Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Clebran
O'r chwith, rhes gefn: Eifion Daniels (hyfforddwr) Ianto, Osian, Lawrence, David, Sion, Steffan, Tomos, Lloyd, Wayne Mason (hyfforddwr.) Rhes flaen: Justin, Steffan, Rhodri, Dyfan, Jack, Rhodri, Joe a Jack Preseli yn Ploveilh
Mehefin 2005
Pleser pur oedd teithio i Ploveilh, yn Llydaw, gyda charfan pêl-droed dan 13 oed Ysgol y Preseli, ddechrau mis Mai, i'w gweld yn cymryd rhan mewn twrnament oedd wedi denu rhai o dimau gorau'r byd.

Roedd y Mondial Pupilles Plomelin yn cael ei gynnal am yr 20fed tro eleniac roedd tîm Ysgol y Preseli, o dan gapteniaeth Dyfan Dafydd, ymhlith y 72 o dimau a wahoddwyd i gymryd rhan. O'r ugain twrnament a gynhaliwyd, mae tîm o ardal Crymych wedi derbyn gwahoddiad i gymryd rhan 16 o weithiau a hynny ar sail y gefeillio sydd wedi ei sefydlu rhwng y ddwy ardal.

Gofalwyd am y bechgyn gan Eifion Daniels a Wayne Mason ynghŷd â Charwyn John yn gweithredu fel mascot triw. Mater o falchder i'r tîm hyfforddi oedd fod Crymych, er nad wedi sicrhau lle yn y cymalau terfynol, wedi gorffen yn bedwerydd allan o naw yn ei hadran.

"Cyfanswm pwyntiau'r tîm oedd 11, sef un yn fwy na'r llynedd, ond roedd gan y tri ar y brig 20 o bwyntiau'r un, ac i bob bwrpas roedd J S St Pierroise, S M Cann a Dynamo Kiev yn dimau proffesiynol. Fe orffennon ni yn y 37 safle a dwi'n gobeithio fod hynny'n ddigon da i'r ysgol gael ei gwahodd nôl y flwyddyn nesaf eto", meddai Eifion.

O'r wyth gêm a chwaraewyd gan y bechgyn yn ystod y tridiau fe enillwyd tair, colli tair a gorffennodd dwy yn gyfartal. Ildiwyd 13 o goliau gan gynnwys chwech yn erbyn Dynamo Kiev gan dîm blinedig iawn yn chwarae eu pedwaredd gêm ar y dydd lau ar ôl teithio dros nos ar fws a llong. Sgoriwyd chwe gôl, tair ohonyn nhw gan Steffan Williams o Faenclochog, dwy gan Dyfan Dafydd o Flaenffos, ac un yr un gan Osian Wyn o Faenclochog a Jack Jones o Eglwyswrw. Cafodd David Williams y clod amheus o dderbyn carden felen mewn un gêm.

Y fuddugoliaeth fwyaf nodedig oedd yn erbyn y tîm lleol, Plomelin. Roedd Crymych ar y blaen o 3 gôl i 0 ar yr egwyl ond yn yr ail hanner dyfarnwyd dwy gic o'r smotyn, digon amheus, i'r gwrthwynebwyr. Dim rhyfedd fod y prif hyfforddwr, Eifion Daniels i'w glywed yn gweiddi, yn gwmws fel Mr Picton, wrth i bawb boeni y byddai cic gosb arall yn cael ei dyfarnu am y peth lleiaf cyn y chwiban olaf.

Chwaraewyd y pêl-droed gorau gan y tîm yn y gêm olaf yn erbyn J S St Pierroise. Doedd dim cywilydd mewn colli o 2 gôl i 0 yn erbyn bechgyn a chwaraeai bêl-droed greddfol. Profodd Dyfan Dafydd yn gawr yn rheoli canol y cae ac nid rhyfedd fod un o sgowtiaid Southampton wedi bod yn holi yn ei gylch.

Roedd gallu Steffan James, o Degryn, a David Williams, o Gilgerran, yn y cefn, i droi amddiffyn yn ymosod yn ased, ac roedd bywiogrwydd Jack Jones yn y llinell flaen yn dal y llygad. Yr un modd roedd Steffan Williams wastad yn effro i'r hanner cyfle.

Pleser pur i bawb oedd gwylio bechgyn croenddu Tananarive, o Fadagascar, yn curo Nantes o 1 gôl i 0 yn y rownd derfynol yng nghanol torf o 6,000 ar y pnawn Sul. Yr un mor gyffrous oedd clywed Carwyn 'Wall' John yn cydio yn y meic i floeddio "Agi, agi, agi" yn wyneb haul a llygad goleuni yr holl fyd. Roedd yn amlwg fod hynny'n rhan o weithgareddau swyddogol y prynhawn terfynol bellach.

Ond nid y pêl-droed oedd unig bwrpas y daith. Lletyai'r bechgyn gyda theuluoedd lleol ac yn wir mae'n amod fod aelodau pob un o'r timau yn gwneud hynny. Dyw hynny ddim wrth fodd pob un o'r timau lled broffesiynol sydd am gadw rheolaeth dynn ar eu carfanau. Mae hynny, wrth gwrs, yn rhan o addysg a meithrin profiad y bechgyn. Rhydd gyfle iddyn nhw ymestyn eu gafael ar y Ffrangeg ac i werthfawrogi ffyrdd pobl eraill o fyw trwy bitsio mewn i'r crepes a'r bara beunyddiol amrywiol.

Hyfforddwyr yn unig oedd yn teithio gyda'r timau tramor eraill ond roedd gan Grymych entourage go niferus a'r oedolion hynny, yn rieni a chefnogwyr, eto'n derbyn o haelioni aelwydydd yr ardal. Doedd neb yn fwy hael na Guy le Le Lay, perchennog distylldy, yn ardal Pont-Menhir o'r pentref, a drefnodd farbeciw lle nad oedd pall ar y bwyd na'r gwin. Yn fwy na hynny trodd y digwyddiad yn fest noz byrfyfyr gyda'r Llydawyr yn ffurfio eu hunain yn un gadwyn fawr o ddawnswyr o gwmpas sgubor distylldy wrth i'r pibau Llydewig gyfeilio.

Rhaid oedd i'r Cymry gydnabod y croeso trwy daro cân a doedd naill ai Mr Daniels na Mr John yn brin o nerth i arwain y ganiadaeth.

Cafwyd cyfle pellach cyn ymadael i alw heibio'r distylldy i flasu a phrynuseidir, lambig a chwisgi'r fenter a dymuno'n dda i'r cyn-athro a'i wraig wrth iddyn nhw fuddsoddi tua £1m i ehangu'r busnes.

Wrth ffarwelio fe yrrodd Iwan Rees fws Midway ddwywaith o gwmpas yr eglwys, yn unol â'r arfer blynyddol, er mwyn canu'n iach i'r lletywyr hael, a charreg Plasann Crymych sydd ar ganol y pentref, yn ernes o'r gefeillio a'r cyfeillgarwch rhwng dau bentref Celtaidd.

Roedd yna ystyr arbennig i'r 'cenafo' a'r 'da bo' wrth i rai o'r, cefnogwyr, na fu yno o'r blaen, siarsio y bydden nhw'n dychwelyd i'r ardal ar wyliau cyn hir. Bydd eraill o blith yr hen gonos, megis Des Davies, y trefnydd darbodus, yn adnewyddu cyfeillgarwch â'r Llydawyr eto maes o law, naill ai draw yno neu pan fydd cynrychiolaeth ohonyn nhw'n ymweld â Chrymych.

Pwy a ŵyr? Roedd Thierry Henri, ymosodwr Arsenal, yn chwarae yno yn 1991. Fe fu golwr Milan, ffefryn yr Eidalwyr, Scheuchenko yno yn ei dro yn ogystal ag eraill sy'n chwarae pêl-droed yn broffesiynol bellach. Efallai bod bois Crymych wedi chwarae yn erbyn rhai o sêr y dyfodol neu efallai y bydd rhai ohonyn nhw eu hunain yn chwarae'r gêm ar y raddfa uchaf ymhen deng mlynedd.

Beth bynnag fydd eu tynged fe fyddan nhw 'n siŵr o drysori profiad Ploveilh 2005.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý