Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Clebran
Guto, Rhydian a Dafydd Tu ôl y llenni
Ebrill 2005
Guto Vaughan a Dafydd Jones, enillwyr ifancaf erioed cystadleuaeth Cân i Gymru, yn disgrifio sut aethon nhw ati i gystadlu, a'r digwyddiadau ar y diwrnod mawr eleni pan gipion nhw'r wobr gyntaf.
Pan gawsom y syniad o gystadlu yng nghystadleuaeth Cân i Gymru, we ni byth yn meddwl y bydden ni'n sefyll ar ddydd Gŵyl Dewi gyda siec o ddeng mil o bunnau yn ein dwylo!

Ond yn araf bach mae'r teimlad o ennill wedi dechre suddo mewn. Roedd e'n strocen a hanner i feddwl ein bod ni wedi ennill deng mlynedd i'r noson ar ôl i Dad, sef Richard Jones, ac Arwel John ennill gyda'r gân Cân i'r Ynys Werdd, gafodd ei chanu gan Gwenda Owen.

Dechreuodd ein partneriaeth ni i ysgrifennu'r gân am fod y ddau ohonom yn aelodau o'r grŵp Garej Dolwen, sydd wedi cael blwyddyn brysur dros ben - wedi ennill cystadleuaeth i grwpiau yn Eisteddfod yr Urdd Môn, a chyrraedd rownd derfynol Brwydr y Bandiau ar Radio Cymru. Roedd y fflam wedi ei chynnau a ninnau'n mwynhau ychwanegu caneuon newydd at set y grŵp.

Ar y dechrau, cytunodd Guto i ysgrifennu'r geiriau oherwydd dwi fy hun ddim yn rhy hoff o'r ochr honno! Ar ôl aros ac aros i Guto ysgrifennu'r geiriau, we ni'n meddwl y gallen ni anghofio am y syniad, ond ar ôl hanner awr o ishte lawr gyda dishgled o de ar brynhawn dydd Sadwrn, daeth Guto i ben â'r gamp, ac fe wnaeth gyflwyno set o eiriau i mi! Roedd y geiriau yn grêt a wen i'n disgwyl mlaen yn fowr iawn i ddechrau cyfansoddi'r alaw.

Dyw ysgrifennu alaw ddim yn broblem i fi fel arfer, ond gan fod yr achlysur hwn yn un mor arbennig wen i ddim yn siŵr pa fath o gân i'w hysgrifennu. lfe cân roc, bop, werinol, jas neu rhywbeth mwy traddodiadol fyddai'n addas? Ond ar ôl meddwl am y peth, roedd cân bop ysgafn yn swnio'n ddewis gwell i fi ac yn debycach i fy arddull i o gyfansoddi. Felly gwnes i ferwi llond mwg o goffi, gafael yn fy ngitâr ac eistedd lawr ar fy ngwely i greu tôn.

Ar ôl cyfansoddi'r alaw, roedd rhaid i ni wneud y penderfyniad anodd o ddewis pwy fydde'n cael y fraint o ganu ein cân ni ar dâp er mwyn ei hanfon at y cwmni teledu. I fod yn berffaith onest, dim ond un person oedd yn dod i'r meddwl, a'r person hwn oedd y Bonheddwr Trystan Griffiths!

Ry'n ni'n dau wedi nabod Trystan ers sbel fowr, ac yn ffrindiau da yn Ysgol y Preseli. Hefyd mae Trystan wedi hen arfer â pherfformio ac wedi ennill nifer o gystadlaethau yn cynnwys Eisteddfodau'r Urdd a'r Genedlaethol. Felly, dyma fynd i Stiwdio Fflach at Wyn i roi'r cyfan ar dâp, a'i anfon i ffwrdd bedwar diwrnod cyn y dyddiad cau!

Roedd Wyn yn help enfawr yn y broses recordio, a hoffem ni ddiolch yn fowr iddo am ei gymorth a'i gefnogaeth bob amser. Y rhan nesaf, a'r anodda', oedd aros i weld os oedden ni drwyddo i'r ffeinal. Hir yw pob ymaros ... ond wedd hi'n anodd peidio breuddwydio beth i'w wneud gyda £10, 000 pe bawn ni'n ennill!!

Tua wythnos yn diweddarach, fe ganodd y ffôn - 'Mae'ch can trwodd i'r wyth olaf.' Wel, dyna beth o'dd sioc! Ar ôl yr holl gyffro a'r edrych mlaen, dyma Fawrth y cyntaf yn cyrraedd o'r diwedd. Mynd ar y trên i Gasnewydd yn y bore bach, a chyrraedd erbyn un ar ddeg. Cawsom groeso gan bawb - yfed te, bwyta bisgedi a chwrdd â'r cyfansoddwyr a'r perfformwyr eraill.

Rhydian Bowen Harris yn perfformio'r gân Dyma'r tro cyntaf i ni gwrdd â Rhydian Bowen Phillips bachgen ffein iawn, ac fe wnaethom fwynhau ei gwmni. Cawsom hwyl yn cymdeithasu gyda'r gweddill hefyd, yn enwedig bois gwyllt y band Vanta! Braf hefyd oedd clywed Caryl Parry Jones yn canu "Mi glywais i, Mi glywais i .... " (ein cân ni!) wrth iddi gerdded yn hamddenol o gwmpas y stiwdio.

Roeddem yn teimlo'n gartrefol iawn yno, yn enwedig gyda chymaint o bobol Sir Benfro yno'n gweithio. Roedd dau o adre' yno sef Lowri Jones a Meirion Davies, a Shân Crofft o Faenclochog, Kevin Davies o Gapel Newydd (fu'n ein cyfweld ni ar y radio) a Llinor ap Gwynedd oedd yno'n canu gyda Côrdydd.

Ar ôl cinio 'All stations GO'. Cafodd y rhaglen gyfan ei hymarfer sawl gwaith - y cyfweliadau, y perfformiadau a chyflwyniadau Sarra ac Alun. Roedd y technegwyr wedi sicrhau bod pob dim yn ei le ac yn gweithio - y camerâu, y golau, y sain. Popeth yn barod! Tua saith o'r gloch, cyrhaeddodd y cefnogwyr yn gyffro i gyd. Daeth dau fws Midway yn llawn o deulu a ffrindiau gan gynnwys ein prifathro a'i wraig Mr a Mrs Lloyd.

Doedd dim llawer o amser i fynd nawr ac roeddem yn dechrau teimlo'n nerfus. Roedd yr awyrgylch yn drydanol a chyffrous iawn pan ddechreuodd y rhaglen, a'r gynulleidfa'n awyddus i glywed y caneuon. Yn ystod y rhaglen roeddem ni'r cyfansoddwyr a'r perfformwyr y tu ôl i'r llwyfan, lle roedd cyfweliadau byr yn cael eu ffilmio rhwng y caneuon er mwyn cael ein hymateb ni i'r perfformiadau. Cawson gwmni a chefnogaeth ein ffrindiau mynwesol sef Trystan, Caio, Owain, Steffan a Gareth yno.

Pan ddaeth yr amser i'n cân ni gael ei pherfformio, aeth ein cefnogwyr yn wallgo', gyda phawb yn bloeddio ac annog Rhydian i wneud ei orau AC MI WNAETH! Roedd wedi cael ei wefreiddio ac wedi mwynhau ymateb y dorf ac roedd e, a ni, yn hapus iawn â'r perfformiad. Mae Rhydian wedi gofyn i ni i ddiolch i'r cefnogwyr o'r ardal am eu brwdfrydedd a'u hanogaeth ar y noson, ac am wneud iddo deimlo'n gartrefol a hyderus ar y llwyfan.

Ar ôl i'r rhaglen orffen a'r wyth cân gael eu perfformio, roedd tua awr o aros pan roedd pawb yn cael cyfle i bleidleisio am eu hoff cân. Yn ystod y cyfnod yma cawsom gyfweliad gan Kevin Davies ar y radio, a awgrymodd y byddwn yn siŵr o brynu losin gyda'r arian petaem yn digwydd ennill! 'Chi'n rhy ifanc i wneud dim byd arall 'da fe!'

Sarra Elgan gyda'r enillwyrYna y canlyniad mawr! Dechreuodd Sarra Elgan gyhoeddi nifer y pleidleisiau ar y bwrdd sgorio. Roedd ein nerfau'n rhacs! O un i un, cyhoeddwyd y pleidleisiau, a daeth ein tro ni ... WAW! Anhygoel! 3215 o bleidleisiau! Ro'n ni ymhell ar y blaen (ar hyn o bryd'). Wedyn y canlyniad nesaf - roedden yn gwybod ein bod o leiaf yn drydydd! Canlyniad arall - nawr roedden yn ail! A'r canlyniad olaf? Ein calonnau'n curo! BLOEDD FAWR! Roedden ni wedi ei gwneud hi! Anghredadwy! Roedd pawb yng nghefn y llwyfan yn ein llongyfarch. Roedd llawer o gyffro ac roedd rhaid symud yn gyflym i'r llwyfan i gael ein gwobr o £10,000 ac er mwyn i Rhydian ganu'r gân eto.

Sarra Elgan, Guto, Rhydian, dafydd ac AlunWrth gyrraedd y llwyfan aeth ein cefnogwyr ni yn wyllt - sgrechen, gweiddi, neidio, dawnsio, chwifio breichiau a rhai yn llefen! A ni'n dau? Mewn sioc! Roedden ni ar ben ein digon, yn enwedig o feddwl mai ni oedd yr ifancaf i ennill Cân i Gymru erioed. Doedden ni ddim wedi dychmygu dod yn yr wyth olaf, heb sôn am ennill!

Erbyn hyn ry'n ni wedi dod nôl lawr i'r ddaear, ond rhaid i ni nawr gymryd y cyfle i ddiolch yn fowr i bawb a wnaeth ein cefnogi ym mhob ffordd - yn gefnogwyr a ddaeth i Gasnewydd ac i bawb wnaeth bleidleisio. Ry'n ni, fel Lisa (Waw Ffacor) a ysgrifennodd yn ei herthygl y mis diwethaf' yn hynod o browd a balch ein bod yn perthyn i'r gymuned glos yma hefyd. Wrth gyrraedd adref ar y bws yng Nghrymych yng nghanol yr eira y noson honno, cawsom syrpreis i weld bod arwydd enfawr wedi cael ei roi ar iet Ysgol y Preseli gan Forge Signs yn ein llongyfarch. Roedd siampên, baneri a balŵns yn ein disgwyl gartref; bu'r ffôn yn canu'n ddi-stop am ddiwrnodau, cyrhaeddodd nifer fawr o gardiau a phawb yn ein llongyfarch ac yn falch o'n llwyddiant.

Diolch o galon i chi bobol ardal y Preseli am eich cefnogaeth, eich llongyfarchion a'ch dymuniadau da i ni yn Iwerddon. IE! Iwerddon! Dyw pethe ddim wedi beni 'to. O na! Ry'n ni ar ein ffordd i'r ŵyl Ban Geltaidd yn Nhra-lí. Yn anffodus nid yw Rhydian yn gallu dod gyda ni i ganu'r gân yn yr Ŵyl, ond YN FFODUS, mae Trystan yn gallu, a byddwn ni, aelodau Garej Dolwen yn cyfeilio iddo. Felly, bant â ni 'to! Ie wir gyda llond bws o gefnogwyr unwaith eto! Gwych! O ie, ma' rhai wedi bod yn gofyn i ni beth y'n wedi gwneud â'r arian - wel, prynu jelly babies, wrth gwrs!!

Dafydd Jones a Guto Vaughan
(dan ofal Prosiect papurau Bro)


Cyfrannwch

Teleri o Ynys Môn
Da iawn bois. Welai chi'n royal welsh.

Tels - Ynys Môn
Odd y gân yn grêt a ma shon rees a dafydd jones a guto yn ddel ofnadwy. wel dyn bois!

Gwen Vaughan
Fi'n dod o Blaenffos!!


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý