Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Clebran
Myfywryr yn ymweld â Chymru Pentrefi'n gweld gwerth gefeillio
Medi 2008
Mae pentref Crymych wedi gefeillio gyda Ploveilh yn Llydaw ac wedi cael blwyddyn brysur yn llawn gweithgareddau.

Yng nghyfarfod blynyddol Pwyllgor Gefeillio Crymych/Ploveilh (Llydaw) a gynhaliwyd yn ddiweddar derbyniwyd nifer o adroddiadau yn amlinellu yr amrywiol gysylltiadau a gweithgareddau rhwng y ddau bentref.

Soniwyd am lwyddiant cyfnewid myfyrwyr am gyfnodau profiad gwaith - bu tri myfyriwr o Lydaw - Olivier Sicard, Anne Noel ac Elsa Le Bris am gyfnodau o ddeufis yn ardal Crymych a bu Catrin Rees, Tom Morgan ac Amy Harvey yn Llydaw er mwyn gloywi eu Ffrangeg.

Mynychodd Gwyndaf Rees a Geraint Jones gynhadledd yn Nantes i drafod arwyddocad arwyddo Cytundeb rhwng Cymru a Llydaw gan Rhodri Morgan ar ran Cynulliad Cymru.

Ymwelodd 50 o fyfyrwyr Coleg Kerbanez Ploveilh â Chymru ym mis Ebrill a threfnwyd diwrnodau gwaith iddynt gan staff Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac ymweliadau i Fannau Brycheiniog, yr Ardd Fotaneg, y Cynulliad a'r Pwll Mawr.

Teithiodd tîm pêl-droed dan 13 oed Crymych i Bloveilh ym mis Mai ar gyfer cystadleuaeth flynyddol y "Mondial Pupilles" gan ennill y cwpan am "chwarae teg". Bu dau o ddisgyblion Ysgol y Preseli, Rhydian Wyn a Siôn Davies yn cynorthwyo i hyfforddi'r tîm fel rhan o'u cwrs Bagloriaeth Cymru.

Bu nifer o ymweliadau cyfnewid rhwng teuluoedd hefyd yn ystod y flwyddyn a diwedd Gorffennaf croesawyd 40 o drigolion Ploveilh i Grymych. Cynhaliwyd Noson Gymdeithasol/Twmpath/Fest Noz i'w croesawu gydag Einir Dafydd a'r Band yn canu ac Eurfyl Lewis yn galw'r Twmpath.

Trefnwyd rhaglen lawn o weithgareddau yn cynnwys ymweliadau â'r Sloe Amaethyddol yn Llanelwedd, Castell Henllys, Tyddewi, Oakwood, Dinbych y Pysgod, Sain Ffagan, y Cynulliad a thaith gerdded ar y Preseli.

Yn ystod wythnos olaf mis Hydref trefnir taith 5 diwrnod i Bloveilh ac mae croeso cynnes i unrhyw un ymuno â'r daith. Felly, os oes gennych ddiddordeb mewn trip i Lydaw cysylltwch ar unwaith â Des Davies (01239 841483).


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý