Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Clebran
Llandudoch Mynd yn ôl mewn hanes
Gorffennaf - Awst 2005
Mae Llandudoch yn hen, hen bentre sy'n gyforiog o hanes. Mae gyda ni ein croesau Celtaidd cynnar, y garreg ogam enwog, hanes Sant Dogfael a'r Cristionogion cynnar, yr Abaty, y traddodiad pysgota a'r hanes morwrol ac yn y blaen.

Does dim rhyfedd felly bod pobl yn ymddiddori yn hanes y lle ac yn mynd ati i ymchwilio i'w orffennol.

Mae nifer o brosiectau hanesyddol ar y gweill yn Llandudoch ar hyn o bryd. Yr un mwyaf o bell ffordd yw'r gwaith y mae'r mudiad hanes lleol, Hanes Llan'doch, yn ei wneud i geisio troi yr hen Gertws ar gyrion yr abaty yn ganolfan dreftadaeth fydd yn lle i arddangos creiriau'r abaty, y cerrig Cristnogol cynnar sydd ar hyn o bryd allan o olwg y cyhoedd, yn ogystal â threfnu cyfres o arddangosfeydd amrywiol fydd yn edrych ar wahanol agweddau a chyfnodau yn hanes y pentref. Mae'n brosiect anferth, a'r gobaith yw y bydd y gwaith wedi ei gwblhau yn ystod 2006.

Mae Grŵp Treftadaeth a Diwylliant Cymdeithas Llandudoch hefyd yn bwriadu gweithio ar ddau brosiect yn ystod y flwyddyn sydd i ddod. Y mae'r cyntaf yn perthyn yn agos i ddatblygiad y Certws, gan mai'r bwriad yw trefnu a llwyfannu'r arddangosfa symudol gyntaf pan fydd y Ganolfan Dreftadaeth yn agor. Thema'r arddangosfa gyntaf fydd Llandudoch a'r Môr a'r gobaith yw dwyn ynghyd â hanesion, lluniau ac arteffactau sy'n olrhain y cysylltiad hwnnw.

Yn ystod Gŵyl Llandudoch ym mis Mai, cafwyd sesiwn agored (gyda chydweithrediad PLANED) i ddechrau hel syniadau a chynllunio. Daeth amryw o bobl i'r gweithdy agored gyda'u cynigion. Er enghraifft, daeth Trevor Griffiths, aelod o un o hen deuluoedd y pentref, a hanesion ei deulu ar deithiau amrywiol ar hyd a lled y byd; daeth Chris Evans a rhywfaint o hanes y diwydiant adeiladu llongau ar y Pinog ar lannau'r Teifi, gan gynnwys bwyell arbennig a ddefnyddiwyd wrth y gwaith hwnnw. Bydd rhain, ynghyd a'r llu o atgofion a hen luniau sydd eisoes ar gael yn y pentref yn siŵr o fod yn sail dda i'r arddangosfa.

Ail brosiect y Grŵp Treftadaeth a Diwylliant yw i gofnodi ar fideo a/neu DVD atgofion nifer o drigolion y pentref am fywyd yn Llandudoch yn ystod yr All Ryfel Byd. Eto, yn ystod Gŵyl Llandudoch eleni, cynhaliwyd arddangosfa yn seiliedig ar y cyfnod, gan gynnwys perfformiad gan Bois y Frenni. Mae Cronfa'r Loteri fawr wedi caniatau cymhorthdal i Gymdeithas Llandudoch a fydd yn talu am y gwaith recordio, ffilmio, golygu a chynhyrchu'r fideo, er mwyn sicrhau cynnyrch safonol. Bydd y fideo gorffenedig, fydd yn gofnod parhaol dwyieithog o atgofion personol a darluniau, yn cael ei chyflwyno i'r Ganolfan Dreftadaeth newydd, ac i Ysgol Llandudoch fel adnodd addysgol, a bydd ar gael i'w phrynu.

Nod Cymdeithas Llandudoch a Hanes Llan'doch yw gweithio i adfywio ac atgyfnerthu bywyd cymunedol yn Llandudoch. Braf yw meddwl y gall rhoi llais i orffennol y pentref - helpu i sicrhau ei ddyfodol fel cymuned fyw.

Terwyn Tomos


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý