Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Terfysgoedd Beca Hanes Terfysgoedd Beca
Yn ystod cyfnod Terfysgoedd Beca (1839- 1843), y glwyd gyntaf i'w dinistrio oedd yr un yn Efailwen ar noson Mai 13eg, 1839.
Am dros dair blynedd 'roedd yn eithaf tawel, ond yn Nhachwedd 1842, lledaenodd i Gwm Gwendraeth ddiwydiannol gan gyrraedd ei anterth ym 1843.


Mae cerflun sy'n coffáu Merched Beca yn nhridegau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg wedi cael ei ddadochuddio mewn tre chwaraeodd ran bwysig yn y terfysg.
Wedi'r penderfyniad i godi tollbyrth ar y ffyrdd tyrpeg, yn Lloegr ddigwyddodd yr helyntion cyntaf. Yn Hydref 1735 lladdwyd dau derfysgwr yn Ledbury, a dilynwyd hynny gan weithgaredd eang yng Ngwlad yr Haf a Swydd Gaerloyw, ac ym 1753 cafwyd helyntion yn Swydd Efrog.

Y glwyd gyntaf i'w dinistrio yng Nghwm Gwendraeth oedd Clwyd y Garreg ger Cydweli ar y 4ydd Chwefror 1843 ac eto ar Fawrth y 13eg yr un flwyddyn. Ar yr 16eg o Chwefror cafwyd cythrwfl yn Llanddarog, pan wrthododd ceidwad tollborth dderbyn arian gan barti priodas ac ym Mai ymwelodd Rebecca â chlwydi Llanddarog a Chastell Rhingyll.

Yn ystod Gorffennaf ac Awst ym 1843 bu llawer o weithgaredd yng Nghymoedd y Gwendraeth. Ar y 4ydd o Orffennaf dinistriwyd pedair clwyd yng Nghydweli, Mynyddygarreg, Meinciau a Phontiets. Yn ddiweddarach bu'r terfysgwyr yn ymweld â chlwydi Llanddarog, Porthyrhyd a Meinciau, ac ar Orffennaf yr 21ain rhoddwyd gwybod i'r dragwniaid bod y terfysgwyr am ail-ymosod ar glwyd Porthyrhyd, ond yn fuan wedi i'r milwyr gyrraedd yno daeth y newyddion bod glowyr y Tymbl wedi cynnau clwyd ger y pentref. Cafwyd rhagor o helynt ym Mhorthyrhyd, Foelgastell a Llannon yn ystod mis Awst.

Cyfrannwyd yr erthygl i wefan gymunedol Cwm Gwendraeth gan yr hanesydd lleol Mr Donald Williams.

Mwy am hyn ar wefan Cwm Gwendraeth

  • Mwy am Derfysgoedd Beca



  • Cyfrannwch

    Robert o Abergavenny
    Roedd hwn yn ddiddorol iawn ac fe wnes i fwynhau ei ddarllen.

    Mari o Gaerfyrddin
    Degwm yw roedd rhaid i bawb rhoi 10% o'i incwm blynyddol i'r Eglwys.

    Katie o Llanelli
    Sut dwi'n medru dod o hyd i map o ardal y terfysgoedd yng Nghwm Gwendreath ?

    Adam o Crosshands
    Merched Beca yn wych. Arwyr y genedl yn bendant. Twm Carnabwth yn ledgend

    Bobbi Jones
    Diolch am yr help gyda fy mhrosiect!

    Anna o Aberdar
    Wnaeth hyn helpu fi llawer ar fy ngwaith cartref hanes

    Manon o Fynyddygarreg
    ble oedd tollborth y garreg ym mynyddygarreg???

    Aled Griffiths, Hendy Gwyn.
    Degwm oedd y 'treth' oedd y pobl yn gorfod eu talu i gynnal eglwys Lloegr. (10%) Roedd yna lawer o atgasedd tuag at y degwm yng ngorllewin Cymru gan nad oedd mwyafrif o'r werin bobl yn mynychu'r eglwys, ond yn gapelwyr.

    Cari Thomas o Lanelli
    Beth yw degwm?

    Rodus Cilgerran
    Roedd yna llawer o ddigwyddiadau yn y cyfnod yna i achosi'r terfysgwyr; fel cyflogau isel, y wrcws, y ddegwm a'r safon byw.


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

    Sylw:




    Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý