogaeth.

Wrth i'r Å´yl ddatblygu mae'n naturiol bod gwaith y trefnwyr yn cynyddu ac mae angen mwy o ddwylo - yn enwedig ar ddiwrnod y Ffair - os yw'r Å´yl i barhau. Bydd croeso mawr i chi yn ein cyfarfod nesaf ar Chwefror 6ed am 6.00 o'r gloch yng Nghlwb Rygbi Crymych.

Blwyddyn Newydd Dda!

Rhian James Davies


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý