Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Clebran
Pentref Eco Newydd yn Glandwr
Gorffennaf/Awst 06
Mae yna gynlluniau wedi eu cyhoeddi i greu pentref Eco newydd yn ardal y Preseli.
Y safle sydd dan olwg yw Fferm Pontygafel - yn Glandwr ble mae yna fwriad i gael 30 cartref Eco gyda 2 erw yr un - ar gyfer tyfu llysiau i bob cartref. Mae'r bobl sydd yn gwthio y syniad wedi creu mudiad newydd o'r enw LAMMAS ac yna chwilio am bobl a fydd am brynu i mewn i'r ffordd Eco o fyw. Pris y plotiau tir fydd £20,000 yr un ond fe fydd rheolau cadarn o ran y math o gartrefi a hefyd y ffordd o ailgylchu a chynhyrchu ynni cynaladwy ar gyfer sicrhau effaith isel ar yr amgylchedd.

Yn ystod mis Mehefin cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus ar fferm Pontygafel ble gwelwyd nifer o'r trigolion lleol yn troi allan i ddatgan eu pryder am gael datblygiad mor fawr yn y pentref a hefyd datblygiad nad oedd i weld yn berthnasol i bobl leol. Yr oedd y rhan helaeth o'r siaradwyr lleol a oedd yn erbyn y datblygiad yn bobl a oedd wedi symud i'r ardal ac ni chafwyd siawns i glywed oddi wrth y teuluoedd o aelwydydd Cymraeg.

Fe fu'r drafodaeth yn un go dwym ac er bod trefnwyr LAMMAS am gael pobl i ddod â syniadau ar ffurf gweithdai trafod o gwmpas gwahanol fyrddau a phynciau, fe wnaeth y siaradwyr lleol fynnu mai trafodaeth agored a phleidlais agored oedd angen i weld a oedd pobl am weld y datblygiad yma neu beidio. Ar ôl tipyn o weiddi fe benderfynwyd annog i bobl i adael eu sylwadau yn y blwch ymateb a threfnu digwyddiad eto yn yr haf.

Wrth adael y cyfarfod fe fu tipyn o drafodaeth anffurfiol rhwng y brodorion a'r trefnwyr ac ar y cyfan mae pawb yn cytuno bod angen edrych ar ffurf o leihau effaith llygredd a nwyon tÅ·-gwyrdd sydd yn effeithio'r awyrgylch a dyfodol y blaned. Ond roedd gweld datblygiad mor fawr heb weld sut yr oedd pobl leol, yn arbennig pobl ifanc leol, yn mynd i fod yn glwm yn peri gofid. Y teimlad gan nifer oedd bod angen edrych ar ddatblygiad graddol ac i gynnig cyfle i bobl ifanc leol i gael tai fforddadwy a fydd hefyd yn dai a allai arbed ynni ac yn datblygu ar rai o'r agweddau o'r canllawiau Eco yr oedd LAMMAS yn gwthio.

Fe fydd nawr cyfarfod cyhoeddus pellach gan LAMMAS yn cael ei gynnal ar safle Ysgol Gynradd Glandwr ar y nos Wener 18fed o Awst 2006 rhwng 6.00 o'r gloch a 9.00 o'r gloch. Mae yna farbeciw wedi ei drefnu a chroeso i bawb ddod ynghyd i weld lluniau a'r gwybodaeth ddiweddaraf y bydd LAMMAS wedi darparu.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý