Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Garthen
Owain LlÅ·r Owain LlÅ·r - La Casa di Dio
Mawrth 2009
Owain LlÅ·r sy'n ateb cwestiynau Heledd ap Gwynfor am ei fywyd, ei waith a'r ffilm ddogfen La Casa di Dio.

Mae'n siwr eich bod yn gyfarwydd â'r ffilm ddogfen La Casa di Dio, sydd wedi ei chynhyrchu gan Bwcibo.cyf, cwmni wedi'i sefydlu yn Llandysul a Chaerdydd gan un o fechgyn Drefach Felindre, Owain Llyr

Mae'r ffilm La Casa di Dio wedi derbyn gwerthfawrogiad a diddordeb heintus yn ei harddangosiadau yn Theatr y Mwldan, Aberteifi ac yn Aberystwyth, mor boblogaidd fel y bydd yn cael ei dangos eto yn Aberteifi heb fod yn hir.

Mae hanes yr eglwys Eidalaidd ar gyn-wersyll POW yn Henllan ger Castell Newydd Emlyn yn gyfarwydd i ni drigolion dyffryn Teifi, hanes yn sôn am yr Eidalwyr wedi ildio yng Ngogledd Affrica yn ystod yr Ail Rhyfel Byd, a 1,500 o garcharorion rhyfel yn cael eu symud i POW Camp 70, yn Henllan.

Mae'r ffilm ddogfen La Casa di Dio yn adrodd hanes yr Eidalwyr yn y gwersyll, yn ogystal â'r crair unigryw a adeiladwyd to fewn i'r gwersyll gan y carharorion rhyfel.

Yn bell o adref, penderfynodd y carcharorion symud allan o un o'r cabanau cysgu, ac adeiladu Eglwys ynddi.

Defnyddiwyd cynhwysion amgen, megis moron, tobaco, a hen duniau bully beef, ac hefyd sment benthyg, i greu eglwys sy'n cynnwys cryndô a ffresco o'r Swper Olaf.

Y mae'r ffilm 52 munud o hyd, yn cyfweld ag ymhlith eraill, Mario Ferlito, yr artist a baentiodd y ffresco yn yr eglwys, yn ei gartref yn Ornavasso, yn 2005, a chyda Bob Thomson fu'n gofalu am yr eglwys ers 1960, pan brynodd y gwersyll gyda'r bwriad o adeiladau ffatri blancedi trydan. Dyma a ddywedodd Owain Llyr pan y'i holais amdano'r ffilm:

Heledd: Shwt wyt ti wedi bod yn ymwybodol o'r hanes sydd ynghlwm â Henllan?

Owain: Pan oe'n i'n dair mlwydd oed, symudodd Mam a Dad a mrawd a fi i Drefach Felindre. Henllan oedd un o'r llefydd lle fues i'n chware pan oe'n i'n grwt. Baswn i'n treulio oriau yng Nghwm Dwygaer, wrth ochr y Teifi, dan Pont Henllan. Fi dal yn mynd nôl na yn aml, yn tynnu lluniau, neu'n crwydro. Ma na rhywbeth am awyrgylch y lle sy'n fy nhynnu i nôl.

Troedio run tir a'r Rhufeiniaid ddaeth o Sbaen, a'r Eidalwyr a ddaeth o Affrica - ma na rhywbeth ysbrydol am neud na ar lwybr bach wrth ochr y Teifi.

Pan es i i Ysgol Dyffryn Teifi yn 1985, roedd rhaid i ni neud prosiect ar ryw agwedd o hanes lleol. Nath Mam awgrymu mod i'n mynd i siarad 'da Bob Thomson am y gwersyll carharorion yn Henllan, ac es i lawr i'w gyfarfod e. Ges i'r hanes ganddo fe pry'ny, a ma' 'di bod yn fy mhen i ers 'ny. Ma' nheulu i gyd bron, ar ochr Mam, yn byw yng Ngheredigion, a ma' hanes lleol Ceredigion wastad wedi bod yn ddiddorol i fi, a straeon am yr ardal yn rhan ohona i. Ma'n siwr fod Mam a Mamgu a Dadcu yn lot i neud 'da 'na, ond fy nhad hefyd, oedd wedi setlo yn yr ardal 'da Mam. Ceredigion yw'r lle le dwi'n teimlo fel mod i adre, yn ogystal a Madrid a La Rochelle am rhyw reswm.

Ar ran y ffilm ei hun, mae'n deillio o fy nghyfeillgarwch gyda Bob Thomson yn fwy na dim. Roedd hi'n brofiad eithaf poenus i olygu'r cyfweliad gyda Bob am resymau sy'n amlwg yn y ffilm efallai. Bob oedd un o'r ffrindiau oeddwn i 'di cadw mewn cyswllt gyda fe, ac roedd e'n annwyl iawn i fi ar ô1 i nhad farw ar ddiwedd 2006.

Heledd: Oeddet ti neu dy deulu yn gyfarwydd / adnabod rhai o'r bobol ynghlwm a'r maes POW?

Owain: Ma pawb yn 'nabod pawb yn yr ardal 'ma, neu fel 'na oedd hi pan oe'n i'n tyfu Ian. Fy nhad gafodd afael ar y Vasamis i fi, a Mam gafodd afael ar fanylion cyswllt y Sarracinis. Roeddwn i'n chware pêl-droed i dim Llandysul, ac roedd Toni Vasami, wyr i Toni Vasami, cyn -garcharor, yn chware 'na fyd. Wrth gwrs yn yr ysgol roedd 'na lot o enwau Eidaleg - y Savanellis a'r Vasamis - wrth i fi fynd yn ô1 i ymchwilio'r prosiect ddogfen 'ma, roeddwn i'n ffeindio mod i'n mynd yn ô1 i 'fyd at lot o'r atgofion a'r llefydd fuodd yn ddylanwad arna'i tra mod i'n grwt.

Heledd: Pryd fuest ti yno gyntaf? Pa deimladau gest ti?

Owain: Pan es i weld Bob yn 1985, roeddwn i'n unarddeg mlwydd oed. Gofynodd os oeddwn wedi gweld yr eglwys, a wedais i mod i wedi, ond doen i ddim wedi. Roeddwn i 'di gweld yr 'eglwys sinc wrth ochr yr heol yn Henllan, a 'di meddwl mai honno oedd hi.

Doeddwn i heb fod nôl na lot ers 'ny tan tua 2001 neu 2002, pan nes i 'sgrifenu erthygl ar y gwersyll i gylchgrawn 'onewales.' Roeddwn i'n barod wedi dechrau meddwl am brosiect ddogfen, ac wedi gweithio mas mod i heb weld yr eglwys iawn nôl yn 1985.

Dyna pryd welais i'r eglwys yn iawn am y tro cyntaf, a tynnu lluniau, a jyst synnu, yn fwy na dim, ar beth oedd hanes ac arwyddocad yr adeilad. Fel mae Bob yn dweud yn y ffilm `I'm not a religious man,' and ma'r eglwys i fi yn un o'r llefydd mwyaf sanctaidd dwi di bod ynddi.

Heledd: Pam gwneud y ffilm? Beth yw ei phwysigrwydd yn gymdeithas sydd ohoni erbyn heddi?

Owain: Ma' 'na lot gormod o atebion i'r cwestiwn 'na, and yr ateb syml yw am fy mod yn weddol siwr bod neb yn mynd i adrodd y stori'n iawn, a bod amser yn rhedeg mas i neud 'ny.

Hefyd, ymhlith yr atebion eraill posib: am fod Bob yn hapus i fi wneud; am fod pawb wnaeth gymryd rhan wedi helpu fi, ac wedi diolch i fi am recordio'r stori; am fy mod i wedi gweld yr eglwys ac wedi fy lledrithio; yn syml, achos doedd dim dewis 'da fi and gwneud y ffilm ar liwt fy hun, er mwyn gallu dweud y stori yn iawn.

Ma fe Ian i bobol eraill i benderfynu os ydy hi'n bwysig, and dwi'n meddwl ei bod hi yn ffilm bwysig, os mai ond ei bod hi wedi rhoi cyfle i'r cyfranwyr i ddweud eu stori, ac i gadw'r stori yna ar ffurf lle fydd pobol yn gallu clywed a gweld y stori am flynyddoedd i ddod. Hefyd rwy'n wir gobeithio fydd rhywbeth yn cael ei wneud i sicrhau dyfodol yr eglwys os ydy hynny'n bosib. Mae'r teulu Thomson, Bob yn enwedig, wedi gwneud cymwynas i ni gyd trwy gynnal yr eglwys, and os yw hi'n bosib codi £50 miliwn i brynu Titian i Brydain, pan nag yw hi'n bosib i rhywun godi'r arian i brynu darn o'r safle, am bris da I'r teulu, a sicrhau bod yr eglwys yn goroesi?

Heledd: Pwy wyt ti'n gobeithio fyddai'n ei gweld?

Owain: Unrhyw un sydd a diddordeb mewn ffilm neu yn y stori yma. Rwy'n gobeithio bydd y ffilm yn rhan o ddatblygiad diwylliant ffilm annibynnol Cymreig, sy'n gallu bodoli tu allan i systemau y rhywdweithiau teledu. Ma 'na bethau da a difyr ar deledu, and dyw diwylliant ffilm iach ddim yn dibynu ar deledu i'w gynnal. Mae'r ddau gyfrwng yn hollol wahanaol. Dwi'n meddwl bod y newidiadau gyda `narrowcasting', lawrlwytho, a hefyd y costau llai mewn cynhyrchu cynnal pethau fel DVDs yn mynd i fod yn beth da yn y pen draw i'n diwylliant clyweledol ni. Un peth oedd yn fy meddwl i oedd gweld pa mor bell oedd pethau wedi datblygu ers i fi fod yn coleg, ac i ba radd mae'n bosib cynhyrchu ffilmiau difyr mewn ffordd newydd.

Heledd: Ydy hi'n ffilm ar gyfer yr ardal yn arbennig, neu gall yr hanes fod wedi ei leoli unrhywle yn y byd?

Owain: Ma unrhyw ffilm da yn teimlo fel mai dyna'r unig le lle gallai'r 'pethau ma' wedi digwydd, ond hefyd yn gallu cyfathrebu hyn i bobl ar ben draw'r byd. Dyna oedd y bwriad gyda'r ffilm yma, i'w leoli yng Ngheredigion, i greu darn sy'n gallu effeithio ar wylwyr yng Nghanada neu Korea, yn yr Eidal, Iwerddon ac America. A Chaerdydd. Ond yn sicr roedd pobol yr ardal ar fy meddwl tra mod i'n gweithio ar y ffilm, nid lleiaf am fod cymaint o bobol o'r ardal wedi fy helpu neu f annog i ar hyd y ffordd. Ar lefel bersonol, rwy'n gweld y ffilm fel teyrnged i Geredigion a'i phobol, ac fel stori hollol unigryw. Mae'n golygu lot i fi, yn amlwg.

Heledd:Pa mor aml y dei adref i Drefach Felindre / ardal Llandysul?

Owain:Ma'n dibynnu, ond tra'n gweithio ar y ffilm dros y bum mlynedd diwethaf, fi 'di bod nôl yn gyson, a ma'r cwmni wedi ei leoli rhwng Llandysul a Chaerdydd. Ers i Mam (Iona Jones) ymddeol llynedd, ma hi 'di bod yn helpu mas lot, so ni'n cael cyfarfod bwrdd yn eitha aml, yn Llandysul, neu Caerdydd, neu ambell waith dros Burger King yn Swansea West. Fi 'di symud nôl i'r ardal cwpwl o weithie, yn 2004, a 2006, ond mae'n anodd ar ran gwaith llawrydd i fod yna llawn amser. Mae'r gwaith yna'n tueddu i cael ei leoli o gwmpas Caerdydd neu Caernarfon. I ddweud y gwir, fi 'di bod yn byw bach fel hobo ers symud i Gaerdydd ar ôl coleg yn 2000, am fy mod i'n teithio cymaint gyda gwaith.

Fel amcan, rhywbeth fel dwywaith y mis am cwpwl o ddyddie ar gyfataledd, and pan dwi'n cael cyfle fi'n lico diflanu nôl i'r Gorllewin. Fel wedodd Led Zeppelin; `there's a feeling I get when I look to the West...'

Heledd: Felly, ai Caerdydd wyt ti'n ei gymryd fel dy `gartref erbyn hyn?

Owain: Mae fy nhŷ yng Nghaerdydd yn gartref o rhyw fath, er dwi'n disgrifio'r lle fel `at the chic end of the crac, den market,' gan fy mod ynghanol gwneud y ty Ian, ar of prynu'r lie gan hen ddynes hyfryd o Gaerdydd o'r enw Alma. Rwy'n coginio gyda Baby Belling bach, ac wedi dechrau teimlo'n gartrefol ar ôl naw mlynedd yn trial dianc o'r ddinas.

Ma'n agwedd i at Gaerdydd yn meddalu dros y blynyddoedd - ar ô1 byw yng Nghaeredin am bum mlynedd yn coleg doeddwn i ddim wir am adael y lle, and ges i gynnig gwaith yma yn syth wedi coleg da cwmni Fflic.

Roedd Caerdydd ar y pryd jyst yn ymddangos bach yn ddi-enaid a diflas, ar ôl byw yn Leith am bum mlynedd. I fod yn deg i'r lle, fi'n meddwl bod y pum mlynedd wedi coleg yn `reality check' i lot o bobol, ac roedd hi'n gyfnod anodd am resymau eraill hefyd.

Fi 'di trial gadael y lle ma cwpwl o weithiau, ac wedi byw yn y Gorllewin, yn Llandysul a Talybont, neu yng Nghaernarfon yn y Gogledd, and am rhyw reswm dwi'n dod nôl i Gaerdydd, fel arfer oherwydd gwaith, ac am fod cynifer o fy ffrindiau yma.

Dim and un cartref cyson sy 'di bod 'da fi trwy mywyd, sef ffarm Mamgu yng Nghapel Dewi. Ma hwnna'n un o'r llefydd dwi'n hiraethu amdano, a ddim yn gweld digon ohono. Hefyd traeth Mwnt, y Bont Goch ym Mhentrecagal, bwyty La Calabria, prom Aberystwyth, traeth Cei Bach, fy ffrind Dai Tarannau yn Aberteifi a gwesty'r Cliff yn Gwbert.

Ma tÅ· Mam yn gartref 'fyd, er wnes i byth dyfu lan 'na, a ma' fy nghartrefi i o blentyndod yn Nrefach a Velindre a Tonyrefail. Fi yw'r Littlest Hobo Cymru.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý