Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Garthen
Geraint Lloyd o Radio Cymru yn ymweld â'r ysgol Newyddion Rhagfyr o Aberbanc
Rhagfyr 2006
Bu diwedd tymor 2006 yn un prysur iawn i ddisgyblion ac athrawon Ysgol Gynradd a Meithrinfa Aberbanc.
Diwedd tymor 2006
Bu'r plant yn rhedeg trawsgwlad yn Ysgol Dyffryn Teifi yn y bore wedi'i drefnu gan ddisgyblion blynyddoedd 12 a 13. Ar nos Fawrth bu'r plant yn gwneud addurniadau Nadolig allan o nwyddau ail gylchu lle y byddant yn mynd â hwynt i'r ardd fotaneg i addurno coeden Nadolig. Ar ddydd Iau bu'r plant yn gweithio ar eu prosiect menter a busnes yn gwneud pethau i werthu ar y stondin yn Llandysul yn y ffair Nadolig, fe fydd y stondin yn cynnwys cardiau calendrau a chacennau. Bydd gwasanaeth Cristnogol ar nos Fawrth 12fed yn eglwys Hellan.

Daeth Nicola Davies draw i ysgrifennu barddoniaeth a phenillion gyda'r dosbarth hyn. Bu aelodau'r Urdd ar nos Fercher yn gwneud crochenwaith gyda mr Robert Blayney a chael hwyl a diolch i'r rhieni am eu help parod. Dydd Iau cafwyd bore hyfryd ar fferm y cwrt yn gweld Mrs Enfys Wyse yn pobi ac yna i orffen y dydd mewn steil, cafwyd taith gerdded noddedig a mwynhau picnic ar lan yr afaon yn Henllan.

Cwis Llyfrau- Llongyfarchiadau i'r ddau gwis llyfrau a wnaeth mor dda - y ddau dîm yn cael mynd drwyddo. Y ddau dim oedd Ryan, Ffion Haf, Alice James a Ffion Rees, Tristan, Tomos Knight a Ceinwen. Pob lwc yn y rownd nesaf.

Aeth plant derbyn bl 4 lawr i gartref Henllan i droi'r golau Nadolig ymlaen ac i ganu i'r trigolion, cafwyd brynhawn hwylus dros ben yng nghwmni'r trigolion ynghyd â chael bwyd blasus i orffen.

Cariwyd ymlaen gyda gwneud addurniadau Nadolig ar gyfer addurno'r goeden yn yr ardd Fotaneg.

Bu'r plant yn gwerthu cacennau yn y Ffair Nadolig gan wneud £80

Llongyfarchiadau i Hawys Hatley ar ei llwyddiant yn y maes nofio gan ddod yn gyntaf a 3ydd yng ngala nofio'r Urdd. Llongyfarchiadau iddi hefyd yn y maes Karate. Dymunwn wellhad buan iddi yn dilyn ei arhosiad yn yr ysbyty.

Ysgol Feithrin
Cofiwch bod yr ysgol ar agor bob bore gan ddymuno'n dda i Miss Karen fel arweinyddes newydd y Cylch. Cadwch lygad mas am y catalog siocledi sydd yn mynd o amgylch - anrhegion da ar gyfer y Nadolig wrth i chi helpu'r Ysgol Feithrin.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý