Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Clebran
Claire Jones Telynores i'r Tywysog
Gorffennaf / Awst 2007
Claire Jones o Grymych yn ysgrifennu am y profiad o gael ei dewis yn delynores swyddogol i'r Tywysog Charles.

Pan yn saith mlwydd oed, yr oeddwn yn barod drwy berswâd 'Mamgu' wedi cychwyn fy nhaith tuag at fod yn gerddor drwy cael gwersi piano a ffidil. Ond ni chefais fy nghyflwyno i'r offeryn byddai'n trawsnewid fy mywyd tan fy negfed pen blwydd, deuddeng mlynedd yn ddiweddarach - hon yw cariad fy mywyd: y Delyn.

Ar y 22ain o fis Mai 2007, cefais y newyddion hynny bod Tywysog Cymru wedi penderfynu fy mhenodi fel ei Delynores Brenhinol nesaf, i ddilyn yn olion traed Catrin Finch a Jemima Phillips. Yr oedd hi wedi profi'n daith hir imi gyrraedd y pwynt yma, am fy mod yn gyntaf wedi gorfod cael fy enwebu ar gyfer y swydd ynghyd â chael cyfweliad o flaen panel o delynorion byd enwog yn Nhŷ Clarence.

Yn dilyn hynny y cefais fy nomineiddio yn unswydd i berfformio ar gyfer y Tywysog, am mai ei benodiad personol ef ydoedd. Ers blynyddoedd gwyddem mai fy mwriad tymor hir fyddai rhyw ddydd cael y siawns i wasanaethu fel Telynores i'r Tywysog. Wrth ddod yn nes at y rownd derfynol ar gyfer y swydd, gwyddem heb amheuaeth yr oedd rhaid i mi lwyddo; yr oeddwn yn benderfynol iawn am mai hwn oedd un o'm mreuddwydion mwya' i.

Mewn pum niwrnod, trawsnewidiwyd fy mywyd wrth imi ymddangos ar newyddion Cenedlaethol Â鶹ԼÅÄ, HTV, S4C, sioe frecwast GMTV, rhaglen Classic FM a rhaglenni radio cenedlaethol, papurau a chylchgronau trwy Brydain Fawr. O'r pwynt yna hyd yn hyn, rwyf wedi perfformio tair gwaith i'w Uchelder Brenhinol, ac mae pob eiliad o gynrychioli'r Tywysog fel ei delynores wedi bod yn anrhydedd o'r mwya' ar lefel personol yn ogystal ag ar lefel proffesiynol.

Byddaf yn perfformio yn seremoni agoriadol Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen ar 11 o Orffennaf; hefyd byddaf yn ymddangos fel unawdydd yng nghyngerdd agoriadol yr Å´yl delynau rhyngwladol Arpa Viva Cymru yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd ar y 22ain o Orffennaf. Yn y gyngerdd arbennig hon byddaf yn rhannu llwyfan gyda Catrin Finch a Jemima Phillips ac yn perfformio darn a gafodd ei sgrifennu ar ein cyfer gan Karl Jenkins.

Dros fis Mehefin, cefais fy nghefnogi gan Menter Iaith Sir Benfro i gynnal gweithdai telyn yn ysgolion cynradd Crymych, Maenclochog, Eglwyswrw a hefyd Uned Iaith Bro Gwaun. Rwyf yn eiddgar i barhau gyda fy mwriad o godi proffil y delyn ac ysbrydoli plant ifanc fy ardal enedigol a thrwy Gymru gyfan i astudio'r delyn am ei fod yn rhan hynod o bwysig o'n hetifeddiaeth a'n diwylliant ni yng Nghymru.

Ynghyd â hyn bydd lansiad y CD newydd yn digwydd yn ystod tymor y Nadolig. Mae'n fraint i mi i fod wedi treulio fy magwraeth mewn awyrgylch Gymreig pur yng Nghrymych, a theimlaf mewn dyled i gymaint o bobl sydd wedi fy hybu a'm cefnogi ar hyd y blynyddoedd. Mae'r personau hynny yn dal i fyw yng Nghrymych a'r cyffiniau, ac mi fydd o hyd le arbennig yn fy nghalon iddynt.

Pwy fuasai wedi meddwl mai'r ferch fach ddeng mlwydd oed yna o ardal y 'wes wes' byddai'n landio'i hunan mewn sefyllfa o fod yn delynores i Frenin y dyfodol!


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý