Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Clebran
Yr ardd gudd yng Nghwmplyf Gardd Gudd
Mehefin 2002
Nos Wener Tachwedd 8ed, bydd gwylwyr Â鶹ԼÅÄ2 ledled Prydain yn cael cerdded heibio Cwmplyf i ardd gudd yn y gyfres o bum rhaglen Hidden Gardens. Daw dwy o Gymru, Aberglesni a Chlynfyw.
Bu camerâu teledu yn brysur yn cofnodi Gwyl Fai sef Dydd y Gweithwyr ledled y byd a phawb ohonom yn ymfalchïo bod gorthrwm y Meistr Tir wedi cilio o Gymru hefyd.

Fore trannoeth, daeth y camerâu i Bontseli i wylio dros 50 o ieuenctid a ddaeth yno'n wirfoddol i ddechrau adfer hen ogoniant Gardd Clynfywban gan hau hadau newydd yn yr hen bridd i godi cnydau organig i'w gwerthu'n lleol. Bwyd iach y dyddiau cyfoes o hen ardd a esgeuluswyd.

Dim diddordeb yn yr adfail
Wrth i Hefin Parri Roberts a mi fynd gyda nhw ar ran Clebran,nid oedd gan yr un ohonyn nhw y diddordeb lleiaf yn yr adfail islaw'r ardd ond ni allem ni fynd heibio!

Yma, ddiwedd y ddeunawfed ganrif deuai Bedyddwyr Pontseli ac Abercuch i gartref Sion Huws gan orlifo o'r bwthyn bach i'r buarth o flaen y ty i foli a dyblu'r gân cyn troi am adre wedi oedfaon gwlithog.

Erbyn hynny, yr oedd Cilfowyr yn eglwys lewyrchus a niferus a'i gweinidogion yn sefydlu canghennau. Ymhlith y canghennau hynny yr oedd Cwmplyf a hwy a ofalai am y ddiadell hon yn y cwm cudd, gyda help Griffith Jones, Gweinidog Rehoboth ym mhen ucha'r cwm, gan ei fod yn byw yn fferm Waun uchaf led cae i ffwrdd.

Ym 1826 codwyd y capel cyntaf yn Ramoth a daeth pennod Cwmplyf i ben ond daliwyd i hau had y Gair hyd heddiw, er gwaethaf holl esgeulustod yr oes. Mae angen bwyd iach organig ac ysbrydol heddiw fel erioed ac yn y rhifyn nesaf cawn hanes pennod newydd Cilfowyr a Ramoth.

Llafurio gydol oes
Aethom ninnau ein dau ymlaen i'r ardd lle bu llawer o werin Ramoth yn llafurio gydol oes yng nghysgod Plas y Clynfyw. Y mae'r 'sgweiar' presennol, James Lewis Bowen yn troi y stablau'n unedau i'r anabl ac yn awr yn rhoi yr ardd eang ar lês am chwarter canrif i'r gymuned i dyfu llysiau a ffrwythau yn y pridd toreithiog ar y llethr heulog o fewn y muriau cerrig cynnes.

Yr oedd y bore hwn o Fai yng nghwm Clynfyw dan haul braf ar lethr yn wynebu'r de fel bod ar lethrau Galilea yn nyddiau'r Iesu.

Y "llafurwyr" oedd myfyrwyr Coleg Amaeth Pibwrlwyd, aelodau'r ATS, Grwp Therapi a gwirfoddolwyr lleol gyda Robert Taylor yn cydlynu'r fenter. Daeth nawdd o bob cyfeiriad, y Cyngor Sir, PAVS a'r planhigion yn rhodd gan Gerddi Dolau Hirion Llandeilo.

Cynnyrch cwbwl organig
Dim ond dechrau yw hyn a bydd y gwaith yn mynd ymlaen o wythnos i wythnos ac o dymor i dymor a'r cynnyrch cwbwl organig ar werth yn lleol cyn diwedd yr haf.

Erbyn hynny, bydd y fenter wedi ei chofrestru'n Elusen ac yn gobeithio cael rhoddion y Loteri ac Amcan Un.

Bu'r cynllun ar y gweill ers sawl blwyddyn ond daeth y Clwy' i atal y fenter y llynedd. Erbyn i'r rhaglen gyrraedd sgrîn Â鶹ԼÅÄ2, mae'n siwr y bydd y Cyfryngau eraill yn dod â'r hanes i ni, ond roedd yn dda cael bod yno ar ran Clebran ar y cychwyn.

Erthygl gan Dafydd Henri Edwards a Hefin Parry-Roberts






0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý