Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Garthen
Siân gyda'r teulu Llandysul - Tanzania
Tachwedd 2003
Myfyrwraig meddyginiaeth ym mhrifysgol Caerdydd yw Sian Foulkes o Landysul. Does dim sbel ers iddi ddychwelyd o Tanzania lle bu'n gweithio am rai misoedd yn nhref Masia.

Aeth yno ddechrau Gorffennaf eleni yn gweithio ar brosiect gyda Mad Adventurer yn plannu coed ac adeiladu toiledau i'r ysgol yno. Dyma ychydig o'i hanes.

Mae'n fore dydd Sul. Ar ôl awr wedi gwasgu fel sardins ar y 'dala dala' o'r dre, ac yna tua tri chwarter awr arall yn cerdded hanner ffordd lan Kilimanjaro, r'ym ni wedi cyrraedd tu fas i'r Eglwys. Mae pawb yn eu 'Kangas' gorau, yn cynnwys ni. Yna rownd y gornel daw rhywun ar ben moped. Golygfa digon anarferol yw hwn gan taw ar droed â pawb o gwmpas fel arfer fan hyn. Ond yna dyma ni'n sylweddoli taw'r ficer sy'n dod oddi ar y moped.

Ar ôl gwasanaeth, digon tebyg i fore dydd Sul yn Llandysul cymaint ag oedden ni'n ei ddeall, heblaw bod lot mwy o ganu a chyflwyno llond llaw o ferched dieithr i'r holl bentre, mas a ni nôl i'r haul (oedd gyda llaw yn lot mwy prin na'r disgwyl!). Ond yn lle'r clecs arferol, dyma'r ficer yn rhoi ei gap ocsiwnier arno a dechrau gwerthu'r pethau a ddaeth y bobol gyda nhw - popeth o fananas i fwndel o borfa! Erbyn i ni adael, roedd gennym chwech banana, tri afocado a dau ddarn chwe troedfedd o 'sugar cane' fel anrhegion! A dyma'n croeso nil Masia, a'i phobol.

A dyna sut y bu gweddill fy amser yn Tanzania. Rhai digwyddiadau bach eitha' od, eitha' doniol wrth feddwl amdanynt. Un enghraifft a ddaw i'r cof yw eistedd mewn 'tafarn', tebycach i sied yn yr ardd (yn llythrennol!) yn rhannu bwced o 'mbege' (cwrw banana - mor flasus ag mae'n swnio!) gyda hen 'African mama'. Ond y peth wna i gofio fwya' yw pa mor groesawgar oedd pawb, a pha mor ddiolchgar oeddent am y gwaith roedden ni'n ei wneud. Ar ôl cael ein cyflwyno yn yr eglwys, roedd pawb yn ein' nabod a phawb yn awyddus i ddweud helo a'n tynnu i fewn i gael blas arall o mbege.

Yr un oedd y stori gyda fy 'nheulu' i. Ces fy nghymryd i fewn fel un ohonynt - wedi fy ngraddio rhwng y ddau fab a'r ferch hynaf, a'r tri mab a'r ferch ieuengaf - yn ôl fy oedran. Er eu bod yn dlawd iawn o ran eiddo wrth gymharu â fi (ty bach pren, dim trydan coginio mewn crochan uwchben tan agored), roeddent yn awyddus iawn i ngwneud yn gartrefol, ac yn awyddus i ddysgu am fy mywyd i adre' gymaint ag oeddwn i am ddysgu am Tanzania. Hyd yn oed ar y diwrnodau pan nad oedd digon o arian i ddanfon y plant i'r ysgol, roeddent yr un mor benderfynol i fy mwydo nes i fi bron a byrstio!

Rwy'n credu i fi ddysgu llawer yn fy amser byr i yno. Y plant i gyd yn chwareus fel plant unrhyw le arall yn y byd, ond yn awyddus iawn i ddysgu - ac i weithio'n galed. Yn aml byddant yn cerdded am awr i'r ysgol ac wedi dychwelyd yn mynd i gasglu twmpath anferth o goed tan i goginio swper, hynny ar ôl palu yng ngardd yr ysgol i dyfu eu cinio, a glanhau'r dosbarth. Roedd pawb yn hapus heb yr holl eiddo sy' gyda ni. Fe ges i dipyn o sioc pan ges i gynnig plentyn i ddod nôl gyda fi - er mwyn ei danfon hi i'r ysgol!

Yr unig sialens nawr, yw i fi gofio hyn i gyd ar ôl dod nôl at bopeth sy' gen i yng Nghymru a chofio fy ffrindiau yn Tanzania,a geiriau cân y plant yn ein gwasanaeth diolch.

"We will think of you when we use our new latrines"!

Siân Foulkes


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý