Sail y dysgu oedd Addysg Bersonol a Chymdeithasol; gwneud y plant i fod yn ymwybodol o lwybrau diddorol, o dan ymbarél Operation Christmas Child. Plant dosbarth 4 oedd yn arwain y prosiect. Bu iddynt ddanfon llythyr i bob plentyn yn yr ysgol yn gofyn am flychau, papur lapio ac anrhegion addas i fechgyn a merched, i greu anrheg Nadolig i blant llai ffodus. Roedd yr ymateb yn rhagorol, a'r canlyniad oedd 86 blwch yn llawn o bethau da. Bu i gasgliad y Cwrdd Diolchgarwch yn yr Hydref i fynd tuag at y prosiect yma, gan gofio bod rhaid rhoi dwy bunt o arian ym mhob blwch. Wedi llawer o drefnu a pharatoi daeth y dydd i fynd a'r blychau i Garej Derwydd, Cynwyl Elfed. Cyn mynd, bu gwasanaeth arbennig yn yr ysgol, pryd y gwahoddwyd rhieni i mewn. Nawr mae'r blychau ar eu taith gyda cyfarchion Nadolig plant Ysgol Penboyr yn wresog ynddynt. Yn ei dro eleni eto, daeth DYDD PLANT MEWN ANGEN. Diwrnod Pefriog a Sglefriog oedd hi yn yr ysgol, a'r disgleirdeb yma yn dod i mewn a £135. Da iawn nhw. Yn wir, mae plant Ysgol Penboyr wedi casglu dros fil o bunnoedd y tymor yma at achosion da. Bu i'r Pwyllgor Athrawon a Rhieni drefnu noson gymdeithasol ym mis Tachwedd pryd y daeth The Body Shop Caerfyrddin a Siop Rhian Felindre i'w diddori. Roedd yn noson bleserus a difyr iawn. Delyth enillodd y Make Over. Ond er mor ddel iddi edrych, pwyllgor oedd yn galw arni, ac nid cinio i ddau. Nawr, mae'r staff a'r plant yn edrych ymlaen at weithgareddau'r Nadolig. Maent yn brysur yn ymarfer at berfformio'r Panto, Jac a'r Gneuen Ffa, dechrau Rhagfyr. Wedyn, daw'r cinio a'r parti arferol. Bydd yna drip i Abertawe i fwynhauThe Snowman yn Theatr y Grand.Wedi'r holl waith caled yma, yn bennaeth, staff a phlant, boed iddynt i gyd gael Nadolig llawen, a phob hwyl yn y flwyddyn newydd.
|