Y Sul cyntaf yng Ngorffennaf dyna ddyddiad pwysig yng nghalendr aelodau Eglwysi Brynteg, Bethel Drefach, Capel Nonni, Gwyddgrug, Tabernacl Pencader a Throedyrhiw Alltwalis - diwrnod y pererindod blynyddol.
Eleni troi ein golygon tua sir Fynwy a chlywed hanes tri gŵr a ddechreuodd greu egwyddorion gwir Annibyniaeth yng Nghymru. Y cyntaf ar y rhestr oedd Walter Cradoc (1610 - 1659), Diwynydd a Phiwritan. Ganwyd ef yn Nhrefeca, Llangwm, Sir Fynwy. Cafoddd ei addysg yn Rhydychen a daeth yn gurad i William Erbury yn Eglwys Santes Fair, Caerdydd.
Oherwydd ei dueddiadau Piwritanaidd, tynnodd yr awdurdodau i'w ben ac yn 1634 ataliwyd ei drwydded i bregethu. Rhwng Tachwedd 5ed a Rhagfyr 6ed 1639 bu yn Llanfaches yn helpu i gychwyn yr Achos yno. Roedd yn bregethwr mawr a phregethau yw'r rhan helaethaf o'i waith.
Yr ail enw ar y rhaglen oedd Miles Harry (1700 - 1776). Ganwyd ef ym mhlwyf Bedwellty, Sir Fynwy. Bedyddiwyd ym 1724 a'i ordeinio ym 1732. Sefydlodd lawer o Eglwysi newydd a bu'n gymorth hefyd i sefydlu Academi'r Bedyddwyr yn Trosnant. Oblegid ei ymdrechion ef y cafodd Howell Harris ei ryddhau yn Sesiwn Mynwy wedi iddo gael ei gyhuddo o achosi terfysg yn Pontypwl, Awst 1739. Gyda'i frawd John a John Phillips, ymdrechodd i baratoi argraffiadau Cymraeg o lyfrau Saesneg.
Wedi canu emyn cawsom ein hatgoffa, mewn darlleniadau, am aberth y gŵr o Gefnbrith, sef John Penri, a'i ddylanwad ar hanes dechreuad enwad yr Annibynnwyr ac Ymneulltuaeth yng Nghymru.
I orffen yr oedfa cofiwyd am Edmund Jones (1702 - 1793), Pregethwr Annibynnol a anwyd yn Aberystwyth, Mynwy. Dechreuodd bregethu ym 1722, a'i ordeinio ym 1734. Ym 1740 aeth i Bontypŵl, lle bu'n gyfrifol am adeiladu Tŷ Cwrdd, gan barhau hefyd i edrych ar ôl y gynulleidfa yn Ebwy Fawr. Gwerthodd ei lyfrau i gyd am £15 er mwyn talu am orffen yr adeilad. Rhoddai ei got uchaf a'i grys yn aml i'r tlodion. Sefydlodd lawer o Eglwysi ac ym 1782 bu'n teithio yn eang yng ngogledd Cymru a phregethu ddwy waith y dydd pan oedd erbyn hynny yn 80 oed.
Wedi cinio picnic yn Neuadd y Pentref, nôl i'r bws a theithio tua Chaerdydd a Chapel Minny Street. Yno cawsom groeso'r gweinidog y Parchedig Owain Llŷr a dau gyn aelod o Eglwys Tabernacl Pencader sef Hefin Jones, cyn lywydd yr Undeb a'i chwaer Bethan, hithau hefyd yn aelod gweithgar iawn yng Nghapel Minny Street erbyn hyn. Braf oedd cael y cyfle i gymdeithasu dros gwpanaid o de yn y festri ar ddiwedd yr oedfa. Diolch yn fawr iddynt am eu croeso cynnes.
Yma eto yr un oedd y drefn ag yn Llangwm, sef bod aelodau Eglwysi'r Ofalaeth yn cyhoeddi'r emynau ac yn darllen rhannau o'r ysgrythur ac hanesion am ddechreuad yr enwad ac ymneulltiaeth yng Nghymru, gyda'n gweinidog y Parch Ddr Rheinallt Davies yn rhoi hanes y gŵyr a fu'n aberthu i lledaenu egwyddorion rhyddid ysbrydol yn ein gwlad.
Cafwyd hanes William Wroth (1576 - 1641), cynllunydd yr Eglwys Annibynnol gyntaf yng Nghymru. Ganwyd ef yn Llangadog - ger Wysg. Graddiodd gydag MA o goleg Iesu Rhydychen ym 1605. Rhoddodd i fyny'r gwaith o Reithor Llanfaches ym 1638. Disgrifia ei hunan wedyn fel "Preacher of God's Word".
Piwritan ac Annibynwr a anwyd yn y Rhath Caerdydd, yn fab i fasnachwr oedd yr ail wron i'w ddwyn i'n sylw yn oedfa'r prynhawn, sef William Erbury (1604 - 1654). Ym 1623 enillodd ei radd BA o Goleg Brasenose Rhydychen ac ym 1626 cafodd ei MA yng Ngholeg Queens Caergrawnt. Ar ôl bod yn gurad yng Nghasnewydd, apwyntiwyd ef yn Ficer Eglwysi'r Santes Fair a Sant loan yng Nghaerdydd.
Ym 1634, daeth ef a Walter Cradoc i wrthdrawiad ag Esgob Llandaf am eu gweithgawrch Piwritanaidd. Ymddangosodd y ddau gerbron Llys yr Uchel Gomisiwn. Ildiodd Wroth i'r Esgob ond ymddiswyddodd Erbury. Roedd cysylltiad rhyngddo â'r Piwritaniaid Cymreig a chyfrifiai Morgan Llwyd yn athro arno. Bu farw yn Llundain yn Ebrill 1654, ac ni wyddys fan ei gladdu. Trodd ei ferch Dorcas at y Crynwyr.
Crynodeb byr o'r hanesion a glywyd yn y ddwy oedfa a geir yma, ac ni ellir cyfleu'r naws a'r awyrgylch addolgar a grewyd ynddynt gyda'r canu a'r darlleniadau. Diolchodd Eifion Davies, Cadeirydd yr Ofalaeth i'n gweinidog am baratoi yr oedfaon, gwneud y gwaith ymchwil a chyflwyno'r wybodaeth i'r gynulleidfa ar y dydd.
Cyflwynodd ein gwerthfawrogiad hefyd i bawb a fu'n cymryd rhan yn yr oedfaon, gan gynnwys y ddwy eitem gerddorol gan rai o aelodau Brynteg - i'r ddwy organyddes Deci Evans a Nancy Jones, ac i Haulwen Lewis am wneud y trefniadau ar gyfer y daith, teipio ac argraffu'r rhaglenni, a gwneud yn siwr bod swper blasus ar gyfer y teithwyr ar y ffordd nôl. Eiliwyd gan Pauline Jones. Diwrnod cofiadwy a erys yn hir yn y côf.