Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Clebran
Holi Mari Grug
Gorffennaf/Awst 2009
Mae cylchgrawn Sgrîn Bro yn ymddangos yn y papurau bro dros yr haf. Darllenwch y sgwrs â'r gyflwynwraig Mari Grug.

Mae Mari Grug yn wreiddiol o Faenclochog. Mae'n wyneb cyfarwydd ar S4C ac yn aelod o dîm cyflwyno Y Tywydd. Dros yr haf bydd hi'n ymweld â gwyliau ledled Cymru fel rhan o'r gyfres Digwyddiadau 09. Sgrîn Bro fu'n ei holi.

Oeddet ti'n blentyn da neu ddrwg yn yr ysgol?

Yn blentyn da ar y cyfan! Ond roeddwn i'n cael fy atgoffa'n aml 'mod i'n siarad gormod yn y dosbarth. Ro'n i hefyd yn bach o rebel gyda'r wisg ysgol - sodle rhy uchel, sgert bach yn fyr a lliw yn y gwallt. Un haf wy'n cofio rhoi lliw 'sun-in' yn fy ngwallt. Roedd hyn yn groes i reolau'r ysgol, ac ar ôl y gwasanaeth fore Llun bu'n rhaid i bawb o'dd wedi torri'r rheol fynd i weld y Prifathro - sef fi a chriw o fechgyn o'dd wedi rhoi 'bleach' yn eu gwallte'. Roedd yn rhaid i'r bechgyn dorri'r lliw mas erbyn y diwrnod canlynol, ond o'n i'n methu, ac felly bu'n rhaid i Mam druan ffonio'r Prifathro i gael caniatâd i fi ddychwelyd i'r ysgol. Diolch byth, wnaeth Mr Lloyd adael fi nôl, a wnes i ddim rhoi lliw yn fy ngwallt tan bo fi'n gadael yr ysgol. Wel, bron a bod!

Pwy fu'r dylanwad mwya' arnat ti o fewn dy filltir sgwâr?

Mae sawl person wedi bod yn ddylanwad arna' i - fy rhieni, athrawon ysgol, athrawon canu a drama. Ond un wnaeth blannu'r hedyn berfformio yndda' i oedd y ddiweddar Tanwen Adams. Roedd hi'n byw drws nesa, yn athrawes ysgol Sul a hefyd yn dysgu i mi ganu. Gyda hi ges i lwyfan yn yr Unawd Cerdd Dant pan yn 4 mlwydd oed ac o'n i'n gwybod bryd 'ny 'mod i wrth fy modd yn perfformio.

Beth yw dy hoff atgof o'th filltir sgwâr?

Mae'n rhy anodd i ddewis un yn unig, felly dyma rai o'r uchafbwyntiau:

- Chwarae'r prif gymeriadau ym mhasiant y plant Eisteddfod Bro'r Preseli '95 a Sioe Magdalen gydag Ysgol y Preseli yn '99.

- Perfformio gyda Chôr Newyddion Da yn yr Albert Hall a chymryd rhan yn Sioe Theatr Bro'r Preseli, Dal dy Dir.

- Mynd i Draeth Mawr yn Nhrefdraeth ar ôl dod nôl o'r ysgol Sul.

- Mynd i grynhoi defaid i Dal Mynydd adeg cneifio.

Beth yw'r profiad gwaith gorau a gwaethaf i ti gael?

Wy'n credu bod y profiad gwaith gore a'r gwaetha wedi bod yn yr un lle, sef Caffi Beca, Efailwen. Wythnos ar ôl dechrau gweithio yno, wnes i ollwng tebot o ddwr twym ar fwrdd a bron iddo sarnu ar blentyn bach! Bues i'n lwcus i gadw'n swydd fel gweinyddes yno am saith mlynedd a hyd yn oed cael tip gan deulu'r plentyn. O'n i wrth fy modd yn gweithio yno, yn cael cydweithio â chymeriadau lliwgar yr ardal ond hefyd yn delio gydag ambell gwsmer lletchwith ar hyd y ffordd - mae'r cyfan hyn wedi bod o fudd mawr i mi.

Pa ddiddordebau sy' gen ti?

Wy wrth fy modd yn mynd allan am fwyd ac yn mwynhau unrhyw beth sy'n ymwneud â cherddoriaeth. Wy'n aelod o Gôrdydd, sy'n paratoi ar hyn o bryd ar gyfer Eisteddfod Llangollen. Wy'n mwynhau mynd i gyngherddau, i wyliau cerddorol neu jyst yn canu'r piano.

Lle fyddet ti'n treulio dy wyliau delfrydol?

Swn i'n dwli mynd i Seland Newydd. Wy erioed wedi bod ond ma' lot yn gweud bod hi'n debyg iawn i Gymru, golygfeydd godidog a bydden i'n gallu mwynhau'r môr a'r mynydd. Bydden i'n hurio camperfan ac yn treulio cyfnod yn teithio yn y ddwy ynys cyn gorffen y daith mewn gwesty pum seren.

Wyt ti'n barod ar gyfer y newid i ddigidol?

Ydw, mae'r ddau deledu yn y ty yn rhai digidol.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý