Braf iawn oedd gweld wynebau newydd ynghanol y wynebau cyfarwydd.
Treuliwyd y noson gyntaf yng nghartrefi'r teuluoedd unigol yn adnewyddu rhai perthnasoedd, a chychwyn ar gyfeillgarwch newydd sbon i eraill. Diolch yn fawr iawn i bawb am y gefnogaeth a'r lletygarwch hael, ac i'r trefnydd Wenna Bevan-Jones am ei gwaith trylwyr arferol. Bore dydd Gwener, bu'r Llydawyr yn ymweld â safle newydd Gwasg Gomer a'r Ffatri Wafflau. Cafwyd cyfle hefyd i gerdded yn hamddenol ar lan afon Teifi i weld gwaith ieuenctid Llandysul a Plogonoeg, yn ystod y gwersyll gwaith Haf 1999. Diolch i Gareth Bryant a'i ffrindiau am drefnu arddangosfa canŵio hynod o adloniadol.
Trefnwyd cinio i'r Llydawyr yng Nghanolfan Ieuenctid Tysul, a hefydd sgwrs gan Allan Shiers am Delynau Teifi, a chafwyd datganiadau swynol ar y delyn gan Julia Bettles. Yn y prynhawn, aethpwyd ymlaen i ymweld â'r Amgueddfa Wlân, Drefach Felindre lle y bu Non Mitchell yn ein tywys o amgylch yr Amgueddfa ac yn arddangos rhai o'r offer gwehyddu. Bu Keith hefyd yn dangos sut roedd yr olwyn yn gweithio, a chyfle, felly, i rai ohonom ni o'r ardal yn ogystal â'r Llydawyr i ddysgu rhywbeth newydd! Diolch yn fawr i'r ddau am sicrhau ymweliad diddorol ac addysgiadol. Yn y nos aeth teuluoedd o'r un pentref allan i gymdeithasu gyda'i gilydd mewn bwytai lleol.
Bore Sadwrn, bu i bawb ymgynnull yn y Porth, lle cafwyd sgwrs gan Gareth loan o Gwmni laith Cyf. Ar ôl lluniaeth yng Ngwesty'r Porth, aeth nifer o'r Llydawyr i wario eu Ewros yng Nghaerfyrddin, gyda Wendy fach a Heledd ap yn tour guides iddynt (druan a nhw!), tra aeth y gweddill ar daith gerdded gyda Mary ac Eileen.
Yna nos Sadwrn, i barhau gyda'r cyfeillachu, dechreuodd y noson gyda seremoni a groesawu'n swyddogol, pan siaradodd cadeiryddion y ddwy gymdeithas gefeillio - MoeIwen Gwyndaf a Jean-Luc Renevot. Cyflwynodd Jean-Luc rodd o logo y ddwy gymdeithas, wedi ei gerfio mewn pren ar siâp plât i gymdeithas gefeillio Llandysul a'r fro. Cafwyd cyfarchion gan Mr. Terry Griffiths, cadeirydd cyngor cymuned Llandysul, a gyflwynodd tarian fach mewn pren gyda enw'r cyngor arni, i Jean-Luc.
Cynhaliwyd bwffe yn y neuadd a oedd yn wledd i'r llygad a'r bola, ac roedd y bwydydd amrywiol yn ddigon i fwydo'r pum mil! Diolch i Anne a Georgia am drefnu'r bwyd, ac i John am drefnu'r bar. Roedd y byrddau yn hynod a atyniadol a diolch i Mary a drethodd y blodau amrywiol ar eu cyfer.
Diolch hefyd i 'Fedwen Tentage' am roi benthyg byrddau ac i 'Brecon Carreg' a Llanilyr am eu rhodd o ddŵr pate]. Ar ôl y gwledda, bu dawnsio brwd ac egniol i'r grŵp Jac y Do ac i'r pibau Llydewig - golygfa braf fel arfer, oedd gweld trigolion y ddau bentref yn cyd-ddawnsio'n fyrlymus!
Roedd pawb yn amlwg wrth eu boddau, ac yn ôl y traddodiad erbyn hyn, cafwyd noson hwyr arall!
Diolch i'r canlynol am gyfieithu yn ystod yr ymweliad - Katell, Moelwyn, Huw, Philip a Rhidian. Merci Bras! Fore Sul treuliwyd y dydd yng nghwmni'r teuluoedd, ac fel arfer ym maes parcio Llandysul, collwyd sawl deigryn wrth ffarwelio â'n cyfoedion Llydewig. Ond, ar yr un pryd, roedd y parabl iach yn cylchdroi o gwmpas brwdfrydedd ein hymweliad ni yn 2005! Diolch i bawb yn ddiwahân am sicrhau penwythnos dymunol a llwyddiannus tu hwnt, gyda diolch arbennig i Wenna am ei hell waith paratoi - doedd dim ishe'r hell ofid 'na yn y diwedd?!!
Ymlaen am y tro nesaf!
Os oes unrhyw un am ymaelodi â'r gymdeithas gefeillio cysylltwch â'r ysgrifenyddes Nest James nen â'r drysoryddes Eileen Curry ar 01559 362253.