Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Clebran
Mattoidz Lot o swn lawr ar y fferm!
Medi 2003
Sut mae mynd ati i greu Glastonbury Gorllewin Gwyllt Cymru?

Deg band, un llwyfan, whompyn o system sain, un pabell gwrw ac wrth gwrs, bwyty gorau Cymru - y stondin 'te a tost'! Rhowch y cwbl lot mewn un cae mawr ar fferm Trefawr, Llanfyrnach a ry'ch chi hanner ffordd i Woodstock!

Swnio'n syml? Yn sicr, nid ar chwarae bach ma' rhywun yn trefnu gwyl roc yng nghysgod melinau gwynt Blaenwaun! Ond dyna'n gwmws beth wnaeth Bill Davies ar ddydd Sadwrn olaf Gorffennaf eleni.

Yng nghysgod y windymills (term technegol Brychan Llyr am y melinau) daeth torf go lew ynghyd i gefnogi gwyl gyntaf Music Live Ltd - er gwaetha' diwrnod o dywydd traddodiadol Sir Benfro! Pan glywais am yr wyl yn y lle cyntaf ro'n i'n gyffrous, er ychydig yn ddrwgdybus.

Bu'r angen am wyl fel hon yn Sir Benfro ers blynyddoedd - ond sut byddai denu torf i safle mor anghysbell? Chware teg i Bill - roedd ôl gwaith caled wrth farchnata'r wyl. Am fisoedd, bu posteri lliwgar yn cael eu gosod dros y lle a gwefan yr wyl, www.musicliveltd.com yn gwerthu'r digwyddiad yn dda gyda thocynnau ar werth arlein.

Wrth gyrraedd y maes, wedd hi'n amlwg faint o ymdrech oedd wedi mynd i'w drefnu. Roedd Bill wedi buddsoddi mewn feidr newydd - roedd hyd yn oed ganddo ei superfence ei hun i gadw'r gatecrashers mas! Ac roedd y parcio a'r stiwardio wedi'i drefnu gystal ag unrhyw Sioe neu Steddfod.

Roedd hi'n bleser i'n grwp ni, Mattoidz, gymryd rhan, ac os bydd Bill yn fodlon ein cael ni nôl flwyddyn nesaf, byddwn ni yno!

Mae'n amhosib adolygu'r holl fandiau oedd yn diddanu, ond wedd sawl un yn aros yn y cof. Grwp o fois ifanc lleol yw Feedbak, ac roedd eu perfformiad yn llawn egni ac angst, a'u caneuon eu hunain yn addawol iawn. Roedd setiau acwstig Brychan Llyr rhwng y bandiau hefyd yn syniad da er mwyn cadw pethau'n slic.


Dom
Dom
Ond, doedd dim amheuaeth pa grwp oedd wedi denu'r dorf fwya' - DOM. Fel gwin da, maen nhw'n gwella gydag oedran! Er nad nhw oedd yn cloi'r noson yn swyddogol (blwyddyn nesa falle Bill?) nhw oedd y sêr. Roedd hi'n amlwg bod Siôn yn mwynhau ar y llwyfan hefyd wrth iddo neidio dros y drymiau ar ddiwedd Anghenfil Clai gan ddod â set wych i ben, a phawb yn hapus eu bod wedi cael gwerth eu harian!!

Dwi 'di cael sawl sgwrs 'da pobol sy'n methu deall pam nad oes gwyl fawr yn Sir Benfro. Ma' cymaint o fandiau 'di dod o wlad yr hud a Iledrith dros y blynyddoedd, mae'n hen bryd cael llwyfan fel hwn i'r rhain ddod at ei gilydd i berfformio bob blwyddyn.

Dim ond un feirniadaeth sydd gennyf. Dylai mwy o fandiau lleol fod yn chwarae yn yr wyl er mwyn ennyn diddordeb pobol leol a rhoi sail gadarn ar gyfer y dyfodol. Dychmygwch cael DOM, Cerrig Melys, Brychan ac Ail Symudiad ar un noson gyda bandiau ifanc Feedbak a Mattoidz. A pham nad anelu at Meic Stevens, Gorkys a hyd yn oed Cerys Matthews yn y dyfodol? Ma' Sir Benfro wedi meithrin digon o dalent cerddorol dros y blynyddoedd - mae'n hen bryd i ni gael llwyfan fel hyn i'w harddangos â balchder.

Edrych mlân at y flwyddyn nesa yn barod Bill dal ati!! ... o ie... ac roedd Mattoidz yn wych wrth gwrs !!!

Hefin Thomas (prif leisydd Mattoidz)


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý