Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Clebran
Cerys Gruffydd, Rheolwr y Cynllun Prosiect Cenedlaethol Papurau bro Cymru
Mai 2005
Gyda chyfnod dwy flynedd y Prosiect Papurau Bro Lleol wedi dod i ben, hoffwn ddiolch o galon i holl swyddogion a darllenwyr Clebran am eich cydweithrediad a'ch cefnogaeth dros gyfnod y cynllun.

Gweinyddwyd y Prosiect Papurau Bro Lleol gan Antur Teifi ac fe'i ariannwyd gan gronfa Ewropeaidd Amcan Un. Roeddem yn cydweithio gyda phum papur bro ar draws yr ardal wledig sef Clebran, Y Lloffwr (bro Dinefwr), Y Garthen (Dyffryn Teifi), Y Cardi Bach (Dyffryn Taf), a Cwlwm (Caerfyrddin).

Penodwyd pum aelod o staff i weithio ar y Prosiect Papurau Bro Lleol sef Cerys Gruffydd, Rheolwr; Heledd ap Gwynfor, Golygydd Merched ac Ieuenctid; Aled Vaughan, Golygydd Hamdden ac Anabledd; Alison Gibbard, Swyddog Marchnata ac Annwen Jones, Swyddog Cynorthwyol.

Roeddem yn gweithio o dair swyddfa ar draws y sir, sef yn ardaloedd rhai o'r papurau bro - swyddfa Antur Teifi yng Nghaerfyrddin, swyddfa Menter Bro Dinefwr yn Llandeilo a swyddfa Menter Taf Myrddin yn Hendygwyn-ar-Daf.

Nod y Prosiect Papurau Bro LIeol oedd cydweithio gyda'r papurau yn unigol ac fel grŵp, er mewn eu datblygu ymhellach a sicrhau eu bod mewn sefyllfa gryfach ar gyfer y dyfodol. Fe wnaethom weithio yn agos iawn gyda chynrychiolwyr o'r pum papur, ac aethpwyd ati i'w cefnogi mewn nifer o ffyrdd gwahanol, rhestrir rhai isod:

  • Denu unigolion a mudiadau newydd i ysgrifennu erthyglau a cholofnau, rhai yn rheolaidd fel Colofn Rhocesi, ac eraill nawr ac yn y man yn ddibynnol ar newyddion lleol.

  • Cynnal cystadlaethau â gwobrau deniadol yn fisol, megis penwythnos i ddau yn Ffrainc, taith i ddau mewn balŵn, tocynnau teithio gyda Jones Login ayb.

  • Darparu offer cyfrifiadurol oedd yn cynnwys cyfrifiadur laptop, argraffydd, sganiwr, camera digidol a'r rhaglen gysodi Pagemaker, a darparu hyfforddiant pwrpasol ar sut i gysodi papur bro gan ddefnyddio hwn.

  • Sefydlu cyfeiriad e-bost er mwyn hwyluso derbyn deunydd bob mis, sef clebran@papurbro.org

  • Sefydlu Clebran fel corff cyfansoddiadol er mwyn ffynonellau amrywiol (denwyd arian i Clebran, er mwyn derbyn hyfforddiant cyfrifiadurol pellach.)

  • Cyhoeddi deunyddiau marchnata er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r papur yn lleol.

  • Casglu hysbysebion a chynorthwyo gyda gwerthu'r rhifyn arbennig o Clebran a gyhoeddwyd yn Awst 2004, Môr o Oleuni.

    Bu'r Prosiect Papurau Bro Lleol yn gynllun peilot newydd a chyffrous iawn - dyma'r tro cyntaf i unrhyw beth tebyg gael ei sefydlu yng Nghymru. Ond erbyn hyn, gyda chyfnod gwreiddiol y Prosiect wedi dod i ben, edrychwn ymlaen at nifer o ddatblygiadau cyffrous tebyg eraill. Mae Antur Teifi yn cydweithio gyda'r pum papur uchod ar hyn o bryd er mwyn eu sefydlu gyda'i gilydd fel corff elusennol, er mwyn parhau â'r gefnogaeth iddynt.

    Yn ogystal â hyn, rydym wedi derbyn cadarnhad o nawdd er mwyn sefydlu Prosiect Papurau Bro ar gyfer dau bapur bro arall yn Sir Gâr, sef Glo Mân yn Nyffryn Aman a Sosbanelli yn Llanelli. Rydym hefyd wedi cael cadarnhad o nawdd er mwyn sefydlu rhwydwaith genedlaethol ar gyfer papurau bro Cymru gyfan, a fydd yn gyfle iddynt ddysgu o'r hyn a wnaed yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, ac i gydweithio, rhannu syniadau a throsglwyddo arferion da.

    Ac ar ôl derbyn diddordeb wrth bapurau bro yng Ngheredigion a Sir Benfro, mae Antur Teifi hefyd yn gobeithio sefydlu Prosiect Papurau Bro yn y ddwy sir yma hefyd.

    Felly, wrth i un drws gau, does dim amheuaeth bod nifer o ffenestri yn agor, a nifer o ddatblygiadau cyffrous ar y gweill ar gyfer y papurau bro. Does dim amheuaeth bod y papur bro yn drysor gwerthfawr ym mhob ardal, a rhaid i bob un ohonom sicrhau ei barhad trwy brynu copi o'n papur Ileol ni bob mis. Wedi'r cyfan, mae 70c yn arian bach iawn er mwyn sicrhau dyfodol rhywbeth mor werthfawr â'r papur, a chadw'r Gymraeg fel iaith naturiol yn ein hardal.

    Unwaith eto, diolch o galon i holl swyddogion a darllenwyr Clebran am bob croeso a chydweithrediad dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Bu'n bleser i gydweithio gyda chriw sydd mor weithgar a thriw. Pob dymuniad gorau i'r dyfodol!

    Cofion gorau,
    Cerys Gruffydd
    PROSIECT PAPURAU BRO ANTURTEIFI Cyf.


  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

    Sylw:




    Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý