Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Clebran
Ardal Preseli Ymladd tros ddyfodol Ysgol
Mai 2003
Mae Ysgol Gymunedol Hermon o dan fygythiad. Fe fydd swyddogion Cabinet y Cyngor Sir yn derbyn argymhelliad oddi wrth y Cyfarwyddwr Addysg ganol fis Mai 2003.

Y tebygrwydd yw bydd yr argymhelliad hwn yn nodi'r bwriad i gau ysgolion cynradd Hermon, Blaenffos a Crymych ac yna adeiladu ysgol ardal newydd i 180 o blant yng Nghrymych.

Ar hyn o bryd mae 53 o blant yn Ysgol Gynradd Hermon sy'n adlewyrchu llwyddiant yr ysgol a'r galw am ysgol gynradd wledig yn ardal pentrefi Llanfyrnach, Y Glôg a Hermon. Mae rhieni Ysgol Hermon yn anfodlon gyda phroses ymgynghorol y Cyngor Sir. Yn wir, ar sawl achlysur bu'n rhaid i rieni Hermon adael y cyfarfodydd ymgynghori heb elwa o gwbl o ran gwybodaeth bellach am y datblygiadau yng Nghrymych a fyddai'n effeithio ar addysg eu plant yn Ysgol Hermon. Teimlir felly na fu'r broses ymgynghorol yn un gyson a theg i rieni Hermon. Mae'r Bwrdd Llywodraethol a rhieni Ysgol Hermon gant y cant yn erbyn y bwriad i gau'r Ysgol.

Pam cadw Ysgol Gymunedol Hermon ar agor? Dyma'r dadleuon.
Nifer
Mae'r ysgol yn llawn. Bydd 54 o ddisgyblion yma yn Nhymor yr Hydref 2003. Mae arwyddion pendant y bydd twf cyson yn ystod y blynyddoedd nesaf. Erbyn hyn mae'r Cyngor Sir wedi caniatáu dros 40 o safleoedd adeiladu tai yn ardal Hermon, Y Glôg a Llanfyrnach. Gwelwn fod nifer o bobl ifanc lleol Cymraeg yn penderfynu adeiladu yma. Mae nifer y teuluoedd ifanc felly yn tyfu a hefyd y niferoedd yn y Cylchoedd Ti a Fi a'r Meithrin yn Hermon. Dyfodol sicr felly o ran nifer.

Adeilad Ysgol Hermon
Mae'r adeilad yn hollol glyd a diogel heb angen gwariant arno.
Cost
Mae addysgu plentyn yn Ysgol Hermon yn cyfateb yn ffafriol â'r norm sirol.
Iaith
Mewn awyrgylch gartrefol a phersonol mae modd hybu Cymreictod a diogelu'r iaith Gymraeg i'r dyfodol.
Addysg
Mae ansawdd y dysgu a'r addysgu o safon uchel ac atebir gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol yn llawn.
Y Cymunedau yn Hermon, Y Glôg a Llanfyrnach
Mae'r ysgol yn ganolbwynt i weithgareddau a bywyd y gymuned ac yn diogelu traddodiadau a datblygiadau cymunedol.

Cymreictod
Mewn ysgol fawr, bydd y broses o ddi-Gymreigio'r plant yn anochel ac yn arwain at golli Cymreictod
Dymuniadau'r rhieni
Nid oes cyfiawnhad o fath yn y byd dros gau ysgol fach wledig fel Hermon sydd yn ffynnu ac yn llwyddo.Mae gan Ysgol Gynradd Hermon frwydr anodd o'i blaen i ddarbwyllo aelodau Cabinet Cyngor Sir Penfro i gadw'r ysgol bentref ar agor ond hoffai'r rhieni annog unrhyw gynddisgyblion o'r ysgol neu aelod o'r cyhoedd sy 'n cefnogi cadw ysgolion bach gwledig ar agor i ysgrifennu at aelodau'r Cabinet yn ystod yr wythnos nesaf i ddangos eich gwrthwynebiad.

Enwau aelodau'r Cabinet yw: Cyng. Maurice Hughes (Cadeirydd), Cyng. John Allen-Mirehuse (Is-gadeirydd), Cyng. John Davies, Cyng. Roy Folland. Cyng. Patricia Griffiths, Cyng. Brian Hall, Cyng. William Hitchings, Cyng. Brian Howells, Cyng William Roberts a'r Cyng. Peter Stock. Y cyfeiriad i anfon eich llythyrau o wrthwynebiad yw: Aelodau Cabinet Cyngor Sir Penfro, Neuadd Y Sir, Hwlffordd, Sir Benfro. SA61 1TP

Diolch am ddarllen yr uchod. Rhaid gweithredu ar unwaith i warchod gwir werthoedd ein cymunedau gwledig er mwyn diogelu i'r cenedlaethau a ddaw " y glendid a fu".
Rhieni disgyblion Ysgol Gymunedol Hermon


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý