Cafodd y maes chwarae a gat newydd ei ddadorchuddio'n swyddogol i'r disgyblion a'r gymuned leol.
Yn ymuno â'r disgyblion yr oedd cyfeillion yr ysgol a fu'n chwarae rhan bwysig yn datblygu maes chwarae'r ysgol yn arbennig ar gyfer plant Penboyr. Roedd y dathliadau i agor y maes chwarae yn swyddogol yn cofnodi cwblhau prosiect £4,000 fel rhan o raglen £3 miliwn Supergrounds.
Cafodd Supergrounds ei lansio ym mis Medi 2005 fel rhaglen i wella tir ysgolion dan nawdd Natwest dan reolaeth Learning through Landscapes mewn partneriaeth â Groundwork UK i wneud gwahaniaeth parhaol i amgylcheddau dysgu plant.
Llyfrgell Genedlaethol
Poppy Wilson, Islwyn, Felindre oedd 100fed ymwelydd ifanc y Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth pan gafodd Ysgol Penboyr wahoddiad yno ym mis Ebrill i ddathlu ei canfed blwyddyn. Yna cafodd wahoddiad i'r Cynulliad yng Nghaerdydd i dderbyn allwedd i gofio'r achlysur. Yn y llun mae Poppy yn derbyn yr allwedd oddi wrth llywydd y Llyfrgell, Dr Brinley Jones CBE.
Roedd ei llun ar faner y Llyfrgell ar eu stondin yn Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerfyrddin.
|