"Hanner can mlynedd yn ô1, yn mis Ionawr 1959, fe ddychwelais adref i weithio mewn swydd y gellir ei alw'n 'waith go iawn' ar ô1 cyfnod mewn amgylchfyd diogel a chysurus.
Ni freuddwydiais y pryd hynny y buaswn wrthi o hyd, ond mewn fformat hollol wahanol ac yn yr un filltir sgwar.
Ar y dechrau, fe'm hyfforddwyd fel prentis peiriannydd am y swm anhygoel o £1.12.6 yr wythnos, gyda 2/6 yn cael ei dynnu'n ô1 i dalu am 'Nubo Tool Box' a oedd yn cynnwys sbaneri etc am bris o £8! Y mae'r bocs yn fy meddiant o hyd, and erbyn hyn, wedi ymgartrefu ac ymddeol yn yr ardd ym Mrynhyfryd!
Pryd hynny, adeilad o bren yn croesi Afon Tweli oedd y 'garej' a gelwid hi'n `Old Depot Garage'.
Enw'r cwmni oedd DO Jones a'i Feibion a masnachwyd hefyd fel Contractwyr Halio a Marsiandawr Glo (dyna pam yr adnabiwyd fy nhad fel 'Dai Coal'
.
Yn 1959, symudwyd i adeilad newydd ar y safle presennol a enwyd yn `Valley Services' a oedd yn cynnwys Ystafell Arddangos Ceir, Gweithdai a Gorsaf Gwasanaeth Petrol, a'r cwbl, i bob golwg, yn debyg iawn heddiw i'r hyn yr oedd 50 mlynedd yn ô1.
Pa newidiadau sydd wedi digwydd yn y 50 mlynedd? Datblygiad raddol sydd wedi cymryd lle yn hytrach nag unrhyw ddigwyddiad dramatig. Ond, wrth gwrs, y mae'n bosib bydd y sefyllfa erchyll sy'n deillio o'r problemau gyda'r banciau yn newid fy safbwynt.
Yn draddodiadol, canghennau'r banciau mewn pentref a thref oedd yn holl bwysig, a'r rheolwr gyda'i wybodaeth trylwyr am yr ardal a'i thrigolion yn uchel ei barch.
Yn anffodus, y mae'r sefyllfa'n hollol wahanol heddiw, gyda galwadau am 'Cashflow Forecasts' ac Adroddiadau Rheoli misol, a'r cwbl yn cael ei drafod gan ddieithryn ar linell teleffon ymhell i ffwrdd.
Un digwyddiad dramatig oedd y cyfnod yn dilyn rhyfel `Yom Kippur' yn y Dwyrain Canol pan oedd olew yn brin iawn. Rhyfedd meddwl bod Jaguars yn cael eu newid am Minis ac argraffwyd cwpons ar gyfer cyflenwi petrol i ni i'w dosbarthu.
Yn ffodus, nid oedd angen eu defnyddio gan i'r argyfwng ymdawelu'n fuan. Yn sicr y mae newidiadau wedi cymryd lle yn yr Orsaf Gwasanaeth Petrol.
50 mlynedd yn ô1, roedd yna berson ar y Cwrt blaen yn croesawu pob cwsmer ac yn gofyn i bawb 'Sawl galwyn, Syr?' a 'Ydych am i fi edrych ar lefel yr olew?' Nawr wrth gwrs, mae'r cwsmeriaid yn helpu eu hunain gydag un yn unig with y console ac y mae yma siop cyfleustra lle'r oedd ciosg i gadw'r drar arian rhywfaint o loches i gadw allan tywydd garw.
Mae'n ddiddorol nodi mod i'n bersonol yn medru dwyn i gôf bod o leiaf 26 o lefydd yn gwerthu petrol o fewn 2 filltir i Landysul. Fy nghyfrifoldeb i o'r cychwyn yn gwerthu ceir newydd a'r rhai sydd eisioes wedi'u defnyddio.
Y mae'r system o werthu wedi newid yn sylfaenol hefyd. Eisioes, yr oedd nifer o fasnachwyr bach gwledig yn gwerthu, and yn awr y mae un Prif Fasnachwr Uniongyrchol sy'n derbyn cyflenwad yn syth oddi wrth y Gwneuthurwr.
Faint ohonoch sy'n cofio Garej Lowndes, Caerfyrddin fel un o'r prif ddosbarthwyr gyda 19 o fasnachwyr bach ac Evans Motors a 34?
Fel mae ceir wedi gwella, y mae perthynas rhyngom a'r Gwneuthurwr yn un agos ac, er enghraifft, y mae'n rhaid trafod gyda nhw maint, decor a chynllun lliw yr ystafell arddangos. Y mae hyn yn golygu bod hi'n hanfodol i fasnachwyr cyflewni ceir i ardal eang er mwyn helpu i dalu costau uchel sy'n anochel yn y dyddiau yma.
Wrth derfynu'r atgoflon byr yma am y 50 mlynedd diwethaf, gallaf ddweud o waelod calon ei bod hi wedi bod yn bleser o'r mwyaf i gael y fraint o wneud y gwaith hyn, ac yn bennaf oherwydd yr hynawsedd a'r teyrngarwch a ddangoswyd i'r cwmni ac, yn enwedig, i mi'n bersonol."
Erthygl gan Byron Jones, Cyfarwyddwr Valley Services