Mae Caryl Howells o Hermon wedi cael ei dewis fel un o'r 40 olaf yn y gystadleuaeth "Miss Cymru 2007". Wrth i Clebran siarad â Caryl yr oedd yn brysur iawn yn trefnu noson codi arian i elusen sydd yn rhan o'r gystadleuaeth.
"Mae pob cystadleuydd yn edrych i godi cymaint â phosib o arian i elusennau da", meddai Caryl. "Byddaf yn trefnu noson dawns elusennol arbennig yng Ngwesty'r Cliff ar nos Wener 8fed o Fehefin a bydd yr holl arian yn mynd tuag at elusen Sylfaen Joshua i roi cymorth i blant gyda chanser."
Wrth gyrraedd y rownd derfynol yr oedd rhaid iddi fynd trwy gystadlaethau dewis yng Nghaerdydd a dywedodd Caryl: "Nid oeddwn erioed wedi gwneud rhywbeth fel hyn ac roeddwn yn disgwyl rhyw fath o holi cwestiynau a cherdded lawr "catwalk", ond ar ôl cyrraedd yr oedd rhaid cystadlu mewn timoedd a gwneud tasgau fel plygu rhoden metal - dechreuais feddwl fy mod yn y gystadleuaeth anghywir. Ond na fe, yr oeddwn wedi bod yn aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Hermon am flynyddoedd maith ac mae hynny yn paratoi chi am bopeth!"
Mae Caryl yn gweithio fel arbenigwraig techneg harddwch yng ngwesty'r Cliff ac yn ddiolchgar i'r gwesty am fod yn brif noddwyr iddi. Ychwanegodd Caryl, "Cefais fy enwebu i'r gystadleuaeth gan fy nghymar, Martin, ar ôl i fi ei enwebu ef y llynedd fel Mr Cymru. Fe aeth Martin ymlaen i gael y teitl o Mr Elusen yn y gystadleuaeth y llynedd wrth iddo godi arian sylweddol at elusen Achub y Plant. Hefyd cafodd gytundeb model gyda chwmni recriwtio Vibe, felly rhyw fath o dalu fi nôl a wnaeth Martin drwy rhoi fy enw i ymlaen am eleni!"
Mae'r gystadleuaeth yn cael ei chynnal ar Orffennaf 7, 2007.
Mae manylion a lluniau'r holl ymgeiswyr sydd wedi mynd ymlaen i "Miss Cymru" yn ymddangos ar safle gwe: misswales.co.uk. (Dyw'r Â鶹ԼÅÄ ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol.)
|