Cynhaliwyd Eisteddfod Mudiad Ffermwyr Ifanc Sir Gâr ar y 9fed, 16eg a'r 17eg o Hydref yn Neuadd San Pedr, Caerfyrddin, a braf oedd gweld y Neuadd yn llawn o fwrlwm y cystadlu.
Bu'r Eisteddfod yn un lwyddiannus iawn i aelodau Capel Iwan unwaith eto eleni, a braint oedd gweld un o aelodau y clwb yn ennill Y Gadair am Gerdd o dan y thema "Mynydd".
Elfin Davies, Cadeiryddes y clwb oedd yn fuddugol yng nghystadleuaeth Y Gadair.
Dyma'r ail dro i Elfin i ennill. Rhoddwyd y Gadair eleni gan Michael James, Cadeirydd y Sir.
Bu holl aelodau y clwb yn llwyddiannus yn yr amryw gystadlaethau a llongyfarchiadau mawr i bawb a gamodd i'r llwyfan, ac yn benodol i'r rhai a gynrychiolodd y clwb am y tro cyntaf.
Dywedodd Elfin, "Mae ein diolch ni fel clwb i'r holl aelodau, hyfforddwyr a rhieni yn enfawr.
"Rydym wedi bod yn ffodus i groesawu nifer o aelodau newydd eleni, a braf oedd eu gweld yn camu i'r llwyfan ac yn cystadlu hyd eithaf eu gall u."
Llongyfarchiadau calonnog i'r holl aelodau am eu gwaith.
Dyma rhai o ganlyniadau y cystadlaethau bu aelodau Capel Iwan yn rhan ohonynt: -
Cystadleuaeth y Meim (3ydd) Ensemble Ileisiol (3ydd)
Llefaru unigol - Hana Medi (3ydd) Llefaru unigol - Dion Davies (4ydd) Or (4ydd) Sgets (4ydd)
Adrodd Digri - Elfin Davies (1af) Cerdd - Elfin Davies (1af) Ymson - Ynyr James (1af) Grip Clocsio (laf)
Bydd dathliadau 60 mlynedd y Clwb yn parhau gyda'r Ginio Dathlu ar yr 28ain o Dachwedd yn Ngwesty'r Castell Malgwyn.
Mae tocynnau yn £20 a gellir eu prynu oddi wrth Rhian Jones.
Cysyllltwch a Rhian ar 07812 755 454.
Y Cynghorydd John Davies, Cwmbetws fydd y siaradwr gwadd.
Mae croeso mawr i aelodau hen a newydd i ymuno a ni yn y Clwb yng Nghapel Iwan.
|