"Camera'n barod... Camera'n rholio... ac... Acsiwn!
Pan oedd disgyblion o'r Ysgol Gynradd wledig ym Mhontsian wrthi'n cynllunio, recordio, golygu ac actio yn eu ffilm eu hunain, prin wnaethant ddychmygu y byddai'r ffilm honno'n cael ei dewis ar gyfer 'gwobr arbennig' yn y seremoni wobrwyo genedlaethol i ffilmiau ac animeiddiadau ysgolion.
Caiff y seremoni wobrwyo ei chynnal yn y British Film Institute (BFI), South Bank, Llundain, ar 25 o Dachwedd ac fe'i cyflwynir gan Floella Benjamin (actores a darlledwraig o fri oedd yn rhan o banel y beirniaid).
Yn 61 yin Mawrth 2008, cafodd y disgyblion gyfle i ddysgu'r sgil o greu a golygu ffilmiau gan Tim Davies, Athro Ymgynghorol ar gyfer TGCh yn Awdurdod Addysg Leol Ceredigion.
Cyn bo' hir, gyda'u brwdfrydedd a'u creadigrwydd, llwyddodd y meddyliau ifainc hyn i greu eu ffilm eu hunain.
Seiliwyd y ffilm, `Y Sgweier Slei', ar stori wir a ddigwyddodd o fewn ac o gwmpas Plas Alltyrodyn a leolwyd tua 2 filltir o'r Ysgol.
Cyfrannodd pob disgybl i'r gwaith golygu gofalus o greu ffilm ddu a gwyn fud, gydag is-deitlau Cymraeg.
Nododd Tim: "Mae'r prosiectau creu ffilmiau a gynigiwn i'r ysgolion yn brofiad dysgu cyfoethog i'r disgyblion sy'n dysgu ac yn datblygu nifer o sgiliau megis meddwl, cyfathrebu, Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebiad, rhifo, y Cwricwlwm Cymreig ac Addysg Bersonol a Chymdeithasol'.
Creodd y ffilm ddiddordeb enfawr pan gafodd ei chyflwyno i wyl ffilmiau Ceredigion yng Ngorffennaf 2008. Cafodd y disgybl blwyddyn 6 Richard Jones a chwaraeodd ran y Sgweier Slei ei gyfweld yn fyw ar
Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru a gwnaeth Mr Gary Slaymaker, y cyflwynydd teledu a'r beirniad ffilm, nodi'n glir mai dyma oedd ei ffefryn o blith holl ffilmiau'r wyl.
Roedd Mrs Delyth Davies, y Pennaeth, wedi'i syfrdanu gan y canlyniad a dywedodd "Mae hyn yn gyflawniad ardderchog i bawb sy'n ymwneud a'r Ysgol a Sir Ceredigion. Roedd y gymuned leol wedi cyfrannu at greu'r fflm ac mae pawb yn falch iawn o lwyddiant yr Ysgol. Mae'r disgyblion yn llawn cynnwrf ynglyn ag ymweld a'r BFI i dderbyn eu gwobr
arbennig."