Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Garthen
Mrs MM Jones a'i chwaer Dwy chwaer yn dathlu
Rhagfyr 2009
Hanes dathliadau penblwydd Mrs MM Jones yn gan mlwydd oed yn Hydref 2009.

Bu dathlu mawr yng Nghartre'r henoed Blaendyffryn Dydd Gwener, Hydref 30ain pan oedd Mrs M. M. Jones gynt o Fryncynon, Capel Cynon yn 100 oed.

Yn enedigol o Gwm dâr daeth MM i fyw yn yr ardal yn 1946 ar ôl iddi briodi Dewi (Dewi Llwynteg).

Roedd y ddau yn adnabyddus iawn ym myd y gwennyr a'r mêl ag wedi teithio led led Cymru a thuhwnt o sioe i sioe.

Teilwres oedd MM yn ôl ei galwedigaeth ac roedd yn medru gwneud rhyfeddodau gyda nedwydd ac edau.

Roedd gwneud nwyddau allan o gwyr hefyd yn un o ddiddordebau MM.

Ymhell cyn i ni glywed sôn am y rhaglen deledu ar ddawnsio, roedd dawnsio `ballroom' yn boblogaidd iawn yr yr ardal pan fyddai Dewi ac MM yn rhoi gwersi dawnsio i'r bobl leol yn Neuadd Maesymeillion.

Nes iddi golli ei hiechyd ym 1996 roedd yn aelod gweithgar o'r Lleng Brydeinig a Merched y Wawr ac yn ffyddlon iawn at yr achos yng Ngharmel, Prengwyn. Dathlodd MM gyda'i theulu a ffrindiau, ond roedd un gwestai arbennig, sef Mrs Edith Bound chwaer MM o Aberdar a oedd yn dathlu ei phen-blwydd hithau yn 90 oed ar yr un dydd.

Ar ran MM mae'r teulu am ddiolch i bawb a wnaeth alw mewn neu ddanfon cyfarchion iddi ar ei phen-blwydd.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý