Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Clebran
Alice James Y dydd yn ymestyn - a'r holl waith hefyd!
Ebrill 2004
Alice James o Grymych yw 'Clebranwraig' y mis hwn. Mae'n sôn am ei bywyd o ddysgu Cymraeg, magu tri o blant ac astudio tuag at ei gradd yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin.
Fel rheol, mae'r dydd yn dechrau am 6 y bore. Ond os oes ysgrifennu traethawd i'w wneud, rwy'n codi am 4 neu 5. Pam mor gynnar? Yn syml, rwy'n fam i dri o blant sef Iolo Selyf sy'n 7 oed, a Mirain Iwerydd a Cellan Philip sy'n ddwy flwydd oed. Rwy hefyd yn fyfyriwr blwyddyn olaf yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin yn astudio Addysg a Saesneg. Ac er bod y dydd wedi dechrau ymestyn, dyw'r holl waith ddim wedi lleihau o gwbl!

Dechreuais y cwrs yng Nghaerfyrddin yn 1999 pan roedd Iolo yn ddwy oed. Ro'n i'n medru ymdopi'n iawn 'da magu Iolo ac astudio. Wedyn yn 2001 ffeindies i mas mod i'n disgwyl eto, a phenderfynais adael y coleg am flwyddyn er mwyn magu'r babi. Ond ces syrpreis, oherwydd ro'n ni'n disgwyl efeilliaid!

Ganwyd Mirain a Cellan bron dau fis yn gynnar ym mis Tachwedd 2000 a daeth newid ar fyd yn sgil eu dyfodiad. Roedd y bwriad gwreiddiol o ddychwelyd i'r coleg ymhen blwyddyn bellach yn amhosib, felly penderfynais aros gartre' am flwyddyn ychwanegol er mwyn magu'r plant.

Dychwelais i'r coleg yn 2003 er mwyn cwblhau fy mlwyddyn derfynol, ac ro'n i'n ffyddiog y byddwn yn gadael gyda gradd uchel. Ond wnes i erioed rhagweld y byddai'r flwyddyn olaf mor anodd. Fel y gŵyr pob mam, mae magu plant yn ddigon anodd, ond rwy hefyd yn gorfod cofio mod i'n fyfyrwraig yn ogystal. Oherwydd taw hon yw fy mlwyddyn olaf, mae'n rhaid imi weithio'n galed er mwyn ennill gradd dda. Ond haws dweud na gwneud!

Does gen i ddim darlithoedd ar ddydd Llun, ond mae'n ddiwrnod Cylch Ti a Fi. Gan fy mod yn Ysgrifenyddes Cylch Ti a Fi Crymych, rwy'n ceisio cyrraedd yno'n gynnar er mwyn paratoi ar gyfer y sesiwn. Fe ddylwn i fod yn darllen ar gyfer y coleg ar ddydd Llun, ond dwi ddim yn Ilwyddo i wneud y gwaith bob tro!

O ddydd Mawrth i ddydd lau rwy'n gadael yr efeilliaid naill ai gyda fy chwaer-yng-nghyfraith, neu gyda fy mam-yng-nghyfraith ac yn mynychu fy narlithoedd. Ar hyn o bryd mae dau draethawd 3,000 o eiriau ag un 5,000 o eiriau angen eu cwblhau erbyn dechrau mis Mai. Mae'n teimlo 'mhell i ffwrdd ar hyn o bryd a chymaint o bethe eraill i'w gwneud, ond mewn realiti, smo fe'n bell o gwbl.

Weithiau rwy'n genfigennus o'r myfyrwyr eraill, gan taw yr unig beth sy'n tynnu eu sylw nhw yw bar Undeb y Myfyrwyr. Ond ar yr un pryd rwy hefyd yn falch mod i wedi dychwelyd i'r coleg tra yn magu plant. Roedd 'na adegau pan o'n i'n teimlo y byddai'n haws rhoi'r gore i'r cwrs ac aros gartre tan bod yr efeilliaid yn mynd i'r ysgol. Ond rwy'n gwybod na fyddai hyn yn fy modloni.

Fy uchelgais erioed oedd mynd i ddysgu, ond gadewais yr ysgol yn annisgwyl yn 16 mlwydd oed. Doedd dim syniad 'da fi y byddwn yn symud i fyw i Gymru, yn dysgu Cymraeg, yn priodi ac yn magu teulu yma. Pwy fyddai wedi dychmygu,a finne wedi fy ngeni a'm magu yn Llundain?!

Ro'n i mor falch o gael y cyfle i gyfrannu i Clebran, oherwydd dwi'n dod o du fas yr ardal. Wrth ddysgu Cymraeg a magu teulu yng Nghrymych,dwi'n teimlo bellach fel rhan o'r gymdeithas. Mae'r cyfle hwn yn un o nifer o gyfleoedd sydd wedi dod i fi ers dysgu'r iaith.

Y profiad mwyaf cofiadwy oedd ennill Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genediaethol Tyddewi 2002, a chael fy nerbyn i Orsedd yr Eisteddfod.

Mae dysgu'r iaith wedi cyfoethogi fy mywyd, ac rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfleoedd sydd wedi dod yn sgil dysgu'r iaith. Nawr, y cam nesaf yw graddio o'r Brifysgol er mwyn i mi fedru parhau ar y Ilwybr i ddod yn athrawes.

Gan : Alice James

Oes gennych chi stori i'w hadrodd? Cysylltwch â ni trwy glicio yma gyda'ch stori neu eich sylwadau!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý