Tom ac Anona Defis a'r teulu sydd yn rhoi'r gadair eleni er cof am eu merch, Caryl Mai, a fyddai yn 24 oed adeg yr Eisteddfod.
Meddai'r Parchg Tom Talog Defis wrth sôn am brofiadau'r paratoi at yr Eisteddfod, "Maddeuwch un nodyn personol. Er y teimladau cymysg, yr oedd gweld cadair yr Eisteddfod yn tyfu o'r astell dderw yn rhoi gwefr arbennig i ni fel teulu. Caiff y bardd eistedd ar foncyff y dderwen gyda'r mes yn cynnal y breichiau.
"Mae 'Gari Sir Gâr' wrth law gyda'r llythrennu cynnil ar batrwm ysgrifau'r brenin Hywel Dda."
Dymuniadau gorau i holl blant ac ieuenctid y fro fydd yn cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2007 gan Gari Sir Gâr.
Croeso'r Cadeirydd: Neges gan Tom Defis
Mwy am Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2007
|