Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Clebran
Hefin Wyn Barack Obama a Waldo
Rhagfyr 2008
Ysgolhaig yn cymharu Brwydr y Preselau â brwydr am Arlywyddiaeth yr Unol Daleithiau.

Pwy ond yr Athro Hywel Teifi Edwards fedrai gyplysu Barack Obama a Waldo yn yr un gwynt wrth sôn am Frwydr y Preselau?

Wrth annerch torf luosog yn Neuadd Gymunedol Maenclochog, ar nos Wener, 28 Tachwedd, dywedodd yr ysgolhaig o Langennech fod geiriau arlywydd newydd America, wrth iddo gydnabod ei fuddugoliaeth, - 'yes, we can' - yn atseinio agwedd arweinwyr 'Brwydr y Preselau' drigain mlynedd nôl.

Ceisiai Barack Obama roi'r un hyder i'w bobl i oresgyn pob adfyd ag y gwnai pobl fel y Parchedig Mathias Davies, Titus Lewis a'r Parchedig Llewelyn Lloyd Jones yn yr ardaloedd hyn yn 1946-47 pan benderfynwyd gwrthwynebu'r bwriad o droi'r mynyddoedd yn feysydd ymarfer milwrol parhaol.

Yn yr un modd dywedodd Hywel Teifi fod llinellau Waldo - 'Cadwn y mur rhag y bwystfil, Cadwn y ffynnon rhag y baw' wedi gwneud i bobl sylweddoli pa mor werthfawr oedd eu hetifeddiaeth a bod ganddyn nhw rywbeth amhrisiadwy i'w warchod.

Aeth yn ei flaen i ddyfynnu esboniad D. J. Williams ynghylch ei ymlyniad at ei filltir sgwâr a pham ei fod yn 'Shirgar anobeithiol'. Yn yr un gwynt dyfynnodd ran o ysgrif adnabyddus lorwerth Peate yn ymweld ag Epynt wrth i'r teuluoedd baratoi i ymadael er mwyn rhoi eu tiroeddyn nwylo'rfyddin.

Cyngor un hen wraig i Guradur Amgueddfa Sain Ffagan oedd iddo ddychwelyd i Gaerdydd ar fyrder am fod y byd wedi dod i ben yn ei thyb hi ar y bryniau ym Mrycheiniog. Ni ddigwyddodd hynny yng nghyd-destun y Preselau.

Yr unig ran o'r llyfr 'Brwydr y Preselau, yr ymgyrch i ddiogelu bryniau 'sanctaidd' Sir Benfro 1946-1948', o eiddo Hefin Wyn, a ddyfynnwyd gan Hywel Teifi oedd disgrifiad Jennie Howells o'r hyn oedd hanfod bugeilia ar Foel Fedw.

Roedd y ffaith y gellid fod wedi colli'r ffordd honno o fyw yn codi arswyd a phrin fod yna ddarn o lenyddiaeth lafar odidocach yn holl lenyddiaethau Ewrop. Mae'n werth ei ddyfynnu eto: "Na, we ddim cystel hwyl ar y cneifo'r flwyddyn honno. A synna i'n cofio'n lawn os wen ni wedi pwrny'r defed cyn neu ar ôl y gneifad. Ond bydde tipyn o hwyl yng nghwmni bois y gwelleife ch'wel a'r rheiny'n poeri sudd baco i bobman, ac yn siarad am grafishginod a channwyll corff i dreial hala ofan arnon ni'r rhai ifanc. A bydde Cwilym Pantygraig wedyn yn sbaddu wen gwryw a'i ddannedd; dala'r wen Ian, torn blan y pwrs, gwasgu'r bon a tynnu'r cerrig a'i ddannedd a 'u poeri nhw i'r cwn i fyta. Fel na wedd hi in ganol y rhialtwch a'r gofid ch'wel".

Cafwyd cyfraniad gloyw hefyd gan y Parchedig leuan Davies, cofiannydd y Parchedig Joseph James, Pisgah, Llandysilio a Bethesda, Llawhaden, ac adroddodd sawl stori am y cyfeillgarwch chwedlonol rhwng Joe a Parri Bach sef y Parchedig R. Parri Roberts, Mynachlog-ddu, a fu'n allweddol o ran rhoi arweiniad i drigolion y bryniau.

Diddorol oedd gwrando ar atgofion plentyndod Ann Griffiths, Hedd Parri Roberts, Parchedig Eifion Lewis, Seiriol Davies a John Williams am gyfraniad eu tadau i'r frwydr. A'r un mor gyffrous oedd datganiad Huw George o ryfelgri a baled a gyfansoddwyd yn ystod y cyfnod, y naill gan y Parchedig E. Llwyd Williams a'r Hall gan Lloyd Davies.

Terfynwyd y cyfarfod cofiadwy wrth i'r awdur siarsio aelodau iau'r gynulleidfa i fynd ati yn 2048 i drefnu dathliadau canmlwyddiant ennill y frwydr gan obeithio y bydd y Gymraeg yn para'n amlwg ymhlith y gweithgareddau.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý