Bydd y tîm yn chwarae gêmau yn Barbados, Trinidad a Guyana. Mae Rhun yn ddisgybl yn Ysgol Dyffiyn Teifi ac yn gapten ar dim Canolbarth Cymru ers sawl blwyddyn. Mae yn chwarae gyda chlybiau criced Bronwydd a Llanybydder ac wedi chwarae i dîmau Cymru ers pan yn 11 oed. Eleni Rhun oedd y Capten ar dîm dan 14 oed Cymru. Bu hefyd yn chwarae i dîm dan 15 Cymru ac yn aelod o'r tîm a enillodd yn erbyn Surrey yng ngem derfynol Pencampwriaeth y Siroedd gan gymryd 3 wiced am 15 rhediad. Mae Rhun wedi sgorio dros 1500 o rediadau y tymor yma gyda 3 canrif; un gyda thîm cyntaf Bronwydd yn erbyn DVLA Mond mewn gêm gynghrair, un arall gyda thîm dan 14 Cymru yn erbyn Swydd Caerlyr yn Kegworth, Nottingham a'r un ddiwethaf ar ddiwedd mis Awst gyda thîm Dan 14 Canolbarth Cymru yn erbyn Sir Benfro ac hynny ym Mharc Llandysul. Mae hefyd wedi cael 7 hanner canrif gyda chyfartaledd o 46 rhediad. Bu Rhun hefyd yn chwarae gyda thîm dan 14 oed Gorllewin Lloegr yn nhwrnamaint Rhanbarthau Lloegr yn Oundle ger Peterborough yn ystod yr haf. Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i ti Rhun oddiwrth dy ffrindiau i gyd.
|