Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Clebran
llun o Dyfed Sion Sir Benfro i'r Wladfa
Ionawr 2008
Bydd cynllun newydd cyffrous yn cychwyn yn y Wladfa yn ystod 2008, cynllun a fydd yn adeiladau ar y gwaith mae'r rhaglen dysgu Cymraeg wedi bod yn ei gyflawni dros y ddegawd diwethaf.

Bydd rhwydwaith y mentrau iaith yn ehangu tu hwnt i diroedd Cymru er mwyn cryfhau'r Gymraeg fel iaith gymunedol yn y Wladfa. Mae nifer o fudiadau wedi dod at ei gilydd i wireddu'r cynllun sydd yn cynnwys Mentrau laith Cymru, yr Urdd, Cymdeithas Cymru Ariannin, Y Cyngor Prydeinig. Mae nawdd hefyd wedi ei ddenu gan gwmni preifat, sef Nos Da, Caerdydd.

Mae'r cynllun wedi penodi Dyfed Sion - swyddog Datblygu yr Urdd yn Sir Benfro fel aelod staff i fynd i weithio yn y Wladfa i ddatblygu'r fenter. Soniodd Dyfed: "Ar ôl ymgeisio mi dderbyniais y swydd gyda Mentrau Iaith Cymru cyn y Nadolig. Mi fyddaf ym mis Ebrill 2008 yn teithio i ardal y Gaiman ym Mhatagonia i fod yn Swyddog Maes i Fenter Iaith Patagonia, a fy swyddogaeth bydd sefydlu'r fenter newydd sbon yma. Mae'r swydd am gyfnod o ddeg mis."

Ychwanegodd Dyfed: "Teimlaf fod hwn yn gyfle rhy dda i golli, mae'n fenter gyffrous ac mae yna gyfle i mi adael fy marc yn rhywle tra mod i ar y ddaear yma."

Yn dilyn adroddiad Robert Owen Jones (Prifysgol Caerdydd) ar raglen dysgu Cymraeg y Wladfa, mae angen cynyddu'r ddarpariaeth yn ogystal â chynnig cyfleoedd cymdeithasol i ddefnyddio'r Gymraeg yno. Heb wneud hynny, ni fydd modd o sicrhau bod dysgwyr yn dod yn rhugl eu Cymraeg, nac o gynnal Cymraeg y rhai sydd yn ei arddel o hyd. Ond fe fydd y rhaglen yn un ehangach na Menter laith arferol gan hyrwyddo cynllun cyfnewid rhwng y ddwy wlad.

Prif amcanion y cynllun fydd:

  • Cyfleoedd i gymdeithasu trwy'r Gymraeg. I ddatblygiad y rhai sy'n dysgu Cymraeg a'r rhai sy'n parhau i'w harddel. Heb ddigwyddiadau o'r math nid oes gan y Gymraeg ddyfodol fel iaith fyw.
  • Cyfleoedd i unigolion astudio a gweithio yng Nghymru. Gall hyn roi cyfleoedd i unigolion ddod yn rhugl yn y Gymraeg a ei harfer i defnyddio'n feunyddiol. Bydd hefyd yn creu mwy o ddiddordeb yn y Gymraeg yn y Wladfa, os oes cyfleoedd i ddod i Gymru. Mae sawl busnes sy'n awyddus i gyflogi siaradwyr Cymraeg ond sy'n cael trafferth cael hyd iddyn nhw. Mae rhestr o sefydliadau eisoes ar gael.
  • Cyfleoedd i unigolion o Gymru wneud gwaith gwirfoddol yn y Wladfa gyda'r Cynllun Dysgu Cymraeg a chyda'r Fenter Iaith arfaethedig.
  • Fe fydd yn bwysig cynnig cyfleoedd i bobl o Gymru wneud gwaith gwirfoddol trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hyn yn clymu i mewn gyda strategaeth y Cynulliad i ddarparu mwy o gyfleoedd i'r ifanc cael defnyddio'r Gymraeg.

    Tra fod lawer o waith da wedi ei wneud eisoes yn y Wladfa, heb y cynllun dysgu Cymraeg presennol a gwaith unigolion o Gymdeithas Cymru Ariannin, mae'n debyg y buasai cyflwr y Gymraeg yn y Wladfa wedi dirywio y tu hwnt i achubiaeth. Felly, gwireddu'r cynllun yma ydi'r cam naturiol nesaf yn y broses o ddiogelu'r Gymraeg fel iaith fyw y tu hwnt i lannau Cymru.

    Mae'n gynllun sydd yn ceisio cyfuno nifer o gynlluniau yn y Wladfa er mwyn creu continuwm iaith fydd yn creu siaradwyr Cymraeg newydd a chyfleoedd go iawn i ddefnyddio'r Gymraeg. Y gobaith fydd bod y Gymraeg yn dod yn ased economaidd i'r ardal a'i phobl. Bydd hefyd yn cryfhau sefyllfa'r Gymraeg yng Nghymru wrth gynnig cyfleoedd cyffrous i siaradwyr Cymraeg wneud gwaith gwirfoddol trwy'r Gymraeg tu hwnt i Gymru.

    Wrth gloi soniodd Dyfed: "Mae'r Urdd wedi rhoi sêl bendith ar fy nghais i gymryd cyfnod i ffwrdd o'r gwaith heb dâl. Rwyf yn ddiolchgar iawn iddynt am y cyfle yma ac rwyf wedi eu sicrhau, fel yr wyf yn gwneud i chi nawr, y byddaf yn bendant yn dod yn ôl i ail-ymgymryd a'm dyletswyddau fel Swyddog Datblygu yr Urdd yn Sir Benfro yn ystod Chwefror 2009. Bydd yr Urdd yn awr yn edrych ar y posibiliad o hysbysebu fy swydd bresennol ar gontract blwyddyn gan obeithio cael rhywun mewn lle ar gyfer mis Mawrth er mwyn cael cyfnod pontio dros yr Eisteddfodau. Mae'r holl ddigwyddiadau sydd eisoes yn y dyddiadur ar gyfer Ebrill ymlaen wedi eu trefnu".

    Dymuna Papur Bro Clebran bob llwyddiant i Dyfed ac i'r fenter newydd yn y Wladfa gan obeithio y caiff Dyfed gyfle i ddanfon ambell adroddiad o'r gwaith cyffrous yn ôl i fro'r Preseli.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý