Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Clebran
Rhys Ifans Hiraeth am Hermon
Mawrth 2004
Anthony Hopkins, Gene Hackman, Keanu Reeves, Julianne Moore, Julia Roberts ... faint ohonon ni fyddai wrth ein bodd yn cwrdd a sgwrsio â'r actorion enwog hyn? Mae hyn yn rhan o waith bob dydd yr actor o Ruthun, Rhys Ifans.
Actor ifanc, talentog sydd wedi hen gyfarwyddo â rhwbio ysgwyddau â'r enwogion. Mae'r papurau i gyd yn mynnu ei sylw ac mae'n cael ei gyfweld gan newyddiadurwyr o bob cwr o'r byd. Ond y papur sydd wedi cael y flaenoriaeth ganddo y tro hwn yw Clebran, ac roedd yn fwy na balch i gael bod yn Glebranwr y mis.

Mae gan Rhys Ifans farn bendant ar nifer o bethau ac nid y lleiaf o'r rhain yw gwleidyddiaeth ein gwlad. Wrth i'r ymgyrch i gadw ysgol Gynradd Hermon ar agor godi stêm, mae Rhys wedi datgan ei gefnogaeth yn groch, ac mae'r ffaith nad yw ein Cynulliad Cenedlaethol yn rhoi'r gefnogaeth ddyledus i'n hysgolion bach gwledig yn codi ei wrychyn.

"Dyma yw asgwrn cefn y gymdeithas Gymraeg, unrhyw gymdeithas wâr i ddweud y gwir," meddai Rhys wrtha i dros y ffôn o gartref ei ffrind yn Llundain.

"Dw i wedi dewis rhoi fy nghefnogaeth i Ysgol Hermon am mai dyma'r ysgol roedd fy mam a'm ewythr yn mynychu. Mae ein dyled yn fawr i'r ysgol, a does dim synnwyr yn y ffaith eu bod nhw am gau ysgol lewyrchus, ffyniannus fel sydd yn Hermon," meddai Rhys yn bendant.

Er i Rhys a'i deulu symud i ogledd ddwyrain Cymru pan roedd Rhys yn grwt bach, mae'n teimlo'n lwcus iddo yntau fynychu ysgol fechan yno. "Mae'n gyfnod gwerthfawr ym mywyd plentyn," meddai. Bu Mam (sy'n dod o Hermon) a 'nhad (sy'n dod o Nefyn) yn athrawon cynradd, ac mae'n bwysig bod plant yn derbyn y Gymraeg yn gynnar yn eu haddysg fel eu bod yn ei gadw am weddill eu hoes."

Mae gwaed Rhys yn amlwg yn corddi, ond dyw Rhys Ifans ddim wedi arfer â dal yn ôl. Ers pan oedd yn blentyn, mae' na dwtsh gwrthryfelgar wedi bod yn rhan ohono. Newidiodd ei enw o'i un gwreiddiol Evans, i Ifans er mwyn bod yn lletchwith meddai ef, a doedd dim yn mynd i'w atal rhag dilyn ei freuddwyd i'r byd perfformio. Mae Rhys yn teimlo fwyaf cartrefol ar lwyfan neu o flaen y camera. Ond yr hyn sydd felysaf yn ei feddwl yw'r atgofion o'i ymweliadau â Sir Benfro pan yn iau.

"Ro'n i wrth fy modd yn ymweld â Chrymych ac aros yn siop Ithwen oedd yn gwerthu bara a losin, hefyd aros gyda Mam-gu cyn iddi farw," meddai gan ddweud ei fod yn gresynu nad oes ganddo lawer o gyfle i ymweld â'r ardal yn ddiweddar.

Bu Llanfyrnach yn addysg mawr i Rhys hefyd. "Byddwn yn aros ar fferm Yncl Denzil yn Llanfyrnach meddai wrtha'i. Roedd yn gyfle da i fod allan o olwg fy rhieni, ac ro'n i'n hoff iawn o helpu â'r gwaith fferm. Dw i dal yn hoffi ffermio. Yno y cefais i gyfrifoldebau am y tro cyntaf."

Ond nid ffermio oedd y dyfodol i Rhys Ifans, nac ychwaith y byd addysg fel ei rieni. Pan ddaeth Theatr Clwyd i'r Wyddgrug, "roedd fel petai awyren ofod mas o frics wedi glanio" meddai Rhys, a'r awyren honno'n cynnig dihangfa i'r Rhys Ifans ifanc. Ond cafodd gyngor digon sych gan ei athro gyrfaoedd yn yr ysgol uwchradd, pan ddywedodd wrtho i dyfu i fyny'!

"Do'n i ddim yn hoffi eisteddfota, gwell oedd gen i'r theatr," meddai Rhys. "Roedd yr eisteddfod yn rhy gystadleuol i fi. Taswn i eisiau cystadlu, byswn i'n chwarae pêl droed!" Efallai mai'r cof cynharaf sydd gan nifer ohonom o Rhys yn perfformio yw'r darlun cofiadwy hwnnw ohono'n gwisgo wig tywyll, sbectol crwn, tanc top a dici bow, fel un hanner or ddau Frank. Mae Rhys yn cyfaddef ei fod yn canfod ei hun weithiau'n breuddwydio am y Frank bach tew oedd yn cael ei bortreadu gan Meirion Davies, sydd hefyd yn dod yn wreiddiol o Sir Benfro. Fe wnaeth y ddau gael llawer o sbort yr dynwared y dysgwyr o Birmingham, ond erbyn hyn rhaid i Rhys fedru dynwared llu o acenion gwahanol.

"Spike, y cymeriad wnes i chwarae yn y ffilm 'Notting Hill' oedd wedi fy helpu i i dorri mewn i'r byd sinema yn America," meddai Rhys. "Mae'r Americanwyr yn hoff iawn o'r acen Gymraeg!"

Cymro oedd ei gymeriad yn y ffilm 'The Replacements' wrth ochr Gene Hackman a Keanu Reeves hefyd ond mae 'na droeon pan y gofynnir iddo golli ei acen Gymraeg ar gyfer rhannau yn Lloegr rhan amlaf fel bu'n rhaid iddo wneud yn 'Once upon a time in the Midlands' (gyda Robert Carlyle) ac yn 'Kevin and Perry go Large' (gyda Harry Enfield).

Mae Rhys Ifans ar hyn o bryd yn ffilmio yn Seland Newydd. Mi fydd yn treulio dau fis yno'n ffilmio 'Not Only, But Always', ffilm am y diweddar Peter Cooke (Rhys) a Dudley Moore. Gan eu bod yn treulio cymaint o amser ar y set yn ffilmio, mae'n annatod bod y criw yn dod yn ffrindiau da. Mae Meryl Streep yn "ffantastig" yn ôl Rhys, ac yn fonheddig iawn, ond yr actor mae'n cysylltu gyda fwyaf pan mae'n mynd i America yw Tim Robbins, oedd yn y ffilm 'Human Nature' gydag ef.

Er gwaetha'r holl gysylltiadau 'Holywoodaidd' fe allwn fod yn sicr nad yw Rhys wedi anghofio am ei wreiddiau ac yn sicr nad yw wedi cael ei effeithio gan yr obsesiwn â celebs sydd wedi cael dylanwad gref arnom yng ngwledydd Prydain." Anaml ydw i'n mynd allan i ddweud y gwir meddai Rhys. Mi fues i ym mharti pen-blwydd Kate Moss, do, gan mai parti fy ffrind i oedd e, ond fel arall dw i ddim fel arfer yn mynd i barti os nad ydyn nhw'n rhoi diodydd am ddim!"

Ar y nodyn hwnnw, dymunwn iechyd da i Rhys Ifans, ac edrychwn ymlaen at ei weld yn yr ardal y tro nesaf bydd yn dod ar grwydr yma.

gan Heledd ap Gwynfor, Prosiect Papurau Bro


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý