Ar nos Wener 21ain o Hydref, lansiwyd map hanesyddol plwyf Llanfihangel ar Arth yn neuadd yr ysgol. Daeth tua 50 0 bobol ynghŷd i weld arddangosfa hen luniau'r plwyf a baratowyd gan aelodau'r clwb hanes yn ogystal â'r map a gynlluniwyd gan y clwb hanes lleol. Croesawyd pawb gan Calvin Griffiths a John Davies a gwnaeth y ddau esbonio sut aeth aelodau'r clwb ati i ddewis a dethol pynciau ar gyfer y map sy'n gofnod o'n gorffennol cyfoethog. Dangoswyd rhai o'r cynlluniau cynnar a darllenodd Calvin y gerdd isod a gyfansoddwyd yn arbennig ganddo i'w rhoi ar y map:
Plwyf Llanfihangel Plwyf ffrwythlon o hanes Trwy'r oesoedd, a gwêl Y bryniau a'r cymoedd A'u creithiau sy'n fêl. Castelli, brenhinoedd A'u llwybrau sy'n fyw. Y brwydrau a'r grefydd Mae'r wefr yn ein byw. Mae'r map yn cynnwys 29 o lefydd pwysig yn hanes y plwyf ac mae eglurhâd wrth ochr sy'n rhoi tipyn bach o hanes am bob un o'r llefydd hynny. Mae yna hefyd hanes rhai enwogion y plwyf gan gynnwys Gwrtheyrn, arweinydd gydag enw drwg o'r burned ganrif; yr hen ŵr o Bencader; Stephen Hughes a ddechreuodd eglwys ymneilltuol ym Mhencader yn 1650; Christmas Evans, un o'r pregethwyr grymusaf ei oes; Evan Stephans a arweiniodd côr y Mormoniaid yn eu prif ganolfan a Nantlais Williams a gyfansoddodd barddoniaeth ac emynau yn y 19eg ganrif. Maint A1 yw'r map ac mae'r testun yn y Gymraeg. Cynlluniwyd y map hwn gan Glwb Hanes Lleol Llanfihangel ar Arth a thynwyd y map gan Gareth Coles ac argraffwyd gan Wasg Gomer. Ariannwyd costau cynhyrchu'r map -an grant Cronfa Arian Bach o Filltir Sgwâr, Sir Gar ac rydym fel clwb yn ddiolchgar iawn iddyn nhw am wneud hynny. Cafwyd lluniaeth ysgafn ar ddiwedd y noson a chafodd pawb gyfle i sgwrsio ac edrych dros yr arddangosfeydd. Roedd hi'n noson gymdeithasol hyfryd ac hoffem ddiolch yn fawr i bawb a ddaeth i'r achlysur arbennig hwn. Os oes diddordeb gennych mewn prynu map, mae copiau ar werth am £3 yr un, cysylltwch nail ai â Gerald Coles ar 01559 384987 neu Margaret Bowen ar 01559 362215. Mae hefyd groeso mawr i chi ymunoo â ni yn y Clwb Hanes sy'n cwrdd bob pythefnos, am ragor o fanylion cysylltwch a Gerald neu Margaret.
|