Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Clebran
Alice Iago yng nghwmni Ray Gravelle Urddo 'Alice Iago'
10 Hyfref 2003
A welsoch chi'r bwletinau newyddion a'r erthyglau papur newydd yn dangos Ioan Gruffudd yn cael ei urddo i'r Orsedd yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni? Roedd hi'n fore dydd Llun a'r seren Hollywoodaidd yn ei wisg wen gyda holl paparazzi Cymru yn clicio eu camerâu gyda phob symudiad.

Ond roedd paparazzi Clebran yno hefyd. Nid ar ôl loan Gruffudd oeddem ni, ond ar drywydd seren llawn mor bwysig, sef Alice James o Grymych.

Ar ôl ennill gwobr Dysgwr y Flwyddyn llynedd, cafodd Alice ei hurddo i'r Orsedd mewn gwisg werdd ar y bore Llun hwnnw hefyd, o dan ei henw barddol Alice lago - ac fe gafodd gyffwrdd â chleddyf Ray Gravell cyn loan Gruffudd hefyd!

Alice oedd yr ail berson i'w hurddo y bore hwnnw, ac roedd y profiad wedi cael llawer mwy o effaith arni nag oedd hi wedi dychmygu yn wreiddiol.

"I fod yn onest do'n i ddim yn meddwl bydden i'n teimlo llawer, do'n i ddim yn meddwl y byddai'n teimlo mor sbesial" meddai Alice. "Ond unwaith roedd pawb yn eu gwisgoedd, ro'n i'n sicr yn teimlo'r anrhydedd a'r fraint. Roedd e'n deimlad arbennig iawn" meddai.

Mae'n naturiol i rywun deimlo'r fraint wrth iddynt gael eu hurddo i'r Orsedd, ond mae Alice yn gallu teimlo balchder ychwanegol gan mai hi yw'r person croen lliw cyntaf i'w hurddo.

Ganed rhieni Alice yn y Caribi ac fe'i ganed hithau yn Llundain lle bu'n byw tan iddi symud i Gymru ac ymgartrefi yng Nghrymych. Wrth holi os ydi hyn yn gwneud y profiad yn fwy arbennig, mae'n ateb yn onest "Odi a nac ydi" meddai."I fod yn realistig, does dim lot o bobol ethnig yn siarad Cymraeg nac yn rhan o'r Eisteddfod. Dyw'r diwylliant Cymraeg ddim yn cynnwys llawer o bobol ethnig" meddai Alice.

"Efallai bod pobol yn meddwl fod yr Eisteddfod ddim ar gyfer pobol ddu, mai lle i bobol gwyn yw e, and mae'r Eisteddfod yn gallu cwmpasu pawb ac mae hyn nawr yn dangos ein bod ni'n gymaint o ran ohono."

Wyth mlynedd yn ôl, doedd Alice ddim yn deall gair o Gymraeg ac yn sicr ddim yn ymwybodol o'r anrhydedd o fod yn rhan o Orsedd y Beirdd. Ond ers symud i Gymru nôl yng nghanol y 90au fe ddechreuodd ddysgu'r iaith, a dyw hi ddim wedi edrych nôl ers hynny.

"Gan bo fi' n byw yng Nghymru, o'n i'n meddwl byddai'n neis i fi wneud yr ymdrech i ddysgu'r iaith,"meddai.

"O'n i'n ymwybodol o'r iaith Gymraeg a'r ffaith bod pobol yn ei siarad, felly ro'n i eisiau ei siarad hi hefyd. Ond merch gyffredin o Lundain ydw i, a dwi ddim yn gallu credu hyn nawr ...wnes i ddysgu'r iaith, a nawr ma' hawl da fi i wneud hyn i gyd!"

Alice yw'r gyntaf i ddweud bod dysgu Cymraeg wedi newid ei byd. Nid yn unig ei bod wedi etifeddu iaith newydd, ond fe wnaeth hi hefyd gwympo mewn cariad gyda Chymro o Grymych, Rheinallt James. Mae ganddynt dri o blant erbyn hyn sef Iolo sy'n 6 oed a'r efeilliaid Mirain a Cellan sydd bron yn 2 oed.

Erbyn hyn, mae pobol yn mynd ati i'w llongyfarch ble bynnag y mae hi. Ond does dim amheuaeth mai ei Mam yw ei ffan pennaf.

"Ma' teledu digidol gyda Mam yn Llundain felly fe wnaeth hi recordio'r Eisteddfod i gyd ar dâp," meddai Alice.

"Ers i fi ennill Dysgwr y Flwyddyn, mae hi'n edrych ar S4C drwy'r arnser, ac fe wnaeth hi edrych ar bob eiliad o Seremom'r Cadeirio er mwyn trio cael glimpse o fi! Mae hi'n proud iawn."
Ac mae'n siwr nad hi yw'r unig un sy'n falch ohoni.

Cerys Bowen


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý