Roedd y ras yma yn cael ei rhedeg dros ffiniau Llambed a'r cylch, allan am y dref yn gyntaf cyn mynd am Lanfair, Cellan a nôl am y dref a gorffen yn y cae rygbi yn Llambed. Roedd hefyd yn bencampwriaeth Cymru o dan 20 oed ac roedd fy mrawd Huw yn cystadlu. 'Roedd pawb yn gyffrous iawn pan ddaeth mewn yn ail dros Gymru. Roedd mor hapus â'r gog a ni i gyd mor falch â phaun. "Roedd ei amser am y deg milltir yn 68 munud a 36 eiliad, felly ychydig dros awr, anodd da fi gredu!
Mae'n rhedeg llawer o filltiroedd bob dydd, o amgylch Pencader, Llanllwni, Gwyddgrug, New Inn a'r cylch ac yn mwynhau'n fawr iawn.
Erbyn hyn mae'n aelod o glwb Sarn Helen ac yn rhedeg yn aml yng Nghymru a Lloegr. Bu yn aelod o glwb Harriers Caerfyrddin pan yn rhedeg rasus trac. Daeth yn 3ydd dros Gymru yn ras triathlon pan yn 14 oed.
Derbyniwyd ef i redeg Ras yr Wyddfa eleni ym mis Gorffennaf lle bydd yn rhedeg pum milltir lan yr Wyddfa a phum milltir lawr. Edrychwn ymlaen i fynd yno i'w weld.
|