Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Clebran
Eirlys Peris Davies Cofio Eirlys
Hydref 2007
Ganwyd Eirlys Peris Davies yn Llanberis yn 1929 yn ferch y Mans. Y Parchg Ben Owen oedd ei thad a Lily Jenkins oedd ei mam, y ddau yn hannu o filltir sgwâr y Preseli.

Pan oedd Eirlys yn bymtheg oed symudodd y teulu i Gastell Newydd Emlyn, gan i'w thad dderbyn galwad i weinidogaethu ym Methesda Ponthirwaun, Trewen a Bryngwyn.

Wedi treulio cyfnod yng Ngholeg Hyfforddi Abertawe daeth Eirlys yn athrawes gynradd i Grymych yn ystod cyfnod Mr W D. Williams. Yna symudodd i sefydlu Uned Arbennig yn Abergwaun ac wedi hynny yng Nghrymych. Creodd Ganolfan Arbennig yn Ysgol Eglwyswen ac yno gorffennodd ei gyrfa ddysgu yn 1985. Heb ei hymdrechion byddai Addysg Arbennig y Sir wedi bod yn dlotach o lawer.

Tu allan i'w chyfrifoldebau gwaith, ymrwymodd Eirlys, fel ei thad o'i blaen i gefnogi nifer o fudiadau cenedlaethol. Roedd yn aelod brwdfrydig o Blaid Cymru ac roedd wedi'i dyrchafu i Urdd Derwydd yng Ngorsedd y Beirdd. Bu'n weithgar tu hwnt i fudiad Merched y Wawr yn y Sir. Hi oedd cadeirydd, presennol y Pwyllgor Rhanbarth. Bu hefyd yn Llywydd Cenedlaethol y Mudiad o 1984 i 86. Bu'n aelod o dîm Merched y Wawr ar Dalwrn y Beirdd ac nid rhyfedd wrth ddarllen detholiad o'i gwaith. Ymhlith y cerddi hynny mae dwy delyneg sensitif iawn yn tystio i'w cholled enbyd pan fu farw ei phriod Geraint ar drothwy'r Nadolig 1987 ar ôl bron i 34 blynedd o fywyd priodasol.

Ond nid gwraig i ymroi i hunan dosturi mohoni. Daliodd ati i frwydro dros hawliau teg i ddisgyblion ag anawsterau dysgu a chlymu hynny a'i gwaith gyda Mudiad Ysgolion Meithrin fel Cysylltydd Cynllun Cyfeirio. Nid brwydrau addysgol yn unigoedd y rhain i Eirlys and brwydrau personol hefyd. Roedd yn fam a oedd yn fawr ei gofal dros ei merched, yn arbennig Non. Roedd pob brwydr a enillai drosti hi'n sicrhau gwell cyfle i blentyn ac oedolyn ifanc arall mewn sefyllfa debyg. Bu'n fam-gu ac yn ffrind gariadus i'w hwyrion, Rhydian, Osian ac Eurgain Haf a oedd yn gannwyll ei llygaid.

Yn y blynyddoedd diwethaf hyn gweithiodd yn ddiflino mewn perthynas a Dolen Cymru Lesotho, gan deithio i'r wlad i weld yr angen drosti ei hun. Ymdrechodd i gynorthwyo drwy drefnu casgliadau, anfon peiriannau gwnio a defnyddiau yno ac agor drws ei chartref ar nifer o achlysuron i bobl a ddeuai o Lesotho i Gymru. Nid arbedodd ei hun wrth weithio dros yr achos hwn a thrwy hynny wneud gwyrthiau'n bosibl.

Roedd Eirlys yn gymeriad crwn a ffraeth, yn gwmniwraig ddifyr a deallus, yn ddarllenwraig eang, yn ifanc ei ffordd ac yn hoff o chwerthin iach. Daliodd ei brwdfrydedd dros hawliau dynol ledled daear a hefyd dros ei chymuned, ei Chymru a'r Gymraeg hyd y diwedd. Pa ryfedd taw Dafydd Iwan oedd ei hoff ganwr a hithau'n gallu uniaethu â geiriau cymaint o'i ganeuon? Boed i ni gael ein hysbrydoli gan ei llafur hi. Yng ngeiriau Dafydd Iwan:

"Cydiwn yn dy freuddwyd, a chofiwn dy neges di.
A chodwn y Gymru newydd ar ddaear ein Cymru ni."

Mae teyrnged i Eirlys Peris Davies gan Wyn Owens, bardd ac arlunydd o fro'r Preseli yn rhifyn Hydref 2007 o Clebran./p>


[an error occurred while processing this directive] 0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý