Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Garthen
Rhys Ifans Frank, Spike a fi
Ebrill 2004
Cyfweliad arbennig gyda Rhys Ifans
Anthony Hopkins, Gene Hackman, Keanu Reeves, Julianne Moore, Julia Roberts... faint ohonom ni fyddai wrth ein bodd! yn cwrdd a sgwrsio â'r actorion enwog hyn? Mae hyn yn rhan o waith bob dydd yr actor o Ruthun, Rhys Ifans.

Actor ifanc, talentog sydd wedi hen gyfarwyddo â rhwbio ysgwyddau â'r enwogion. Mae'r papurau i gyd yn mynnu ei sylw ac mae'n cael ei gyfweld gan newyddiadurwyr o bob cwr o'r byd. Ond y tro hwn, Y Garthen sydd yn cael y sylw wrth i mi siarad ag e ar y ffôn a fynte yn nhŷ ei ffeind yn Llundain.

Mae gan Rhys Ifans farn bendant ar nifer o bethau ac nid y lleiaf o'r rhain yw gwleidyddiaeth ein gwlad. Y mae wedi datgan ei gefnogaeth yn groch yn y frwydr i gadw Ysgol Gynradd Hennon, Sir Benfro, ar agor, ac mae'r ffaith nad yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn rhoi'r gefnogaeth ddyledus i'n hysgolion bach gwledig, yn codi ei wrychyn.

"Dyma yw asgwrn cefn y gymdeithas Gymraeg, unrhyw gymdeithas wâr i ddweud y gwir" meddai Rhys yn bendant. Ychydig sy'n gwybod bod Rhys mewn gwirionedd, yn hanner hwntw. Daw ei fam o Hermon, Sir Benfro ac fe dreuliodd Rhys gyfnod cynharaf ei fywyd yno.

Er i Rhys a'i deulu symud i ogledd ddwyrain Cymru pan roedd yn grwt bach, mae'n teimlo'n lwcus iddo yntau fynychu ysgol fechan yno. "Mae'n gyfnod gwerthfawr ym mywyd plentyn" meddai. "Bu Mam a 'Nhad (sy'n dod o Nefyn) yn athrawon cynradd, ac mae'n bwysig bod plant yn derbyn y Gymraeg yn gynnar yn eu haddysg fel eu bed yn ei gadw am weddill eu hoes."

Mae gwaed Rhys yn amlwg yn corddi, ond dyw Rhys Ifans ddim wedi arfer â dal yn ôl. Er pan oedd yn blentyn, mae 'na dwtsh gwrthryfelgar wedi bod yn rhan ohono. Newidiodd ei enw o'i un gwreiddiol Evans, i Ifans er mwyn "bod yn lletchwith" meddai ef, a doedd dim yn mynd i'w atal rhag dilyn ei freuddwyd i'r byd perfformio.

Mae Rhys yn teimlo fwyaf cartrefol ar lwyfan neu o flaen y camera. Pan ddaeth Theatr Clwyd i'r Wyddgrug, roedd fel petai "awyren ofod mas o frics wedi glanio" meddai Rhys, a'r awyren honno'n cynnig dihangfa i'r Rhys Ifans ifanc. Ond cafodd gyngor digon sych gan ei athro gyrfaoedd yn yr ysgol uwchradd, pan ddywedodd wrtho i 'dyfu i fyny'! "Do'n i ddim yn hoffi eisteddfota, gwell oedd gen i'r theatr" meddai Rhys. "Roedd yr eisteddfod yn rhy gystadleuol i fi. Taswn i eisiau cystadlu, baswn i'n chwarae pêl-droed!"

Efallai mai'r cof cynharaf sydd gan nifer ohonom o Rhys yn perfformio yw'r darlun cofiadwy hwnnw ohono'n gwisgo wig tywyll, sbectol crwn, tanc top a dici bow, fel un hanner o'r ddau Frank. Y llall oedd Meirion Davies ac fe wnaeth y ddau gael llawer o sbort yn dynwared y dysgwyr o Birmingham. Ond erbyn hyn, rhaid i Rhys fedru dynwared Ilu o acenion gwahanol.

"Spike, y cymeriad wnes i chwarae yn y ffilm Notting Hill oedd wedi fy helpu i dorri mewn i'r byd sinema yn America" meddal Rhys. "Mae'r Americanwyr yn hoff iawn o'r acen Gymraeg!"

Cymro oedd ei gymeriad yn y ffilm The Replacements wrth ochr Gene Hackman a Keanu Reeves hefyd, ond mae 'na droeon pan gofynnir iddo golli ei acen Gymraeg ar gyfer rhannau, yn Lloegr rhan amlaf, fel bu'n rhaid iddo wneud yn Once upon a time in the Midlands (gyda Robert Carlyle) ac yn Kevin and Perry go Large (gyda Harry Enfield).

Mae Rhys Ifans ar hyn o bryd yn ffilmio yn Seland Newydd. Mi fydd yn treulio dau fis yno'n ffilmio Not Only, But Always, ffilm am y diweddar Peter Cooke (Rhys) a Dudley Moore. Gan eu bod yn treulio cymaint o amser ar y set yn ffilmio, mae'n annatod bod y criw yn dod yn ffrindiau da. Mae Meryl Streep yn "ffantastig" yn ôl Rhys, ac yn fonheddig iawn, ond yr actor mae 'n cysylltu gyda fwyaf pan mae'n mynd i America yw Tim Robbins (enillodd wobr Oscar yn ddiweddar), oedd yn y ffilm Human Nature gydag ef.

Er gwaetha'r holl gysylltiadau 'Hollywoodaidd' fe allwn fod yn sicr nad yw Rhys wedi anghofio am ei wreiddiau ac yn sicr nad yw wedi cael ei effeithio gan yr obsesiwn a celebs sydd wedi cael dylanwad cryf arnom yng ngwledydd Prydain. "Anaml ydw i'n mynd allan i ddweud y gwir" meddai Rhys. "Mi fues i ym mharti pen-blwydd Kate Moss, do, gan mai parti fy ffrind i oedd e', ond fel arall, dwi ddim fel arfer yn mynd i barti os nad ydyn nhw'n rhoi diodydd am ddim!"

Ar y nodyn hwnnw, dymunwn iechyd da i Rhys Ifans, a phob dymuniad da iddo yn ei ffilm newydd.

Heledd ap Gwynfor
Prosiect Papurau Bro



0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý