Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Clebran
Gig Gŵyl y Garreg Las - Gweithgareddau Cymunedol
Mawrth 2006
Mae gwirfoddolwyr a chefnogwyr yr ŵyl roc wedi bod yn brysur dros 2 fis cyntaf y flwyddyn yn paratoi ar gyfer gweithgareddau y Gwanwyn a'r haf.
Fe gynhaliwyd noson lwyddiannus iawn gyda chynulleidfa lawn yn neuadd bentref Clarbeston ar y 4ydd o Chwefror. Mae yna noson o gerddoriaeth roc eto i'w chynnal ar y 13eg o Fai yn neuadd Llanboidy ac yna ar y 11eg o Dachwedd yn Llandysul.

Fe fydd yr ŵyl roc yn Llanfyrnach ar ddydd Sadwrn y 5ed o Awst ac eleni eto fe fydd mynediad i'r ŵyl yn rhad ac am ddim ond gyda chost parcio car yn £15 -felly gyda 5 mewn car dim ond £3 y pen gan yna annog mwy a mwy o bobl i rhannu ceir a gwneud ein darn i helpu'r amgylchedd. Bydd modd gwersylla o brynhawn dydd Gwener i brynhawn dydd Sul.

Hyfforddiant i wirfoddolwyr
Eleni mae nifer y criw gwirfoddol sydd yn glwm gyda'r ŵyl, sef stiwardiaid, gofalwyr, pwyllgor, crefftwyr a pherfformwyr yn debygol o godi i fod yn dros 140 o wirfoddolwyr. Mae adran trwyddedi gyhoeddus Cyngor Sir Benfro wedi cydnabod llwyddiant cymunedol yr ŵyl dros y blynyddoedd diwethaf ac yn awr drwy gymorth PLANED am gynnal nosweithi hyfforddiant i'r stiwardiaid a'r gwirfoddolwyr. Bydd yr hyfforddiant yn galluogi i'r stiwardiaid i gael tystysgrif mewn stiwardiaeth gymunedol a fydd o gymorth wrth archebu dynion diogelwch i gynnal yr ŵyl.

Felly os oes modd i'r holl gyn stiwardiaid a hefyd unrhyw stiwardiaid newydd i ddod i'r nosweithiau hyfforddiant bydd yr hyfforddiant yn 5 awr dros sesiwn 2 noson, ble bydd dewis naill ai Nos Fawrth y 7ed o Fawrth a Nos Iau y 9ed o Fawrth (7ed yn Ysgol y Preseli a 9ed yn y Clwb Rygbi Crymych) neu Nos Fawrth y 14eg o Fawrth a Nos Iau y 16eg o Fawrth (y ddau noson yma yn y Clwb Rygbi.) Bydd angen i bawb i gadarnhau eu bod yn dod drwy ffonio Mandy Phillips y trefnydd stiwardiaid ar 01994 419697 neu ffonio swyddfa Roc y Garreg Las ar 01239 831876.

Fe fydd pob gwirfoddolwr yn ystod yr ŵyl yn derbyn tocynnau bwyd a diod am y dydd, parcio a gwersylla am ddim, mynediad i'r gofod ac adloniant cefn llwyfan ble na fydd aelodau'r cyhoedd yn medru dod mewn a hefyd fe fydd y gwirfoddolwyr yn derbyn gwybodaeth i'r dyfodol am weithgareddau ychwanegol fel yr hyfforddiant am ddim ar adloniant neuaddau cymunedol ar draws Gorllewin Cymru.

Am rhagor o wybodaeth ymwelwch â www.celticbluerock.org.uk


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý