"Felly, am fod Duw wedi bod mor drugarog wrthoch chi, frodyr a chwiorydd, dw i'n apelio ar i chi roi eich hunain yn llwyr i Dduw. Cyflwyno eich cyrff iddo fel aberthau byw - rhai sy'n tan ac yn dderbyniol ganddo. Dyna beth ydy addoliad go iawn! 2 0 hyn ymlaen rhaid i chi stopio ymddwyn yr un fath a phobl sydd ddim yn credu. Gadewch i Dduw newid eich bywyd chi'n llwyr drwy chwyldroi eich ffordd o feddwl am bethau. Byddwch yn gwybod wedyn beth mae Duw eisiau, ac yn gweld fod hynny'n dda ac yn ei blesio fe, ac mai dyna'r peth iawn i'w wneud.' (Rhufeiniaid 12:1-2)
Rwy'n ferch un ar hugain mlwydd oed sydd newydd raddio mewn Gwleidyddiaeth a Chymraeg o Brifysgol Aberystwyth ac yn hannu o Lanfihangel-ar-arth; and ar yr eiliad hon rwy'n ysgrifennu am fy mywyd tra'n eistedd mewn gardd yn Amsterdam gyda dyn di-gartref o'r enw Rob yn gwmni i mi. Mae e i'w weld yn aml yn llafnrolio strydoedd y ddinas tra'n chware ei gitar a'i harmonica a'n gwthio'i fywyd o amgylch mewn whilber. Rwy'n ystyried y cwestiwn, beth sy' di arwain fi i'r sefyllfa hollol ddieithr yma? Beth sy' 'di dod a fi i'r ddinas yma i fyw am ddeg mis?
Des i'n Gristion cwpwl o flynyddoedd yn ôl, ac fel ma geirie Duw yn esbonio uchod, pan chi'n dod i adnabod Duw ma'ch holl fywyd yn newid. Nath 'y ngolwg i a'm mhersbectif i ar beth ddylen i neud 'da mywyd i, a beth oeddwn i'n byw iddo, newid yn llwyr.
O'n i wastad 'di credu bod 'na Dduw, a bo 'na ddyn o'r enw lesu wedi bodoli, and rhyw bethe yn y cymyle oedden nhw i fi, do'n nhw ddim yn berthnasol i mywyd i o gwbl. Ond pan o'n i yn y Brifysgol des i adnabod rhai Cristnogion ifanc. Trwy weld pobl oedd wedi rhoi eu bywyde i Grist ges i ddarlun hollol wahanol o beth oedd e i fod yn Gristion.
O'n i wastad wedi meddwl bod Cristnogeth dim and yn perthyn i awr ar y dydd sul a bod e oll jyst yn draddodiad Cymreig; bod bod yn Gymro ac yn Gristion yn gyfystyr, a bod e and yn rhestr o ddefode i dicio bant i gyrradd y statws parchus. Ond weles i rhywbeth hollol wahanol ym mywyde'r Cristnogion yn Aber, gwir ffydd, bywyde cyfan wedi eu hildio i'r lesu Grist yma o'n i 'di clywed amdano trw' mywyd.
Yn fy all flwyddyn yn y brifysgol des i wyneb yn wyneb a'r dyn hwn. Des i at bwynt ble odd rhaid i fi gyffesu rodd e naill al yn wallgofddyn neu rodd e'n Dduw. Wedi deall am y tro cynta 'i fod e wedi marw ar groes drosta i, o'n i'n gwbod mai and Duw alle fod wedi dangos y fath gariad at rywun fel fi, oedd wedi ei wadu trw' mywyd.
Felly nes i dderbyn e mewn i mywyd, nid yn unig ei fod e'n berthnasol i mywyd i, and fe yw holl sail a chymhelliad dros bob penderfyniad rwy'n cymryd. Rwy'n credu fod pawb yn byw er mwyn rhywbeth, boed e i fod yn boblogaidd, neu er mwyn eu haddysg, i fod yn ddoeth, er mwyn cael teulu a bywyd tawel a thy glan, i fod yn enwog, ca'l eu hadnabod gan bobl, ca'1 rhyw fath o hunaniaeth i'w hunan.
Ond ers dod yn Gristion rwy'n byw er mwyn clodfori lesu Grist, fy nod i yw ei wneud e'n enwog, mae fy hunaniaeth i wedi'i ei seilio arno fe. Fe ddarllenes i y bennod 'ma o Rhufeiniaid y dydd wiles i glywed am y prosiect yma yn Amsterdam, ac ro'n i'n gwbod fod Duw yn f arwain i yno; i fynd i wasanaethu'r bobl odd lesu yn treulio'i amser yn eu cwmni, y bobl ma' cymdeithas yn gweld fel niwsans; i fynd allan o'm `comfort zone' i a profi ychydig o realiti'r byd ma ry'n ni'n byw ynddo. Rwy'n byw mewn ty Cristnogol gyda 7 o wirfoddolwyr o ledled Ewrop; 1 o Hwngari, 1 o'r Alban, 3 o'r Almaen ac 1 o Sweden. Am yr wythnose cynta yma ry'n ni'n ymweld a phrosiecte gwahanol ar draws Amsterdam er mwyn gallu dewis pa rai ryn ni eisie gwirfoddoli ynddynt.
Rwy wedi bod yn Amsterdam ers dros dair wythnos bellach ac eisoes wedi cwrdda pobl a gweld sefyllfaoedd o'dd to hwnt i'm dychymyg cynt. Ma'r prosiecte yn cynnwys rhaglenni Cristnogol i blant mewn cymunedau tlawd, ty er mwyn i geiswyr lloches ymgyfarwyddo a'r drefn, canolfannau ar gyfer pobl sy'n gaeth i gyffuriau a phobl di-gartref, cylchgrawn i Gristnogion ifanc, complex o dai ble ma pobl anabl yn byw, llochesi ar gyfer pobl ifanc sydd heb gartref, gwasnaethe yn yr ardal Red Light ar gyfer y di¬gartref, ty 'half-way' ar gyfer troseddwyr, hospis ar gyfer pobl sy' ar fin marw, a lloches argyfwng ar gyfer puteiniaid. Felly ma'r gwaith yn amrywiol iawn!
Rwy' eisoes wedi gweld y bydd y profiad yma yn cyfoethogi fy ffydd oherwydd rwy'n gorfod dibynnu'n llwyr ar Dduw yma; rwy'n troi ato Ef yn gyntaf oherwydd nad oes gen i'r cylchoedd arferol o bobl i ddibynnu arnynt. Rwy'n dod wyneb yn wyneb a sefyllfaoedd bob dydd na fydden i'n gallu ymdopi a nhw cynt, boed e'r ffaith nad ydw i'n gallu siarad Cymraeg yma, neu gwrdda person sy'n anarferol o ymosodol ar y diwrnod oherwydd nad yw e wedi cael ei gyffurie. Rwy'n gwbod mai Duw sy' wedi fy arwen i yma a dwi'n ymddiried ynddo fe; os ddaeth e a fi mor bell a hyn bydd e ddim yn 'y ngadel i!"