Mae yn Uchel Siryf ar Ddyfed, ac yn ail mewn protocol i'r Arglwydd Raglaw, Arglwydd John Morris, ac ef hefyd a chysylltiadau agos iawn a bro'r "Garthen". Cafodd Keith ei apwyntio yn Uchel Siryf yn Neuadd y Cyngor, Aberaeron, ar yr 11eg Ebrill eleni. Rhaid oedd cael Ynad Heddwch yn dyst i'r broses, a hwn oedd John Davies, Prysor, ffrind iddo, eto o fro'r "Garthen". Un arall yn bresennol oedd Ieuan Jones, Dolgrug, ei gyn-brifathro yn yr ysgol gynradd. Mae gwreiddiau Keith yn bwysig iddo. Bu i'r Arglwydd John Morris hefyd gymryd rhan yn y broses, ac fel rhan o'r seremoni yn ei longyfarch yn wresog. Y caplan am y flwyddyn yw ei weinidog, y Parchedig Kevin Davies. Nid yw yn orfodol i gael gwasanaeth eglwysig, ond dewis y capelwr selog yma fydd gwneud hynny yn y dyfodol agos. Dewisodd Keith gymryd y Ilw yn ddwyieithog gan roi'r Gymraeg yn gyntaf. Enwebwyd Keith er cydnabod yr oriau o waith gwirfoddol, amhrisiadwy y mae eisoes wedi rhoi i'w fro ac i'r gymuned. Ni fydd Keith yn cael dim tal am y flwyddyn bwysig yma. Yn wir, bu rhaid iddo dalu am y wisg arbennig, a hon yn costio cryn dipyn. Ein llongyfarchiadau mawr iddo ef, ei briod Eirlys a'r teulu i gyd. Eto, mae Keith yn mynnu mae nid ef yw'r cyntaf o'r teulu i ddal y swydd ond bod yna un arall wedi gwneud hynny ddim mor bell yn ôl. Mae'r hanes yn nes ymlaen. Gyda llaw ni fydd yr Uchel Siryf yn gwerthu'r siwt ddrud ymhen y flwyddyn. Dim o gwbwl. Mae ganddo wyr bach o'r enw Steffan, a bydd dadcu a mamgu yn cadw'r wisg yn ddiogel i Steffan. Efallai bydd arno angen y wisg rhyw ddiwrnod. le, pwy a wyr? Diolch i'r Uchel Siryf am ddod â'r fath anrhydedd i fro'r "Garthen". Olive Carnpden
|