Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Clebran
Buddug Verona James Does unman yn debyg i gartre'
Ionawr 2004
"Pam byddai unrhyw un am fyw unrhyw le arall?" Dyna gwestiwn Buddug Verona James wrth iddi edrych drwy ffenest ei hystafell fyw ar yr haul yn disgleirio ar y caeau o gwmpas ei chartref yn Rhoshill.

Er ei bod hi wedi teithio'r byd yn canu, gan gynnwys cyfnod yn astudio yn ninas hardd Rhufain, dyma lle mae Buddug yn ei alw'n gartre'. Gyda'i gwreiddiau yn ddwfn ym mro'r Preseli, dyma lle mae Buddug fwyaf hapus, ym mro ei mebyd ac yng nghanol ei theulu.

Mae Buddug James wedi bod yn canu'n broffesiynol ers nifer o flynyddoedd, ond mae'n rhywbeth sydd wedi bod yn ei gwaed ers yn ifanc iawn."Dwi wedi canu erioed, ers pan oeddwn i'n mynd i'r Ysgol Sul," esbonia Buddug."Fe fues i a fy chwiorydd yn cymryd rhan mewn Eisteddfodau lleol a'r Eisteddfod Genedlaethol hefyd. A dwi'n cofio, pan ro'n i rhyw ddeg oed, gwybod 'mod i am wneud gyrfa allan o ganu."

Bellach mae'r yrfa honno a chyfraniad Buddug i gerddoriaeth Cymru wedi cael cydnabyddiaeth cenedlaethol wrth iddi hi a'i chwaer Eirian dderbyn y Wisg Wen yng Ngorsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych, 2001.

Mae Buddug yn aelod o un o deuluoedd perfformio mwyaf adnabyddus Cymru, y teulu James sydd wedi ymddangos ar lwyfannau dros y wlad a thu hwnt. Y tair chwaer yw Eirian, Buddug ac Elin ac maent yn perfformio amrywiaeth o gerddoriaeth, o opera i jazz a gospel, a Dilwyn y brawd yn llefaru mewn ffordd sydd wedi cael ei gymharu â dull Richard Burton. Mae'r profiad o berfformio gydag aelodau'r teulu yn arbennig iawn i Buddug.

"Mae e'n brofiad anhygoel" meddai Buddug. "Ry'n ni'n deulu agos iawn ac mae perfformio gyda'n gilydd yn rhywbeth sy'n wirioneddol arbennig iawn i ni."

O'r holl berfformiadau dros y blynyddoedd, mae un arbennig yn dwyn atgofion melys iawn i Buddug, sef eu perfformiad o'r caneuon Cwm Rhondda a Sosban Fach yn Stadiwm y Mileniwm cyn y gêm rygbi rhwng Cymru ac Iwerddon rhai blynyddoedd yn ôl.

"Roedd perfformio yn y stadiwm yn ffantastig," meddai Buddug a'i llygaid yn disgleirio wrth gofio am y dorf o 72,000 o bobol. "Doedden ni ddim yn nerfus o gwbl" meddai wedyn. "Achos bod cymaint o bobol 'na cawson ni rhyw egni anhygoel wrth berfformio."

Ond er bod y teulu wedi perfformio ar lwyfannau ledled y wlad, mae cael y cyfle i ddangos eu doniau yn eu milltir sgwâr yn llawer mwy arbennig iddynt.Maent wedi gweithio'n ddiwyd dros Theatr Mwldan, ac wedi cyfrannu llawer er mwyn codi statws y theatr trwy gynnal premieres eu sioeau yno, gan gynnwys The Family.

Mae Buddug hefyd wedi cael sawl llwyddiant gyda'i pherfformiadau unigol gan gynnwys ei chynhyrchiad Castradiva, sy'n sôn am fywyd lliwgar castrato yng nghymdeithas fyrlymus Rhufain yn ystod y l8ed ganrif. Fe gynhaliwyd premiere y cynhyrchiad hwn eto yn Theatr Mwldan ac mae'n dangos amryddawn ddoniau Buddug ar eu gorau wrth iddi hi bortreadu'r holl gymeriadau a pherfformio arias gan Handel (ei hoff gyfansoddwr) a Gluck.

"Dwi wrth fy modd gyda'r math yma o gerddoriaeth achos mae'n siwto fy llais i'n dda" meddai Buddug, cyn mynd ymlaen i ddweud gyda gwên fawr "ac mae cael menyw yn gsvisgo Ian fel dyn yn cynnig llawer mwy o elfennau i'r perfformiad!"Mae Buddug hefyd wedi ymddangos ar y teledu yn y gorffennol mewn cyfresi poblogaidd fel Pobol y Cwm, Glan Hafren a Halen yn y Gwaed.

Mae 2004 yn argoeli i fod yn flwyddyn brysur iawn i Buddug wrth i Castradiva fynd ar daith i'r Unol Daleithiau a Croatia. Hefyd, fe fydd hi'n cyfarwyddo Orpheus and the Underworld gyda Choleg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru, lle mae hi'n gweithio fel hyfforddwraig llais, ac fe fydd hi hefyd yn cyfarwyddo a pherfformio Les Miserables in Miniatures ymhlith cynyrchiadau eraill gyda Chymdeithas Gerddoriaeth Llambed.

Ond er y bydd hi'n cael profiadau anhygoel wrth deithio'r byd gyda'r cynyrchiadau hyn, mae un peth yn sicr i Buddug. Does unman yn debyg i gartref iddi.

Gan : Aled Vaughan
Prosiect Papurau Bro


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý