Ysgrifennwyd y sioe gerdd yn arbennig ar gyfer y Dreigiau gan Meinir Thomas a Carol Thomas-Harries eu harweinwyr. Cafwyd perfformiad disglair llawn lliw, chân a chyffro gan yr aelodau ifanc rhwng 4-15 oed, ac yn wir, fe ddaeth â'r gynulleidfa ar eu traed unwaith yn rhagor mewn gwerthfawrogiad.
Hon yw'r bedwaredd sioe i'r Dreigiau ei pherfformio ers i'r clwb gael ei sefydlu llai na 2 flynedd yn ôl a braf yw gweld y clwb yn mynd o nerth i nerth. Mae'r clwb wedi dechrau ymarfer ar gyfer ei pherfformiad nesaf sef pantomeim "Eira Wen a chriw Cwm Hudol". Croeso i blant i ddod i ymuno yn yr hwyl ar bob bore Sadwrn, rhwng 10-12 yn Neuadd y Ddraig Goch, Drefach Felindre.
|