Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Clebran
Llethr sgio Llangrannog Cynllun Bro DJ
Ebrill 2003
Mae Cynllun Bro DJ wedi bod yn rhedeg o dan faner y Fenter ers dros hanner blwyddyn bellach, ac ers ir cynllun ddechrau mae llawer o ddigwyddiadau a datblygiadau wedi bod yn yr ardal.

Mae'r ardal yn ymestyn o Eglwyswrw hyd at Fathri. Mae hon yn ardal o arwyddocâd ieithyddol arbennig sydd mewn safle hollbwysig i ddyfodol yr iaith Gymraeg yng Ngorllewin Cymru. Mae'r Gymraeg yn ganolog i etifeddiaeth ddiwylliannol y cylch a dylai barhau'n rhan annatod o wead cymdeithasol yr ardal. Nod y prosiect yw ehangu dwyieithrwydd a'r defnydd o'r Iaith Gymraeg o fewn ardal y Cynllun wrth ddenu cefnogaeth pobl leol i gymryd rhan mewn gweithgareddau dwyieithog.

Yn ogystal, mae dau gynllun arall yn gweithio o dan y Fenter sef Cynllun Ogam dan Swyddogaeth Rhian Owens, cynllun er mwyn cynnal Tir a Môr, laith a Diwylliant; a Chynllun Estyn Llaw sydd yn gyfrifol am y sector gwirfoddol yn Sir Benfro, dan arweiniad Nerys Rhys.

Mae canlyniadau Cyfrifiad 2001 newydd eu rhyddhau, a braf oedd gweld bod cynnydd yn yr Iaith Gymraeg. "Mae'r cynnydd yma yn gam pwysig ymlaen i'r Gymraeg. Am bron i ganrif bu'r iaith yn colli tir ac yn dirywio'n gyflym ar hyd a lled y wlad, felly mae'n gadarnhaol iawn gweld cynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg ar draws y, wlad," medd Rhodri Williams, Cadeirydd Bwrdd yr laith Gymraeg. Mae gwaith y Mentrau Iaith ym mhob rhan or wlad wedi cyfrannu at yr adfywiad hyn, gan gynnwys rôl bwysig partneriaethau eraill Bwrdd yr Iaith Gymraeg megis TWF a Mudiad Ysgolion Meithrin.

Ymunodd Menter Iaith Sir Benfro a Theatr Ffowm yn ddiweddar i greu perfformiad i deithio o amgylch ysgolion uwchradd y Sir. Bu disgyblion o Ysgol Bro Gwaun a Ysgol y Preseli yn cymryd rhan er mwyn creu drama o dan arweiniad Iwan Brioc.

Ar y deunawfed o Chwefror bu Cynllun Bro DJ yn cyd-weithio gyda Urdd Gobaith Cymru i drefnu Diwrnod Hwyl yng Nghanolfan Hamdden Abergwaun, lle bu dos 25 o blant y cylch yn cymryd rhan ac yn mwynhau'r gweithdai Golff, Saethyddiaeth (Archery) a Dawnsio Gwerin.

Mae'r berthynas rhwng Menter Iaith Sir Benfro a'r Urdd yn cryfhau, ac mae gwersi Tenis Cymraeg wedi dechrau yng Nghanolfan Chwaraeon Abergwaun. Mae gwersi ar gyfer plant rhwng 8-11 oed yn cael eu cynnal rhwng 5 a 6 o'r gloch ar brynhawn ddydd Gwener a chwrs ar gyfer pobl ifanc rhwng 11-14 oed yn dilyn rhwng 6 a 7 o'r gloch. Bydd y cyrsiau yn parhau am ddeg wythnos. Os oes diddordeb gyda'ch plant fynychu'r cwrs, cysylltwch gyda Darren Bowen o Swyddfa'r Urdd yn Llangrannog ar (01239) 654196.

Aelwyd yr Urdd newydd Abergwaun
Mae Aelwyd yr Urdd wedi agor yn Abergwaun ers rhai misoedd bellach; ac mae plant yr ardal yn cael siawns i wneud amrywiaeth o weithgareddau trwy gyfrwng yr Iaith Gymraeg gan gynnwys gwneud Crempog a Wyau Pasg, ymweld â Grosaf dân Abergwaun, Sgio yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog, ag ymweld â pherfformiadau yn Theatrau yr ardal, a llawer llawer mwy.

Er mwyn sicrhau parhad Aelwyd Abergwaun, mae angen eich help!! Mae o hyd yn braf gweld oedolion ifanc yn ymuno gydag Aelwydydd yr ardal, felly os oes unrhyw un o chwi ddarllenwyr Clebran yn dymuno fod yn rhan o Aelwyd Abergwaun neu' n dymuno cynorthwyo gydar gwaith, cysylltwch gyda Michael yn Swyddfa'r Fenter yn Abergwaun.

Mae staff y Fenter hefyd yn medru cyfieithu hyd at 250 o eiriau am ddim yn y Swyddfa yn Abergwaun, felly os oes angen rhywbeth wedi ei gyfieithu arnoch galwch i mewn i'n gweld yn 17, Y Wesh, Abergwaun. Rhif Ffôn: - (01348) 873700. Gwnewch yn siwr fod cynnydd yn y defnydd o'r iaith Gymraeg yn parhau yn eich ardal chi trwy gefnogi Cynllun Bro DJ a Menter laith Sir Benfro. Os oes gennych syniadau neu os hoffech gefnogi neu gyfrannu at y prosiect mewn unrhyw ffordd byddwn yn falch o glywed wrthych.

Michael Llewelyn. Swyddog Cynllun Bro.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý