Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Clebran
Lisa Haf Davies Lisa'n dangos y Waw Ffactor
Mawrth 2005
Cyrhaeddodd Lisa Haf Davies o Fynachlog-ddu rownd derfynol y gyfres Waw Ffactor ar S4C, ond methodd berfformio'n fyw ar y teledu am ei bod yn sâl. Yma mae'n sôn am y sbri a'r siom.
Pan ddihunes i fore dydd Mawrth ar yr 8fed o Chwefror, yn hollol ymwybodol bod Clwy'r Pennau (neu'r mumps) biti'r lle, a synhwyro rhyw deimlad bach rhyfedd yn fy ngên, roeddwn i'n gwbod (er fy mod yn gyndyn iawn i wyneb ffaith!) fy mod wedi dal y clwy, ac o ganlyniad fyddwn yn gallu cystadlu yn ffeinal fyw y gyfres deledu Waw Ffactor ar y nos Wener ganlynol.

Doeddwn i ddim yn gallu credu'r peth! Fe ddywedais i dro ar ôl tro "dwi'n weddol hyderus na fydda i'n dal y mumps achos bo fi 'di cal y pigiadau i gyd!" Roeddwn i'n hynod o siomedig, ac wedi edrych ymlaen at gael perfformio gyda band byw a dawnswyr proffesiynol yn y gobaith y buasai hynny yn codi fy mherfformiad (gan gofio bod un o feirniaid y rhaglen, Peredur ap Gwynedd wedi dweud "ma' ishe i Lisa dynnu i bys mas!")

Bu'n ddiwrnod o ffonio di ddiwedd wrth i griw teledu Al Fresco orfod penderfynu os oeddent yn mynd i adael i mi berfformio ai peidio oherwydd bod y clwy' yn heintus dros ben. Ar ôl derbyn cyngor gan awdurdodau S4C, fe ges alwad ffôn wrth Caryl Parry Jones yn dweud bod rhaid i mi wylio'r ffeinal ar y teledu adref yn Fferm y Capel, Mynachlog-ddu (a noder ... MYNACHLOGDDU nid Maenclochog!!!!). Ond er na ches gyfle i gystadlu am goron Waw Ffactor 2005, cefais lawer iawn o brofiadau gwych a chyfleoedd gwerthfawr iawn tra'n ffilmio'r gyfres.

Fe ddechreuodd y cyfan nôl ym mis Gorffennaf 2004 yng Ngŵyl Fawr Aberteifi, ar ôl i Caryl Parry Jones fy meirniadu yn y gystadleuaeth Unawd Allan o Sioe Gerdd yno. Fe ofynnodd hi i mi fynychu un o'r clyweliadau ar gyfer y gyfres Waw Ffactor, ac er mod braidd yn ansicr i ddechrau, es i amdani a gobeithio am y gorau.

Un o uchafbwyntiau'r gyfres i mi'n bersonol oedd clywed ymateb y pedwar beirniad ar ôl i mi berfformio yn y rownd gyntaf yn Abertawe. Allwn i ddim fod wedi breuddwydio am ymateb gwell, wrth iddynt fethu dweud unrhyw beth negyddol am fy mherfformiad. Bu hyn yn hwb mawr i'm hyder ac fe sylweddolais y diwrnod hwnnw y gallai'r rhaglen gynnig llawer iawn o gyfleoedd i mi a mynd â mi gam yn nes at gyrraedd fy uchelgais, sef i fod yn gantores broffesiynol.

Ar ôl y rownd gyntaf yn Abertawe fe ddechreuodd y gwaith caled! Roedd y rowndiau nesaf yn cael eu ffilmio o fewn ychydig wythnosau i'w gilydd, felly roedd yn rhaid i ni ddysgu ac ymarfer caneuon a dawnsfeydd newydd mewn amser byr iawn. Yn ystod y cyfnod hwn, fe ddysgais i lawer am y diwydiant, ac am berfformio yn gyffredinol.

Cyn Waw Ffactor roeddwn yn credu fy mod yn gallu perfformio yn hynod hyderus o flaen unrhyw gynulleidfa, ond dysgais fod canu a dawnsio mewn stiwdio yn hollol wahanol i berfformio mewn Eisteddfod neu gyngerdd. Yn y rowndiau cyntaf, ro'n i'n ymwybodol iawn o fy hunan wrth ganu a dawnsio mewn ychydig iawn o ddillad a sodlau uchel, ond erbyn y rowndiau olaf ro'n i tipyn yn fwy cartrefol a hyderus. Dysgais hefyd bod llawer o bwyslais yn cael ei roi ar ymddygiad ac ymddangosiad. Cawsom ein hannog i beidio cwyno, a bod yn gwrtais gyda phawb, a hefyd i sicrhau ein bod yn gofalu am y corff drwy fwyta'n iach a chadw'n heini.

Yn ystod y rowndiau hyn, ro'n i'n treulio llawer o amser yng nghwmni'r cystadleuwyr eraill a'r criw teledu. Cefais fy synnu pa mor gyfeillgar oedd pawb a pha mor gartrefol ro'n i'n teimlo yn eu cwmni. Roedd Eleri Siôn yn treulio llawer o'i hamser yn cynnig cyngor i ni, ac roedd Caryl Parry Jones fel mam i ni gyd, yn sicrhau ein bod yn hapus.

Lisa Haf DaviesWrth edrych yn ôl ar y broses, yr hyn sy'n sefyll yn y cof yw'r holl ffrindiau a'r cysylltiadau rwyf wedi eu gwneud. Fydda i byth yn anghofio pa mor garedig a chefnogol oedd y criw teledu pan oeddwn adref yn sâl. Roedden nhw'n fy ffonio i bob dydd, ac fe dderbyniais flodau oddi wrthyn nhw'n dweud eu bod nhw i gyd yn meddwl amdana i.

Ond beth wnaeth fy nharo i hyd yn oed yn fwy oedd y gefnogaeth a gefais gan bobol yr ardal hon. Pan ro'n i'n ffilmio'r gyfres yng Nghaerdydd, yn ystod gaeaf y llynedd, doedd dim llawer o bobol yn gwybod fy mod i'n cymryd rhan yn y gystadleuaeth. Ond pan ddarlledwyd y gyfres ym mis Ionawr, cefais fy synnu gyda'r ymateb, yn enwedig ar ôl i bawb sylweddoli fy mod wedi cyrraedd y ffeinal. Roedd pawb yn dweud eu bod nhw'n mynd i bleidleisio drosof, a nifer wedi ffonio i ddangos eu siom a'u cydymdeimlad achos 'mod i wedi methu cystadlu. Fe wnaeth hyn i mi deimlo yn hynod o browd a balch fy mod yn perthyn i'r gymuned glos yma, a sylweddolais gymaint mae'r ardal yn golygu i mi.

Roedd gorfod gwylio Rebeca Trehearn a Francesca Hughes yn cystadlu yn ffeinal Waw Ffactor yn brofiad anodd. Ond cefais syrpreis bach neis ar ddiwedd y rhaglen wrth i Eleri Siôn ddatgan bod y dair ohonom yn mynd i fod yn canu yn Stadiwm y Mieniwm o flaen miloedd o bobol cyn gêm Cymru yn erbyn Iwerddon. Ferlly, er bod pethau wedi ymddangos yn dywyll iawn rhai wythnosau yn ôl, roedd 'na olau ar ddiwedd y twnnel. Ymlaen i'r stadiwm nawr!

Gan: Lisa Haf Davies
(dan ofal Prosiect Papurau Bro.)


Cyfrannwch

wrecsam
da iawn lisa bach pwt


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý