Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Clebran
Garry Owen yn holi Terwyn Tomos yng nghaffi Beca Taith Papurau Bro y Post Cyntaf
Chwefror 2007
Garry Owen, cyflwynydd y Post Cyntaf ar Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru sy'n sôn am yr hynt a'r helynt pan aeth y criw ar daith trwy Gymru - gan alw yng Nghaffi Beca, Efailwen ar y ffordd.
Teiar fflat y tu fas i gapel y Tabernacl! Dyna sut y dechreuodd taith papurau bro y Post Cyntaf. Ond doedd dim byd yn fflat am y drafodaeth y tu fewn i'r capel wrth i griw o bapur Yr Hogwr ddod at ei gilydd i wthio'r cwch i'r dŵr fel petai ... yn llythrennol felly gan i bod hi yn bwrw hen wragedd a ffyn y bore hwnnw ...

Arbrawf newydd oedd hwn ar y cyd rhwng newyddiadurwyr rhaglen newyddion foreol y Post Cyntaf ar Radio Cymru, a thimau o wirfoddolwyr sy'n cynhyrchu rhai o'n papurau bro ni. Y bwriad oedd rhoi chwarter awr o'r rhaglen bob bore am wythnos i'r papurau i baratoi rhaglen gylchgrawn fer yn adlewyrchu eu hardaloedd. Fe fydden nhw wedyn yn dewis y storïau, y gwesteion a'r pynciau. Nhw hefyd fydde yn gyfrifol am adolygu papurau newyddion y dydd bob bore. Roedd hi'n dipyn o her, ond roedd pob un yn barod amdani ac am y gorau yn cynhyrchu pecynnau newyddion, ffeindio storïau a gwahodd cyfranwyr i'r rhaglen.

Yr Hogwr
Garry Owen gyda rhai o griw Yr HogwrPryder am ddyfodol corau meibion ac yn wir dyfodol ein papurau bro ni hefyd aeth a bryd pobol Pen-y-bont ar Ogwr a'r cylch, a'r criw yn ddigon parod i ddweud eu dweud. Mae'n werth nodi mai dyma lle 'nethon ni ddarganfod un o golofnwyr y dyfodol, merch ifanc sy'n dal yn yr ysgol gynradd ond sy' eisoes yn cyfrannu adolygiadau llyfrau i'r Hogwr. Dechre'n ifanc fan hyn, mae'n amlwg.

Clebran
Caffi BecaSiwrne i'r gorllewin wedyn i ardal Crymych a phapur Clebran. Roedden ni'n darlledu o Gaffi Beca ... ac roedd hi'n dipyn o sioc i gyrraedd cyn chwech y bore a gweld bod y drysau ar agor led y pen, a'r brechdanau bacwn eisoes yn barod gan y perchennog rhadlon. Roedd tîm y Post Cyntaf wrth eu boddau ... roedd hyn yn dipyn gwell na'r coffi mewn cwpane polystyrene sydd ar gael yn y stiwdios yn Llandaf!

Roedd digon i'w drafod fan hyn hefyd ... er ei bod hi yn demtasiwn i fynd am ddishgled bob pum muned gan bod arogl y coffi ffres yn treiddio drwy'r lle. Dyma beth oedd darlledu mewn steil, a'r criw yn cael blas arni mewn mwy nag un ffordd.

  • Lluniau o dîm y Post Cyntaf gyda chriw Clebran

    Roedd y daith y p'nawn hwnnw yn siwrne a hanner. Cyrraedd Dyffryn Banw oedd y nod er mwyn cwrdd â thîm Plu'r Gweunydd. Roedd swyddfeydd post yn cau mewn ardaloedd gwledig yn un o'r storïau a ddewiswyd gan y tîm yma. Roedd angen, felly, galw yn swyddfa bost Meifod ar y ffordd. Bu bron i'r ymweliad droi yn stori - fe gafodd allweddi y car eu cloi YN y car ! Dyna halibalŵ^ a rhaid oedd galw am gymorth yr AA (Dyma'r eil dro mewn tridiau ... ond cadwch hynny yn gyfrinach ...).

    Roedd y siwrne o Meifod i Ddyffryn Banw hefyd yn ddiddorol a dweud y lleia, diolch yn bennaf i'r tywydd garw. Do, daeth y gwynt a'r glaw. Ond digon cynnes fu'r croeso ar fws Â鶹ԼÅÄ Cymru yn Llangadfan gyda thîm papur Plu'r Gweunydd ar y bore Mercher - a ninnau hanner ffordd drwy'r daith. Roedd y tywydd yn dal i achosi hafoc wrth deithio i Lanrug hefyd. Doedd dim posib croesi'r bont ym Machynlleth ac felly lan â ni i Lanwrin, ar y scenic route! Ac ar ôl cyrraedd bu bron iawn i holl waith caled papur Eco'r Wyddfa fynd yn ofer.

    Garry Owen yn holi FFion OwenRoedd gwyntoedd cryfion dychrynllyd yn Llanrug yn achosi probleme difrifol i'r ddysgl lloeren oedd yn sicrhau bod gyda ni signal i ddarlledu o'r "Stiwt". Yr unig ateb oedd gofyn i'r peiriannydd sain amyneddgar eistedd ar ben to y car yn dal y ddysgl a hynny yn nannedd y gwynt, trwy gydol y rhaglen. Fe gafodd hi baned am ei hymdrech!

    Daeth y siwrne i ben yn yr Wyddgrug, cartref y brifwyl eleni, a'r Eisteddfod wrth gwrs ar frig yr agenda fan hyn, a'r paratoadau ar gyfer yr wythnos fawr yn destun trafod. Roedd y bythol wyrdd Aled Lloyd Davies wrth ei fodd yn ymateb i dynnu coes pan nes i awgrymu'n hy ei fod e braidd yn hen i fod yn gadeirydd y pwyllgor gwaith . "Arhoswch i fi gael mynd i nôl fy ffon" medde fe â gwên ddireidus ar ei wyneb.

    Daeth yr wythnos i ben yn rhy sydyn o lawer, ond mae paratoadau ar y gweill i fynd mas eto i gwrdd a'n cyfeillion yn y papurau bro. Mae papur Llambed Clonc wedi ein gwahodd ni draw eisoes. Os hoffech i ni ddod i'ch gweld chi, croeso i chi gysylltu â ni, ond rhowch ddigon o rybudd er mwyn i ni bacio'r cotiau glaw, yr hetiau a'r mapiau ac wrth gwrs i wneud yn siŵr ein bod ni wedi talu am aelodaeth lawn gyda phob cymdeithas foduro - rhag ofn!
    Gan Garry Owen

  • Lluniau o dîm y Post Cyntaf gyda chriw Clebran


  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

    Sylw:




    Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý