Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Garthen
Owain Evans yn holi rhai o bobl y Tymbl gyda bws Â鶹ԼÅÄ Cymru Stori chaiff mo'i hadrodd ar y Post Cynta'...
Ebrill 2006
Dyddiadur dydd Owain Evans sy'n gweithio fel gohebydd gyda'r Â鶹ԼÅÄ yn y gorllewin.

Dydd Mawrth 17eg Ionawr 2006, 12.3Oyh

Wrth i fi sgrifennu hwn dwi'n styc wrth ochr y ffordd ychydig filltiroedd y tu allan i Rydaman. Y clutch sy' 'di mynd, a mynd wnaeth e fyd! Wasges i e fewn i newid gêr a ddaeth e ddim nôl mas. Felly be wna i nawr? Dwi eisoes 'di cael gafael ar rifau garejys lleol a dwi 'di ffonio rhyw Sais o'r enw Dave yn Rhydaman i ddod mas.

Mae'n siŵr fod hyn yn ddigwyddiad digon cyffredin i ohebwyr sy'n gyrru o gwmpas ar drywydd stori bob dydd. I ddweud y gwir dwi'n synnu nad yw e 'di digwydd cyn hyn a finne'n teithio cymaint bob dydd. Dwi'n gorfod gwneud ers cymeryd drosodd fel gohebydd Gorllewin Cymru'r Â鶹ԼÅÄ tra bod Anwen Francis ar gyfnod mamolaeth.

13.00yh

Mae sŵn tic toc y golau sy'n rhybuddio ceir eraill mod i 'di torri lawr yn dechrau mynd ar fy nerfau nawr a dyw'r ffaith fod angen tŷ bach arna' i ddim yn helpu. Mae 'na gloddiau bob ochr i'r ffordd ond â hithau'n ganol lonawr does dim digon o ddail ar y perthi i fi fedru cuddio a dwi ddim eisiau cael fy arestio!

13.40yh

Ble ddiawl mae'r boi 'ma? Mond o Rydaman mae'n rhaid iddo fe ddod. Ocê, digon teg, dwi ddim yn mynd i unman ar hast, ond o'n i'n disgwyl help bach ynghynt na hyn! Mae'r fenyw ar ben arall y ffôn newydd ddweud ei fod e ar ei ffordd felly mond disgwyl alla' i wneud. O'n i fod yng Ngwauncaegurwen erbyn un, wedyn nôl i Drefach Felindre ganol prynhawn ac yna yn Llechryd tua pump. Dyw hi ddim yn argoeli'n dda. Dwi 'di neud yswiriant yn ddiweddar. Roedd y llall yn cynnwys cymorth tasen i'n torri lawr. O'n i 'di bwriadu ymuno â'r AA neu'r RAC bore 'ma and ches i ddim cyfle.

14.00yh

Mae'r fenyw o'r garej newydd ffonio: "I can't find him anywhere so I'm sending my son and his friend". lawn medde fi, 'mond gobeithio fod y ddau gyw-fecanic 'ma'n gwbod be' maen nhw'n ei wneud.

14.1Oyh

Allen i gicio fy hun... a' garej arall canllath lawr yr hewl!

14.20yh

Erbyn hyn dw i yn y garej yn Rhydaman. Mae'r lle'n drewi o gŵn ac olew. Yn ogystal â thrwsio ceir mae'n nhw'n delio â sgrap. Gobeithio na ddaw hi i hynny. Mae nhw 'di cael gafael ar weiren clutch newydd. Ddyle fe fod gyda nhw o fewn awr. Dwi 'di cael sandwich felly dwi'n hapusach.

14.45yh

Dwi newydd sôn wrth berchennog y garej beth yw ngwaith i. Dwi ddim yn gwybod p'un ai fydd hynny'n fantais neu'n anfantais. Ar un llaw fe allen nhw wneud jobyn da am bris rhesymol, ar y llaw arall mae'n bosibl yn byddan nhw'n codi mwy arna' i achos mod i'n gweithio i'r Â鶹ԼÅÄ. Ddylen i 'di dweud mod i'n gweithio i Watchdog neu X-Ray.

15.00yh

Dwi'n eistedd mewn caffi yn Rhydaman nawr yn yfed coffi llaeth. Mae pawb yn siarad Saesneg ond mae'n nhwn swnio fel tasen nhw'n gallu siarad Cymraeg yn iawn.

15.40yh

Coffi llaeth arall, yn yr un myg. Mae dyn bach newydd fod mewn yn cwyno ei fod e 'di gwario ei arian i gyd yn siopa a'n trio cael te am ddim. Chafodd e ddim lwc and fel Cardi da dwi'n edmygu ei hyfrdra fe.

16.30yh

Nôl yn y garej a'r car yn barod diolch byth. Dwi 'di setlo a'n barod i'w throi hi am adre. Wela' i ddim mo' Gwauncaegurwen heno mwy na Drefach Felindre na Llechryd. Mae 'na alwadau ffôn wedi eu gwneud i ganslo ac mae'r swyddfa yng Nghaerdydd yn gwbod na fydd yna eitem ar gyfer y rhaglen bore fory. Trueni, achos roedd hi'n stori dda 'fyd.

Mae Owain Evans yn gweithio fel gohebydd gyda'r Â鶹ԼÅÄ yn y gorllewin. Os oes stori gyda chi cysylltwch ag e ar 01267 225728.

  • Cliciwch yma i weld lluniau o Owain Evans yn gohebu yn y gorllewin


  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý