Unwaith eto daeth clôd i Gymru ac i ardal Castell Newydd Emlyn wrth i gorau'r Ysgol Gerdd, o dan arweinyddiaeth Islwyn Evans gipio'r gwobrau yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen. Cafodd y Côr Iau a'r Côr Hŷn yr ail wobr mewn dwy gystadleuaeth o safon uchel eithriadol gyda'r marciau'n agos. Gwobr gyntaf i gôr Cywair - gyda'r hufen ar y gacen yn hwyr ar y Nos Sadwrn olaf o'r wŷl drwy iddynt ennill Tlws Pavarotti - Côr Y Byd. Roedd pawb yn yr ardal ar flaen eu seddau yn disgwyl am y canlyniad, a phleser yw cael llongyfarch Islwyn Evans a'r ieuenctid sy'n aelodau o'r tri chôr ar eu llwyddiant, nid unig adeg y cystadleuthau ond drwy gydol y flwyddyn. Rydym yn ymfalchïo yn eich llwyddiant, a gyda phob dymuniad da eto i'r dyfodol.
|