Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Clebran
Hefin Wyn, Maenclochog. Enillydd Y Gadair yn yr Eisteddfod Eisteddfod Gadeiriol Crymych a'r Cylch
Tachwedd 2006
Cynhaliwyd Eisteddfod lwyddiannus iawn ar ddydd Sadwrn, Hydref 14eg yn Theatr y Gromlech, Crymych.

Cafwyd cystadlu brwd drwy gydol y dydd a bu'r beirniad cerdd, Sioned James a'r beirniad llefaru, Llinor ap Gwynedd, yn brysur iawn. Fel arfer, cafwyd cyfeilio graenus dros ben gan Wyn Hyland.

Derbyniwyd cyfansoddiadau llenyddol niferus a dyfarnodd y beirniad, y Prifardd Dic Jones, y gadair i Hefin Wyn, Maenclochog. Y dasg i'r beirdd oedd cyfansoddi cerdd gaeth neu rydd ar unrhyw berson. Derbyniwyd pedair cerdd ar ddeg a'r gerdd fuddugol oedd cerdd yn y wers rydd yn sôn am Daniel y Pant. Disgrifiodd y beirniad y gerdd fel "cerdd arbennig i gymeriad arbennig". Rhoddwyd y gadair gan Rachel James a llywiwyd y seremoni yn fedrus gan Eifion Daniels. Canwyd cân y cadeirio gan Einir Dafydd a chanwyd yr utgorn gan Ffion Haf o Dinas. Cyfarchwyd y bardd gan Rachel James a Cathryn Gwynn a chyrchwyd y bardd i'r llwyfan gan Elizabeth John a Lynwen ap Gwynedd.

Enillwyd Tlws yr Ieuenctid gan Iwan Davies, Llandudoch sy'n ddisgybl yn Ysgol y Preseli. Ysgrifennodd gerdd goffa i Luke Hawkins, disgybl yn Ysgol y Preseli a fu farw yn Chwefror 2006. Yn ystod yr Eisteddfod, cyflwynwyd Tlws Coffa Robina i Bwyllgor Iaith a Threftadaeth Cilgerran ac Ysgol Trewen.

Cystadlaethau Lleol:
Unawd dan 9 oed:
1. Mirain Iwerydd James, Ysgol y Frenni.
Unawd dan 12 oed:
1. Ifan Phillips, Ysgol y Frenni.
Llefaru dan 12 oed:
1. Iolo Selyf James, Ysgol y Frenni.

Cystadleuaeth i Ysgolion Sul dan 15 oed (tarian yn rhoddedig gan Eilir a Martha Rees, Esgairordd)
1. Ysgol Sul Bethel, Mynachlog-ddu.
Cystadlaethau Agored:
Llefaru dan 6 oed: 1. Mari Phillips, Boncath.
Unawd dan 9 oed: 1. Ffion Phillips, Maenclochog;
2. Elen Hunt, Maenclochog;
3. Nia Lloyd, Maenclochog.
Llefaru dan 9 oed:
1. Ffion Phillips, Maenclochog;
2. Rhannu rhwng Nia Lloyd Maenclochog ac Elen Hunt, Maenclochog;
3. Elisa Evans, Castell Newydd Emlyn.
Unawd dan 12 oed: 1. Sioned Llewellyn, Efailwen;
2. BlytheAnne, Maenclochog; 3. Rhannu rhwng Sioned Haf, Maenclochog a Naomi Seren, Maenclochog.
Llefaru dan 12 oed:
1. Osian Evans, Castell Newydd Emlyn;
2. Blythe Anne, Maenclochog;
3. Rhannu rhwng Naomi Seren, Maenclochog a Sioned Haf, Maenclochog.
Unawd unrhyw offeryn cerdd dan 12 oed:
1. Sabrina Jenkins, Cei Newydd;
2. Blythe Anne, Maenclochog;
3. Sioned Llewellyn, Efailwen.
Unawd dan 15 oed:
1. Blythe Anne, Maenclochog.
Llefaru dan 15 oed:
1. Angharad Edwards, Maenclochog;
2. Blythe Anne, Maenclochog;
3. Delun Nia Gibby, Maenclochog.
Unawd Alaw Werin dan 18 oed:
1. James Blundell, Crymych;
2. Pippa Williams, Llysyfran;
3. Angharad Edwards, Maenclochog.
Llefaru dan 18 oed (Cwpan Her Aled a Lynwen ap Gwynedd):
1..Angharad Edwards, Maenclochog;
2. Pippa Williams, Maenclochog;
3. Nia Ffion Rees, Maenclochog.

Unawd unrhyw offeryn cerdd dan 18 oed (Cwpan Her Parhaus Eiry a Gary Jones)
1.Ffion Haf, Dinas;
2. Iwan Davies, Llandudoch;
3. Daniel Sajko, Trefdraeth.
Unawd dan 18 oed (Cwpan Her Dewi a Dilys Phillips):
1. Iwan Davies, Llandudoch;
2. James Blundell, Crymych;
3. Pippa Williams, Llysyfran.
Deuawd dan 18 oed:
1. Delun a Angharad, Maenclochog.
Canu Emyn dan 18 oed:
1. Iwan Davies, Llandudoch;
2. James Blundell, Crymych;
3. Pippa Williams, Llysyfran.
Canu Emyn dros 18 oed (Cwpan yn rhoddedig gan deulu y diweddar Mr a Mrs Gwyn George, Crymych)
1. Laura Blundell, Crymych.
Unawd allan o Sioe Gerdd (Tlws Parhaol Cwmni Fflach)
1. Laura Blundell, Crymych;
2. Iwan Davies, Llandudoch;
3. Delun NiaGibby, Maenclochog.
Llefaru dros 18 oed (Cwpan Her Teulu Ty Preseli)
1. Laura Blundell, Crymych.
Unawd dros 18 oed (Cwpan Her Coffa Parhaus W. R. Evans yn rhoddedig gan "Bois y Frenni")
1 . Laura Blundell, Crymych.

Cwpan Her Parhaus "Limousins Preseli" yn rhoddedig gan y Brodyr Vaughan a'u teuluoedd, Coedcefnlas Uchaf a Felin Uchaf, Crymych i'r cystadleuydd mwyaf addawol dan 18 oed ym marn y beirniaid Cerdd a Llefaru:
1. Blythe Anne, Maenclochog. Parti Unsain oed Ysgol Gynradd (Tlws Cware Trefigin yn rhoddedig gan Sheila a Granville John)
l. Parti Bechgyn Ysgol y Frenni;
2. Parti Merched Ysgol y Frenni. Parti Llefaru oed Ysgol Gynradd (Tlws Olew Trefigin yn rhoddedig gan Sheila a Granville John)
1. Ysgol y Frenni. Parti deulais neu fwy (Cwpan Her Parhaus yn rhoddedig gan y teulu er cof am y diweddar T. H. Phillips, Cigydd, Crymych)
1. Bechgyn Côr Crymych;
2. Merched Côr Crymych. Prif Gystadleuaeth Gorawl (Cwpan Her Parhaus D. J. Lewis):
1. Côr Crymych a'r Cylch.

Llenyddiaeth
Stori gan blentyn oed Ysgol Gynradd:
1. Sara Watkins, Ysgol Eglwyswrw.
Stori gan blentyn oed blynyddoedd 7-9:
1. Rhannu rhwng Rhiannon Phillips a Cadi Haf Nicholas, Ysgol y Preseli.
Darn o farddoniaeth gan blentyn oed blynyddoedd 7-9:
1. Rhannu rhwng Luned Nicholas a Cadi Haf Nicholas, Ysgol y Preseli.
Tlws Ieuenctid i ddisgyblion blynyddoedd 10 i 13.
Tlws Parhaus yn rhoddedig gan y Cyng. Lyn ac Audrey Davies, Brynstop, Hermon:
1. Iwan Davies, Llandudoch.
Cystadleuaeth y Gadair. Y Gadair yn rhoddedig gan Rachel James, Porth Mawr, Boncath : Hefin Wyn, Maenclochog.
Englyn: 1. R. J. Rowlands, Y Bala.
Soned: 1. John Meurig Edwards, Aberhonddu.
Telyneg: 1. 1. Beynon Phillips, Brechfa.
Limrig: 1. Alun George, Ffynnongroes.
Brawddeg; 1. Mary B. Morgan, Llanrhystud.
Pedwar Triban neu Bedwar Hen Bennill: 1. John Meurig Edwards, Aberhonddu.
Englyn Digri: 1. R. J. Rowlands, Y Bala.
Erthygl i 'Clebran'. Noddwyd y gystadleuaeth gan 'Clebran':
1. Rhannu rhwng Tegfryn Williams, Pencaer a Hefin Wyn, Maenclochog.
Cyfansoddi Emyn ar gyfer y Nadolig.
Tlws parhaus yn rhoddedig gan Deulu Esgairordd er cof am Eilir:
1. Mary B. Morgan, Llanrhystud.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý