Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Clebran
Yr orsedd Anrhydeddu gwyr o'r fro
Gorffennaf 2002
Yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Benfro, Tyddewi 2002, bydd un o ddynion mwyaf adnabyddus y Sir, sef John Gomer Williams neu, i chi a fi, Jac 'Pontiago', yr Wdig, yn cael ei urddo gyda'r Wisg Werdd.
Fel ei gyndeidiau dros genedlaethau, gof yw John Gomer Williams ym Mhencaer, Wdig. Gwr y mae Gorsedd y Beirdd a'r Eisteddfod Genedlaethol, yn fawr eu dyled iddo.

Bu'n Gadeirydd Pwyllgor yr Orsedd, Eisteddfod Abergwaun 1986 ac yn Is-Gadeirydd Pwyllgor yr Orsedd yn Nhyddewi 2002.

Bu'n gyfrifol am ddod o hyd i feini'r Cylch yn y ddwy Eisteddfod. Ef hefyd a drefnodd atgyweirio'r union injan a dynnodd feini'r Cylch i'w lle yn Eisteddfod Genedlaethol Abergwaun 1936 a'i defnyddio i wneud y gwaith eto yn Eisteddfodau 1986 a 2002.

Dyn ei filltir sgwâr
Yn ogystal â'i gyfraniad cenedlaethol, mae'n ddyn ei filltir sgwâr. Ef yw Cadeirydd Cyngor Cymuned Pencaer ac o dan ei ddylanwad ef y mae'r Cyngor wedi parhau i weithredu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn Eisteddfod flynyddol Rhys Thomas James, Llanbedr Pont Steffan 1999 enillodd y newyddiadurwr Hefin Wyn Fedal yr Wyl gyda'i bortread o John Gomer Williams.

Mewn cyfweliad dywedodd yr awdur: "Cefais fy swyno gan wybodaeth Jac o hanes a chwedloniaeth bro ei febyd a'i frwdfrydedd i rannu'r cyfoeth hwn gyda'r llu o ymwelwyr a ddaethai ar drywydd hanes y Ffrancod, a hynny yn syml ac yn ddirodres trwy gyfrwng ei famiaith, sef tafodiaith goeth Pencaer."

Y mae ymdrech oes John Gomer Williams i warchod iaith a diwylliant Pencaer yn nodedig. Iddo ef a'i debyg y mae'r diolch am barhad traddodiadau gorau'r bywyd Cymreig mewn ardaloedd gwledig fel Carreg Wastad a Phwllderi a Phencaer.

Anrhydeddu baswr enwog
Pleser mawr hefyd yw gweld enw'r baswr enwog Eirwyn Charles, Llundain, yn enedigol o Glasfryn, Y Sgwâr, ger Trefin, yn y rhestr o bobol fydd yn cael eu hurddo â'r wisg werdd.

Cafodd Eirwyn ei addysgu yn Ysgol Ramadeg Tyddewi (Ysgol Dewi Sant) a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle graddiodd mewn mathemateg. Bu'n athro mewn amryw o ysgolion gan gynnwys Genefa.

Mae wedi canu dros y byd, ac wedi sefydlu cwmni opera sef 'Y Cwmni Opera Rhyngwladol Newydd' gyda'r bwriad o ddod ag opera i fannau lle na cheir cyfle i glywed operâu gan gwmnïau mawr.

Enw adnabyddus
Mae enw Alun James, Cilgerran, yn adnabyddus i bawb sy'n mynychu Nosweithiau Llawen y sir, ac ar y teledu.

Ffermwr wrth ei alwedigaeth gwr a gafodd y fraint o dreulio'i oes yn yr un ardal ac yn ffermio'r un fferm.

Yn 1986 bu'n cystadlu am y tro cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Abergwaun, lle y cipiodd y wobr gyntaf yng nghystadleuaeth yr Adroddiad Digri.

Mae hefyd yn ddiacon a chyn-Ysgrifennydd Eglwys y Bedyddwyr Peniel, Cilgerran. Llongyfarchiadau iddo ef hefyd ar gael y wisg werdd.

Bardd cynhyrchiol
Yr un llongyfarchiadau i W. Reggie Smart, Llandudoch, a anwyd ym Mhantygwyddel, Llanfyrnach, Sir Benfro.

Wedi mynychu dosbarth Gweithdy'r Bardd o dan gyfarwyddyd y Prifardd Eirwyn George, trodd yn fardd cynhyrchiol iawn, gan ennill saith cadair mewn gwahanol eisteddfodau, nifer o wobrau yn Eisteddfod Gwyl Fawr Aberteifi yn cynnwys y Soned wyth o weithiau, y Faled dair gwaith a'r gerdd dafodiaith bedair gwaith.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý