Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Clebran
Un o ysgolion gwledig bro'r Preseli Dyfodol ysgolion bach gwledig?
Mai 2002
Mae'r broses o ymgynghori â rhieni ynglyn ag ad-drefnu addysg gynradd yn ardal Blaenffos, Crymych a Hermon wedi ail-ddechrau.
Cynhaliwyd cyfarfodydd yn ystod mis Mawrth yn y dair ysgol, ac yno y bu'r Cyfarwyddwr Addysg, Mr Gerson Davies, yn amlinellu cynlluniau Adran Addysg y Cyngor Sir, sef cau Ysgolion Blaenffos a Hermon ac adeiladu ysgol newydd yng Nghrymych.

Bu ad-drefnu yn barod yn ardal Bwlchygroes a Thegryn, wrth gau ysgol Bwlch, a buddsoddi ar adeilad ysgol Tegryn i greu ysgol newydd Clydau. Caewyd ysgol Capel Newydd a gwelwyd buddsoddiad eto yn adeiladau ysgol Cilgerran.

Cynlluniau ar y gweill
Mae cynlluniau ar y gweill i ad-drefnu addysg gynradd yn ardal Trewyddel a Llandudoch, ardal Penffordd a Maenclochog, ardal Dinas, Trefdraeth a Llanychllwydog ac ardal Cwmbach, Henllan Amgoed, Llanboidy a Llangynin dros y ffin yn Sir Gaerfyrddin. Mae'r rhestr yn un faith mewn ardal gymharol fach.

Mae sôn am gau ysgolion bychain yn codi pob math o emosiwn i'r wyneb. Mae'r gwrthwynebwyr yn sôn am ladd cymunedau gwledig, rhwygo'r galon allan o'r gymdeithas, tranc y bywyd pentrefol.

Amlygir ofnau rhieni o'r hyn fydd yn wynebu eu plant wrth symud o ysgol fach i ysgol fawr. Dangosir teyrngarwch gan rieni sy'n gyn-ddisgyblion a mewnfudwyr yn mynegi eu barn yn gryf, mai eu dewis nhw fyddai ysgolion bychain, gan adrodd hanesion am yr ysgolion mawr trefol, dinesig dros y ffin.

Pwysleisir y polisi o Ganolfannau Dysgu Gydol Oes, ysgolion pentrefol yn agor eu drysau i'r gymuned gyfan yn yr hwyr, ar gyfer ehangu'r defnydd o'r dechnoleg newydd sydd yno'n barod.

Dadlau brwd
Ceir dadlau brwd ynglyn â rhagoriaethau ysgolion bychain o'r naill ochr, a'r llall yn dadlau am ragoriaethau ysgolion mawrion.

Y gwir yw fod gan ysgolion bychain eu cryfderau a'u gwendidau o ran trefniadaeth, gofal bugeiliol ac ansawdd yr addysg ac mae'r un peth yn wir am ysgolion mwy. Petai'r ysgolion bychain i gyd yn cau, un peth a fydd wedi ei golli yn llwyr yw'r hawl sydd gan rieni i ddewis.

Pan symudais i'r ardal yma 27 mlynedd yn ôl i ddechrau fy ngyrfa dysgu yn Ysgol Beca, cefais fy newis yn gynrychiolydd athrawon ar Fwrdd Llywodraethol ysgolion yr ardal, ffolineb yr ifanc yn derbyn enwebiad. Un corff llywodraethol oedd ar gyfer rhyw 16 o ysgolion bryd hynny.

Roedd y Llywodraethwyr a'r Awdurdod Addysg yn sôn am adeiladu ysgol newydd yng Nghrymych, ac un arall ym Maenclochog bryd hynny, ac wedi bod yn trafod y mater ers rhai blynyddoedd.

Credaf fod pawb am weld ysgol newydd yng Nghrymych a buddsoddiad ariannol sylweddol mewn addysg ieuenctid ein bro. Mewn byd perffaith, hoffwn weld adeiladau newydd a datblygiad adnoddau ymhob ysgol.

Cynlluniau cyffrous
Yn y cyfarfod yn Hermon bu Mr Gerson Davies yn sôn am gynlluniau cyffrous yr Awdurdod Addysg i ddatblygu'r campws yng Nghrymych.

Bu'n sôn am Ganolfan e-ddysgu newydd ac adnoddau newydd ar gyfer Astudiaethau'r Cyfryngau yn Ysgol y Preseli, datblygiadau y byddwn wrth gwrs yn eu croesawun fawr iawn, ond niwlog iawn oedd ei ymateb i gwestiynau am yr ysgol gynradd newydd.

Soniodd Mr Davies am amserlen y newidiadau. Ysgolion Blaenffos a Hermon i gau, a'r ysgol newydd i agor ym Medi 2004.

Ond yr hyn a'm synnodd i oedd y ffaith nad oedd yr un cynllun ar gael ar gyfer yr ysgol gynradd newydd arfaethedig, a'r bygythiad cuddiedig na fyddai'r ysgol newydd yn cael ei hadeiladu o gwbwl heb gau ysgolion eraill yn y cylch.

Rhieni'n holi
Pan holodd y rhieni am y sefyllfa bresennol ynglyn â bwydo plant Preseli a Chrymych, ymateb Mr Davies oedd, efallai byddai'r Adran Penseiri yn argymell adeiladu cegin a ffreutur newydd rhwng y ddwy safle.

Pan holwyd Mr Davies ynglyn â'r ffaith y byddai mwy o geir a bysiau yn creu anrhefn parcio, ei ymateb eto oedd fod hyn fel dyn yn ceisio gwerthu car i gwsmer, a'r car wedi ei gloi yn y garej, a neb yn gallu ei weld.

Bydd cylch arall o gyfarfodydd ym mis Mai, ymgynghori pellach, a chynlluniau manwl o'r ysgol newydd i'w gweld (gobeithio). Ond un peth sy'n hollol siwr, sef y ffaith y bydd rhieni Hermon yn brwydro'n galed i gadw ein hysgol ar agor.

Ond yr hyn yr ofnaf yw bod y penderfyniadau wedi eu gwneud yn barod, a mater o reidrwydd cyfreithiol yw'r broses ymgynghori, nid oes rheidrwydd talu sylw i ddymuniadau rhieni.

Angen cyd-weithio
Petai hyn yn wir, mae angen i rieni'r dair ysgol gyd-weithio i wneud yn siwr mai dim ond y gorau ddaw i'r ysgol newydd.

Nid rhyw jig-so o adeiladau wedi eu rhannu rhwng Ysgol y Preseli a'r ysgol gynradd newydd, ond sefydliad newydd sbon a fydd yn adnodd gwerthfawr i'r fro am ddegawdau i ddod.

Rhaid i bawb ymgyrchu yn ddygn ac yn ddewr dros yr hyn y maen nhw'n ei gredu. Rhaid dangos i Bwyllgor Addysg y Cyngor Sir, mai nid esiampl o ymarfer torri ar y gwariant addysg yw hyn, ond trafodaeth bwysig am ddyfodol addysg ein plant.


Erthygl gan Gerwyn Jones


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý